Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gaent

gaent

Dyna sut y byddent yn diolch am y croeso a gaent yno.

Gan eu bod heb gydymdeimlad â'r ffordd o fyw yn y cymunedau a gaent yno, roedd dod wyneb yn wyneb ag iaith gwbl estron yn brofiad brawychus.

Cynigiai Dwynwen gymorth i'r ddau ryw a heidiai pererinion i'w ffynnon ar Ynys Llanddwyn i wybod a gaent eu cariadon ai peidio.

O sbio'n ol, cildwrn tila iawn a gaent am eu gwasanaeth, ond cynhyrchodd y gyfundrefn honno genhedlaeth o wragedd ty a theuluesau dan gamp.

Oherwydd diffyg cyd- drefnu cenedlaethol effeithiol, cafwyd peth ymrannu, ond yn y diwedd bu ffyddlondeb y Beirdd i weledigaeth Iolo Morganwg, eu teyrngarwch i'r traddodiad barddol, y boddhad a gaent o gael cydnabyddiaeth gwlad am eu campau barddol trwy gael eu hurddo ac, yn bennaf oll, yr ymdeimlad fod gan y gymdeithas farddol 'hynafol' hon rywbeth mwy nag y medrai cyfundrefn a chyfansoddiad ei gynnig, sef yr hyn a elwid gan Orseddogion y ganrif ddiwethaf yn 'awdurdod', yn ddigon o atgyfnerthiad iddi oroesi, er gwaethaf yr holl feirniadu.

Fe gaent eu gorfodi i'r lefel isaf un, lle'r oedd y peiriannau mawrion a redai'r Ddinas.

Os yw'n credu bod teulu a chymdogaeth yn sefydliadau sy'n gymorth i bobl gael bywyd helaethach nag a gaent hebddynt, ceisia'r gwleidydd sicrhau amodau sy'n help i'w cynnal a'u cryfhau.

Ar yr un pryd, wrth gwrs, rhaid dweud y câi'r dychweledigion, wrth ddarllen, fwy o hamdden i ddatod y dyrnau hyn nag a gaent wrth wrando.