Wedyn ceir dau hanes am ddyfod o Faelgwn Gwynedd, ac yn ddiweddarach ei fab, Rhun, i ddiffeithio Gwent ac adroddir sut y'u trechwyd gan Gadog trwy gymorth Duw.
Dywedir i Gadog fod yn berchen ar ddarn o dir ar lan yr afon Liffey, yr afon y gorwedd Brên drosti er mwyn ffurfio pont i'w wŷr.
Ym Mabinogi Manawydan mae crefftwyr eiddigeddus yn bwriadu lladd Manawydan a Phryderi ac yn y Vita Cadoci fe geir hanes adeiladydd o Wyddel y rhagorai ei waith ar waith y crefftwyr eraill a gyflogid gan Gadog gymaint nes iddynt ei ladd.
Yn y Vita Cadoci fe adroddir enfances y sant a diddorol yw sylwi bod anifail, sef buwch, yn cael ei gipio oddi wrth y dyn a fydd yn athro i Gadog y nos y genir y bachgen, amgylchiadau sy'n peri inni feddwl ychydig am Bryderi a Theyrnon.