Y mae yna gred gyffredinol fod yma doreth o ddŵr wedi ei gaethiwo yn rhewllyd mewn cilfachau dyfnion o'i mewn yn union fel y ceir rhew parhaus o fewn y Twndra yma ar y Ddaear o fewn yr Artig oer.
Anodd dirnad sut y medrodd gadw ei synhwyrau wrth gael ei gaethiwo ar ei ben ei hun, mewn tywyllwch, wedi'i gadwyno, am yr holl flynyddoedd.
am gyflawni trosedd gyffelyb, dedfrydid yr euog i gyfnod o alltudiaeth am saith mlynedd, tra byddai'r troseddwr a ddedfrydid gynt i dymor o benyd wasanaeth, yn debygol o gael ei gaethiwo mewn carchar ym Mhrydain.
Nid oedd ei afiechyd yn ei lwyr gaethiwo a'i lethu: 'nawr yn llewygu ar fin tranc', meddai wrth R.
Ystyr prynedigaeth, yn ôl y drefn honno, oedd y weithred o dalu pridwerth er mwyn rhyddhau rhywun neu rywbeth a fu gynt yn rhydd ond a gafodd ei gaethiwo.