Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gadeirydd

gadeirydd

Cynrychiolir Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y cyfarfod gan Nia Williams (Is-Gadeirydd) a Dafydd Morgan Lewis (Swyddog Ymgyrchoedd y Cynulliad).

Penderfynodd y Pwyllgor ethol yn Gadeirydd y Parch.

Ffacsiwyd ein hymateb at y tri arweinydd Cyngor yn Neuadd y Sir heddiw, ac ynddo mynna Cyd-Gadeirydd y Gymdeithas, Aled Davies, fod adolygiad trylwyr o Bolisi Iaith y Cyngor yn digwydd a noda bod obsesiwn y cyngor gyda rheolwriaeth yn troi pobl ifanc, ynghyd â phobl proffesiynol, i ffwrdd o'r broses ddemocrataidd, gan eu bod yn teimlo na fydd neb yn sylwi ar eu barn.

Awdurdodwyd y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd yr Is-bwyllgor Staff neu Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli a'r Prif Swyddog perthnasol neu Reolwr y Gwasanaethau Uniongyrchol i ddelio'n derfynol ag achosion o'r natur hwn.

Datblygodd hi i fod yn un o golofnau'r pwyllgor a buan iawn y daeth yn gadeirydd.

Y rheswm am gyfeiriad gwyrdroedig y Gymdeithas yw ein bod yn cael ein harwain gan 'griw o eithafwyr ynghlwm wrth werthoedd y saithdegau'. Roeddwn i'n ddyflwydd yn 1970 ac roedd fy nau Is-Gadeirydd rhywle yn y minws.

Mae rhyw arlliw cenedlaetholaidd ar y ddogfen hon hefyd ac yn wir y mae Philip Cooke, a fu'n gyfrifol am beth wmbredd o argymhellion mwyaf ymarferol yr adroddiad, yn gyn-is-gadeirydd y Blaid.

Yn hynny o beth, meddai un aelod amlwg, roedd penodi Elan Closs yn ddirprwy gadeirydd yn benderfyniad pwysig.

Penderfynodd y pwyllgor (oedd yn cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a'r ddau Is-Gadeirydd) hefyd mai doeth fyddai pwysleisio swyddogaeth y Pwyllgor Cyllid yn ei waith o gadw trefn ar y treuliau trwy gyhoeddi rhybudd yn y London Gazette na fyddid yn anrhydeddu unrhyw ddyled os nad oedd y Pwyllgor Cyllid wedi rhoi ei fendith arno ymlaen llaw.

CYTUNWYD foddbynnag y byddai'n ofynnol i Gadeirydd y pwyllgor hwnnw fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol.

Cyn iddo fynd i Gadair y Cyngor bu am ryw bum mlynedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llenyddiaeth, yn gofalu am raglen gyhoeddi'r Eisteddfod ac yn gwirio a chadarnhau ei thestunau llên flwyddyn ar ôl blwyddyn gan gadw'r ddysgl yn wastad rhwng yr amryfal is-bwyllgorau lleol a'r canol.

Breuddwyd y ddiweddar Shân Emlyn, cyn gadeirydd Cymdeithas Cymru Ariannin, oedd ffilmio'r Misa Criolla a Mary Simmonds a Ceri Sherlock o gwmni teledu Teliesyn sy'n llafurio ers dyddiau yng ngwres Rhagfyr i droi'r freuddwyd yn rhaglen deledu.

Ymateb Aled Davies, cyd-gadeirydd y Gymdeithas oedd amau cymhelliad yr ymateb: 'Byddwn yn cwestiynu pa mor debygol yw hi y byddai'r tri arweinydd yma wedi dod at ei gilydd o'u gwirfodd i greu ymateb unedig.

Yn ôl Branwen Brian Evans, cyd-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mae'n warthus fod yr Archwilydd Dosbarth yn ceisio gorfodi polisi addysg arbennig ar y cyngor ac ar y sir.

'R oedd yr hen ysgol dan ei sang gyda'r cyn-reithor, y Parchedig William Roberts, yn gadeirydd.

Bu'n rhaid i gyd-gadeirydd Cymdeithas yr iaith Gymraeg, Branwen Brian Evans o Aberystwyth, dreulio awr a hanner yn Swyddfa'r Heddlu Aberystwyth neithiwr (Nos Lun Rhagfyr 4ydd). Cafodd ei holi ynglŵn ag ymgyrch dor-cyfraith y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ei gynnal yn erbyn Coleg Ceredigion.

Fe yw is-gadeirydd Pwyllgor Ffoaduriaid y Gwersyll.

Yn ogystal â'r Cadeirydd fe etholir: (i) is-gadeirydd ymchwil a pholisi; (ii) is-gadeirydd cyfathrebu a lobïo; (iii) is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol.

Ychydig ddyddiau cyn y Nadolig diwethaf, anfonais lythyr i'r Wasg yn amddiffyn penodiad Mr Graham Hulse yn gadeirydd Awdurdod Iechyd Gwynedd.

Llongyfarchiadau i'n Cadeirydd, Mrs Audrey Jones, ar gael ei hethol yn Gadeirydd Sir Sefydliad y Merched, Ynys Mon.

Mae'n gyn-gadeirydd a llywodraethwr ysgol gynradd leol, yn un o swyddogion Clwb Athletau Pontypridd ac wedi rhedeg marathon Llundain bum gwaith.

Eleni, hefyd, ar ôl i'r Gymdeithas fod ar yr hen ddaear yma am deugain namyn dwy o flynyddoedd fe lwyddwyd i wneud rhywbeth, chwyldroadol, na wnaethom erioed o'r blaen, sef apwyntio dau gadeirydd.

Yn dilyn ei anerchiad fe geir trafodaeth o dan gadeiryddiaeth Alun Llwyd, Is Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Wedi ei throi hi am y neuadd yr oedd pawb, wedi mynd i wrando ar John Edmunds, Plas Deri, yn bwrw trwyddi ar ôl cael ei ethol ar y Cyngor Sir a hefyd yn Gadeirydd Cyngor y Dref.

Mae wedi bod ar Bwyllgor Rheoli'r Gymdeithas ers tair mlynedd a hanner ac yn ogystal a bod yn Drysorydd, mae'n Gadeirydd yr Is-Bwyllgor Adnoddau a Chyllid.

Ymhlith yr aelodau yr oedd: Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor y Llyfrgell; Edward Lewis, Cyhoeddwr, Llandysul (yno fel Cynghorwr); dau athro wedi ymddeol, ond yn Gynghorwyr; dwy wraig o Aberystwyth; Prifathro Ysgol Uwchradd, a Phrifathro Ysgol Gynradd.

Dirprwyon Cadeirydd ac Is-Gadeirydd Pwyllgor Polisi y Cyngor, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd yr Is-bwyllgor Staff, Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith perthnasol.

Adroddiadau eraill sy'n ychwanegu at flas y stori yw bydd y cyn-gadeirydd, Steve Hamer, adawodd y clwb wedi ffrae efo'r cadeirydd presennol, Neil McClure, hefyd yn rhan o'r consortiwm.

Yn dilyn y newyddion, mae Ieuan Wyn Jones, AS Ynys Môn, wedi gofyn am sicrwydd gan gadeirydd yr Awdurdod, David Rowe-Beddoe, y bydd y swyddfa'n aros yn agored.

"Mae pob cenedl arall wedi bod yn dathlu eu gwyliau mewn ffordd arbennig bob blwyddyn ac yr oedd yn hen bryd i'r Cymry wneud yr un fath," eglurodd Julian Phillips o Dreorci sy'n gadeirydd y Clwb.

Yn ei dro bu'n gadeirydd Cyfundeb Annibynwyr Gogledd Arfon ac yn llywydd Cyngor Eglwysi Efengylaidd Cyffordd Llandudno.

Yn lle'r holl swyddi cyfredol eraill ar y senedd, cadarnhawn y bydd angen y swyddi canolog canlynol: (i) golygydd 'Y Tafod'; (ii) trysorydd; (iii) swyddog masnachol a fyddai'n gyfrifol am fentrau; (iv) swyddog adloniant; (v) is-gadeirydd gweinyddol.

Mae hefyd yn rhestru cerddoriaeth a chanu ymhlith ei weithgareddau hamdden gan ei fod yn gyn-gadeirydd côocirc;r cymysg Godre'r Garth ac yn aelod o Barti'r Efail, parti cerdd dant sy'n cyfarfod yn Efail Isaf.

Bydd aelodaeth y Senedd gyflawn ar ei newydd wedd fel a ganlyn: (i) cadeirydd; (ii) is-gadeirydd ymchwil a pholisi; (iii) is-gadeirydd cyfathrebu; (iv) is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol; (v) is-gadeirydd gweinyddol; (vi) trysorydd; (vii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp ymgyrch Deddf Iaith i'r Ganrif Newydd; (viii) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Addysg; (ix) cynullydd a chynrychiolydd arall o'r grŵp Ymgyrch Cymunedau Rhydd; (x) cadeirydd pob rhanbarth (ynghyd â chynrychiolydd ychwanegol mewn rhanbarthau lle mae celloedd byw oddi fewn iddi, sef adolygiad blynyddol yn unol â'r defn bresennol); (xi) golygydd Y Tafod; (xii) swyddog masnachol; (xiii) swyddog adloniant; (xiv) hawl i gyfethol 3 aelod e.e. i redeg ymgyrch dros dro arbennig neu i gel cynrychiolydd uniongyrchol o gelloedd myfyrwyr.

Ar unwaith creodd y Blaid Bwyllgor Amddiffyn yn Y Bala gyda Mrs Morovietz, a aned yng Nghapel Celyn yn ferch i Watcyn o Feirion, yn ysgrifennydd hynod o effeithiol a gweithgar, a Dafydd Roberts o Gaefadog yn Nghwm Tryweryn yn gadeirydd.

Penodi Ian Macgregor yn Gadeirydd y Gorfforaeth Ddur.

Mae dirprwy gadeirydd newydd y Bwrdd, Elan Closs Stephens, hefyd yn credu by bydd yn gyfle go iawn i ddangos na fuon nhw'n llaesu dwylo ers saith mis.

Dychmygwch am eiliad eich bod wedi cael eich ethol yn Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, neu'n arwain un o ymgyrchoedd y Gymdeithas.

Yn ystod yr wythnosau cyn y cyfarfod blynyddol roedd y siarad ar y stryd, ac yn enwedig ymysg y rheini sy'n trafod materion fel hyn, nid yn trafod pwv oedd yn mynd i gvmrYd trosodd gan John Major na phwy oedd i olynu John Smith, ond pwy oedd yn mynd i fod yn Is Gadeirydd y Cyngor eleni ac i lynd i'r Gadair y flwyddyn nesaf.

Bydd yr is-gadeirydd gweinyddol yn parhau â chyfrifoldeb am weinyddiaeth y Gymdeithas a gofal am ein swyddfeydd a'n swyddogion cyflogedig ac am arolygu'r swyddi cyllidol.

Maen amlwg ei bod yn ddyddiau lladd nadroedd i gadeirydd Railtrack.

PENDERFYNWYD fod cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Thai i gymryd ei le.

Lle bo bwlch, dylai'r is-gadeirydd perthnasol ei lenwi.

Cofiaf y diweddar Harry Roberts, cyn gadeirydd y Cor, ac yn un o'r dynion mwyaf ffraeth i mi ei adnabod, yn adrodd hanes y Cor yn canu mewn tref gyfagos ac organydd y capel, lle cynhaliwyd y cyngerdd, a oedd hefyd yn adnabyddus fel cerddor, yn gwrthod i Ffrancon gael defnyddio'r organ!

fod disgwyl i'r Is-gadeirydd ymgyrchu gweithredol (a'r swyddog sydd â chyfrifoldeb dros y maes) gynorthwyo a hybu gwaith cadeiryddion rhanbarth).

Mae'r ddau Gyngor yn gorff annibynnol gyda'i gadeirydd ei hun, ond gwasanaethir y Cynghorau gan un uned weithredol.

Pasiwyd Deddf Iaith wan -- gan esgusodi cyfeillion y Torïaid mewn cwmnïau preifat rhag gwneud dim -- a phenodwyd yr 'Arglwydd' Dafydd Elis Thomas yn gadeirydd ar y Bwrdd.