Fel gŵr cadarn ei argyhoeddiad gafaelai Jacob ym mhopeth gyda'i holl egni a rhoi o'i orau glas er sicrhau urddas a graen i'w gyfraniad.
Gafaelai'r dwblwr mewn un pen o'r llafn a'i ddyblu ar lawr y felin, ac yna ei godi at fwrdd y shêr, ei gymhwyso, ei roi o dan y gwasgwr, ei drin o dan y gyllell, ac yna ei daflu ar draws y felin at y gweithiwr ffwrnais.
Beth bynnag oedd y broses ar lawr y felin, gan y dalwr yr oedd y gair olaf, oblegid ar y part olaf, wedi i'r rowlwr dynnu'r wythau i'r hyd gofynnol, gafaelai'r dalwr yn y llafn a'i daro ar lawr y cefn i ennill momentwm, a'i roi'n daclus mewn pentwr o'r neilltu.
Gafaelai mewn un pen o'r senglen gyda'r efail a cheisio'i throi ar lawr y felin.
Gafaelai'r rhew am ei gorff yr un fath â phawen arth wen yn glynu mewn morlo bach "Helpwch fi, ffrindiau annwyl, helpwch fi!' Ceisiodd Alphonse weiddi, ond syrthiodd yn llonydd ar y ddaear.