Beth am yr adegau eraill pan ofynnwyd imi dreulio cyfnodau yn Washington, yn benodol pan gafodd Ronald Reagan, George Bush a Bill Clinton eu hethol yn arlywyddion.
Ond mi gafodd hi rwbath i gnoi arno fo, o do, a'i gnoi o'n hir hefyd hefo'r hen ddannedd gosod 'na sgyni hi.
Yr wythnos yma, saith allan o ddeg gafodd Rhodri Morgan gan Paul Starling o'r Welsh Mirror am ei berfformiad fel Prif Weinidog Cymru.
Sgoriodd Matthew Elliott 62 i Forgannwg - sgôr uchaf y batiad, ac yn ystod y prynhawn fe gafodd y batiwr agoriadol o Awstralia ei gap gan Matthew Maynard.
Patrick Kluivert sgoriodd bedair o'r goliau - record yn rowndiau terfynol Pencampwriaeth Ewrop - a Marc Overmars gafodd ddwy arall.
Roedd hi wedi mynd i'w gwely yn weddol fuan, i blesio'i mam yn fwy na dim, ac wedi dechrau darllen un o'r llyfrau a gafodd yn y llyfrgell.
Gyrfa anesmwyth a gafodd Edmund Griffith.
Yn 1990 y cyrhaeddodd Hywel Llewelyn Cwmderi a hynny pan gafodd swydd fel athro yn yr ysgol gynradd gyda Beth James.
Mae'n mynnu taw ganddo ef y ceir y dehongliad cywir, yn wahanol i'r un a gafodd ei lygru gan wledydd Arabaidd eraill.
Gweddnewidiwyd y gêm gan ddiffyg disgyblaeth difrifol Nigel Jemson, capten Yr Amwythig, a gafodd ei hel o'r maes eiliadau cyn yr egwyl.
Yn aml fe gafodd y Chwaer Jean ei dihuno gan filwyr arfog ganol nos a'i chroesholi am eu bod nhw'n amau ei bod hi a'i chyd-weithwyr yn rhoi lloches i'r FMLN.
Cofiaf hefyd y pleser a gafodd o fynychu Eglwys y Nyfer yn rheolaidd a'r cof cysegredig o dderbyn Bedydd Esgob yno yng nghwmni merched y Plas.
Fe fu'r ddau hyn felly yn dadlau ynglŷn â darn o dir gerllaw'r harbwr a'r ddau yn dweud Fy eiddo i yw hwn.' Arweiniodd hyn at achos llys costus dros ben a'r Iarll a gafodd y dyfarniad, fel y gellid rhag-weld.
A'r wlad a gafodd lonydd.
Mi gafodd camera hyd i farciau tra'r oedd un o'r adweithyddion yn cael archwiliad blynyddol.
Craig Faulconbridge gafodd gôl arall Wrecsam.
Pan landiodd Begw ym Mhendre, doedd neb adra ond fy nain, a phan ddywedodd Begw fod Rondol wedi marw ac nad oedd ganddi'r un ddima i'w gladdu, ar ol paned o de, fe gafodd chweugain.
meddwl rydw i am greulondeb rhai o'r pabau ac mae gen i ryw obsesiwn ynglŷn â'r chwilys, yna'r brwydro ofnadwy rhwng catholigion a phrotestaniaid, a'r creulondeb a'r poenydio a'r erledigaeth ar y ddwy ochr, a'r holl wrachod a gafodd eu llosgi, a ffanatigiaeth jonestown a arweiniodd naw cant o bobl i gyflawni hunanladdiad, heb sôn am y seiliau crefyddol y tu ôl i'r holocaust hynny yw fod yn cael ei hategu gan y celwydd taw'r iddewon groeshoeliodd crist, a'r defnydd o ddyfyniadau ysgrythurol i gyfiawnhau dienyddio gwrywgydwyr ).
Fe gafodd purfa olew enfawr Texaco ei hysgwyd gan gyfres o ffrwydradau ychydig oriau ar ôl storm fellt a tharanau.
Enillodd ffilm ar John Cale y Rhaglen Gerddoriaeth Orau yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni, a Satellite City gafodd y Wobr Adloniant Ysgafn Orau ar yr un achlysur.
Fe'u tynnwyd gan y ffotograffydd ifanc o Aberystwyth, Aled Jenkins, ac mae'r profiadau a gafodd wrth gwblhau'r dasg yn aros yn y cof...
Fe gafodd Aranwen Jones (Cadeirydd), Buddug Jones a Derfel Roberts fuddugoliaeth nodedig tra'n trafod y testun 'Fod yn rhaid i'r Eglwysi newid ffurf eu gwasanaeth os am ddenu'r cynulleidfaoedd yn ôl.' Dyfarnwyd araith Buddug Jones, Dolgellau yr orau yn y gystadleuaeth.
Ni fyddai Llio'n dweud mai hunllef a gafodd hi'r noson honno.
Dim ond un wiced yr un gafodd Andy Caddick ac Ian Salisbury yn y ddau brawf ac efallai bod cyfle i gynnwys Matthew Hogan y bowliwr cyflym sy wedi cipio 17 o wicedi ar y daith.
A phan glywodd Rondol fod Pitar Wilias yn gwneud montibag ohono ar lwyfannau'r wlad, y cyfle cyntaf a gafodd fe ddwedodd wrtho, 'Weli di Pitar - ma'n nhw'n dweud wrtha i dy fod yn cymryd fy enw'n ofer am fy mod yn cymryd ambell i lasiad o gwrw, ac na fyddi byth yn son am dy ffrindia sy'n llyncu wisgi.
roedd hwn yn gyfle da i gymru ennill ei gêm gyntaf yn y bencampwriaeth gan gofio y gweir a gafodd yr alban gan y crysau duon ond gwaetha'r modd nid wyf yn gweld y tîm hwn yn eu trechu hyd yn oed ar y maes cenedlaethol ac nid yw'n rhoi bodlonrwydd o gwbl imi fod yn dweud hynny ar ddechrau blwyddyn.
Dydio ddim gwerth os 'dio ddim yn canu, ychwanegodd heb holi o gwbwl am yr hyn a gafodd ei ddweud.
Un ddigon pethma oedd hi hefyd, mewn cwpan papur anodd ei drin, ond fe gafodd wen reit gynnes gan y llafnes a'i tywalltodd iddo a "Thanks, luv" wrth gymryd ei arian parod.
Roedd Jabas wrthi'n brysur yn tynnu lluniau, a chyda'r lens sbienddrychol diweddara a gafodd gan Ab Iorwerth credai ei fod yn cael lluniau gwych o hen simne'r gwaith yn syth uwchben yr ogof ar y clogwyn.
"Ma gyno fo ishio llonydd i gal 'i ginio fel chitha y dwrnod o'r blaen!" oedd yr ateb a gafodd.
Fe gafodd y cynllun ei gyflwyno ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu arian ychwanegol ar 1 Mai.
Rhyfedd na fyddai teulu a gafodd gymaint o brofiad o hynny wedi dysgu'r wers honno ac wedi bod yn llai parod i agor ei ddrysau fel y gwnaed yr wythnos diwethaf.
Fe gafodd y gêm rhwng Lloegr a'r Alban ei chwarae er gwaetha clwy'r traed a'r genau.
Pwnc llosg arall a gafodd sylw manwl ar y rhaglen hon oedd lefel syfrdanol amddifadedd mewn rhai ardaloedd gwledig a phroblem camddefnyddio alcohol, cyffuriau a sylweddau - pynciau a gysylltir yn amlach na pheidio ag ardaloedd trefol.
Achos mae'n ymddangos nid yn unig na fydd Bebb ei hun ddim yn chwarae am gryn amser ond bod pryder ar un adeg y byddai'n colli ei olwg oherwydd yr ergyd a gafodd.
Rhaid crybwyll elfen nad oedd yn wybyddus i'r cynllunwyr cynnar ond a gafodd ddylanwad mawr ar eu datblygiad maes o law, sef gwaith Prosiect ieithoedd Modem Cyngor Ewrop.
Zinedine Zidane a Youri Djorkaeff gafodd goliau Ffrainc.
Cafodd Alice brynhawn blinedig yn cerdded siopau ond bu'r cyfarfod busnes a gafodd ei gŵr yn un hynod lwyddiannus.
Yn gyntaf y dylai ar sail y derbyniad a gafodd yn Aberconwy a Chlwyd ystyried codi ei phroffeil yno ar unwaith.
Mae'r arbenigwyr yn gytun mai dyma'r gystadleuaeth orau yn hanes y Cwpan Byd, a hyd heddiw, dwi'n dal i gofio'r effaith gafodd y gystadleuaeth arna i.
Pwynt gafodd Arsenal yn eu gêm ddarbi yn erbyn Tottenham neithiwr.
Ond yn ffodus iawn fe gafodd Aled 'i daflu allan o'r car, yn ddi-anaf.
Ond er hyn i gyd, ar ôl adrodd ei stori, fe gafodd gymeradwyaeth frwd a churo traed a churo dwylo gan ei gydwladwyr.
Fe gafodd yr hen ddyn ddos go egar o ffliw, ond 'roedd yn ddigon gwydn i allu'i wrthsefyll a bu'r cynllun yn fethiant.
Taith annifyr a gafodd o'r naill orsaf i'r llall.
'Roedd Badshah wedi llwyddo i droi Paul hefyd, un arall o 'blant' Pengwern, llanc talentog a gafodd addysg yn Serampore yn nes ymlaen, yn erbyn ei dadmaeth.
Hyd heddiw does neb yn siŵr faint gafodd eu lladd yn ystod y pum mlynedd y buodd y Khmer Rouge yn rheoli.
Ni all na chafodd Daniel Owen ei fam a'i chof cyfoethog yn dipyn o athrawes er nad oedd ef, mae'n siwr, yn adnabod yr hyn a gafodd ganddi fel addysg.
Roeddan ni wedi dal rhai o'r benywod a'u bwtsiera, ac mi gafodd y gwrywod weld drostyn nhw eu hunain.
Er ei fod yn sgrifennu o fewn cwmpas byr, y mae'n cywiro llawer o gamgymeriadau am fywyd Theophilus, ac yn ceisio unioni'r cam a gafodd trwy roi ystyriaeth i'w holl weithiau llenyddol a'i waith fel offeiriad cydwybodol.
i mewn, daw mike hall yn lle scott gibbs sy'n debyg o fod allan o'r tîm cenedlaethol am y tymor oherwydd yr anaf a gafodd yn erbyn canada a nigel davies am fod neil jenkins yn symud i safle'r maswr.
Y Prawf - Fe lwyddodd y gohebydd i fynd heibio i'r Dderbynfa a wardiau unigol lle'r oedd mamau yn bwydo'u plant ond fe gafodd ei rhwystro ddwywaith cyn cyrraedd at y brif ward ei hun.
Byddai'n hoffi sôn am y wers 'English' honno pan gafodd dasg gan Mr Pritchard i lunio brawddeg Saesneg yn cynnwys y gair cakes.
Ei siomi gafodd John Evans, ni welodd yr Indiaid a siaradai Gymraeg.
Fe gafodd pawb sioc pan briododd e Luned - er nad oedd neb yn i beio hi am gadw tŷ iddo fe.
' Fe allwch ddirnad yr effaith gafodd peth felly ar hogyn o Garreg-lefn ...fe fyddwn yn rhan o Tseina mewn ychydig flynyddoedd'.
Son yr oedd pen chwaraewraig tenis Cymru am lun a gafodd ei dynnu ohoni hi a chwe chwaraewraig arall o Brydain yn sefyll yn noeth y tu ôl i Iwnion Jac fawr.
Rhyw ganrif sydd er pan gafodd rhan sylweddol o'r Cymry y gallu trwy'r bleidlais i ddylanwadu ar gwrs gwleidyddiaeth.
Daeth y cais cyntaf o'r chwech pan gafodd Castell Nedd sgrym bump ar ôl i Luc Evans ddal cic letraws Steve Bowling, ac er syndod i bawb, gwthiwyd wyth Llanelli dros eu llinell a chwympodd Gareth Llywelyn, yr wythwr, ar y bêl.
Gofynnodd am gael cyflwyno'i achos o'u blaen; ac ymhen hir a hwyr fe gafodd ganiatâd i wneud hynny.
Yn ddiweddar canfuwyd dull o hunan-ddysgu a gafodd ei sbarduno gan syniadau o feysydd geneteg a bioleg esblygiad - y wyddoniaeth sy'n sail i'r syniadau am y dyfodol a geir yn y ffilm Jurassic Park.
Mi gafodd hi'r ail un heb orfod hyd yn oed roi llythyr i Rick.
'A dyna'r gofid,' meddai ei brawd, Tom, '- blaenau'r cymoedd, lle'r oedd y Gymraeg ar ei chryfa', gafodd eu heffeithio gan y meddiannu..
Ynghanol yr helynt hon y cyflawnodd Morgan waith mawr ei fywyd, sef cyfieithu'r Hen Destament (ac eithrio'r Salmau) a'r Apocryffa o'r newydd i'r Gymraeg, a diwygio cyfieithiadau William Salesbury o'r Salmau a'r Testament Newydd - fel y clywsoch yn gynharach fore heddiw, fe gafodd Salesbury beth help gyda'r Testament Newydd gan Richard Davies a Thomas Huet.
Ond pan gafodd fyrddio'r llong o'r diwedd rhyfeddai fod creadur mor gryf a solet wrth y cei yn anesmwytho ar y mor agored.
Ond un tymor arall yn unig a gafodd ei dreulio yn yr ysgol honno.
Mae'r poen a welwn ym mywydau plant a gafodd eu camdrin yn effeithio mewn rhyw ffordd arnom i gyd.
Yn yr un flwyddyn, fe gafodd ardaloedd Capel Curig a Beddgelert eu trawsblannu i China dros dro wrth i Ingrid Bergman, seren Casablanca, ddod draw i Eryri i bortreadu'r genhadwraig Gladys Aylward yn The Inn of the Sixth Happiness.
Pwy darodd Rondol arno ar y lon ond fy nhaid, ac fe ddywedodd wrtho fod Begw wedi marw ac nad oedd ganddo'r un ddima i'w chladdu, ac fe gafodd chweugain gan fy nhaid.
Gary Teichmann yn ei gêm olaf gafodd y wefr o godi'r tlws.
Gêm gyfartal 1 - 1 yn erbyn Porthmadog gafodd Llangefni, sy'n yr ail safle.
"Rhaid i chi ddianc drwy un o'r ffenestri heno," sibrydodd y nyrs garedig wrth Douglas Bader pan gafodd gyfle.
Ond fe gawson nhw ergyd wedi saith munud pan gafodd Lee Trundle ei gario oddi ar y maes.
Dowdle, y giard rheilffordd a gafodd droedigaeth oedd y cawr hwn o bregethwr.
Unwaith eto, dod ag erchyllterau dyn i sylw'r Cymry oedd y rheswm dros fynd i Kampuchea (Cambodia) - gwlad a gafodd ei hanwybyddu a'i hynysu am bron i ugain mlynedd gan y Gorllewin.
Ond mae'n bryd i'r Eisteddfod ddeffro a wynebu'r ffaith mai dyma'r realiti ac nid yr iaith flodeuog yna sydd ar y llwyfan, ac rwy'n credu y bydd y gynulleidfa yn ei dderbyn e." Roedd y sgript wedi ei anfon at yr Archdderwydd, neb llai, er mwyn cael sêl bendith swyddogol ac, wrth i'r cast ddechrau gweithio arno, fe gafodd rhai elfennau eu newid, gyda'r disgyblion yn datblygu llawer o'u syniadau eu hunain.
Mi llneuais o'n lân ac mi gafodd y "battery% i gyd wledd o gig ceffyl am ddyddia.
Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad o lafur diflino pawb a sicrhaodd lwyddiant y cynhyrchiad, gan hyderu ei fod wedi ennyn yn y gynulleidfa rwyfaint o'r blas a gafodd darllenwyr gwreiddiol O Law i Law hanner can mlynedd yn ôl.
Felly, tristwch oherwydd afiechyd 'i mam gafodd y bai am y diffyg chwerthin, a'r hanner ofan yn y llyged a phethe felly.
Yn dilyn perfformiad gan Ysgol Ramadeg Friars yn yr Eglwys Gadeiriol, fe gafodd ei ddewis i gymryd rhan mewn rhaglenni drama a oedd yn cael eu cynhyrchu yn stiwdios Brynmeirion.
Un o'r beirniaid gafodd ei feirniadu am fod yn llym ei lach ar berfformiad Cymru yn erbyn Norwy oedd cyn-golwr Cymru, Dai Davies.
Ond daeth tro ar fyd Denzil pan gafodd gyfle i ddychwelyd at ei wreiddiau a chael swydd fel gofalwr amaethyddol yn y Plas.
Fe gafodd dau o 'mhlant malaria ac fe fuon nhw farw.
Gwobr newydd a gafodd ei chyflwyno yn y Rali eleni oedd honno i Ysgolion Cynradd Mon.
Ar y pryd roedd angladdau'r rhai gafodd eu lladd gan hofrennydd Israel ddydd Iau'n cael eu cynnal.
Bydd yr ail brawf rhwng Lloegr ac Indiar Gorllewin yn dechrau yn Lords heddiw wedir gweir gafodd Lloegr yn y prawf cynta.
Tra oedd yr hyn a gafodd ei alw'n 'drafodaeth lloches' yn mynd rhagddi yn y Bundestag, parhau a wnaeth ymosodiadau'r Neo-Natsi%aid.
Roedd Tony ar greigiau ger Aberdaugleddau ac mi gafodd plisman hyd i Gripper ar draeth Angle.
Rhyfedd yr ymgeledd a gafodd dynion drwy'r oesoedd gan y gwragedd: Dyma air o un baraita Iddewig hen, hen: "I bob creadur a arweinir y tu allan i'r porth i farw, fe roddir tamaid bach o fygarogl neu sbeis mewn cwpanaid o win i drymhau a marweiddio'r synhwyrau ......
Nid oedd hyn yn foddhaol iawn; ac felly, dechreuodd Waldo gynnig am swyddi eraill; ac fe gafodd un ym Motwnnog.
Mae Caerffili, er hynny, wedi gofyn i D.R.Davies edrych ar sawl digwyddiad gan gynnwys un pan gafodd y cefnwr Chris John anaf i asgwrn ei foch.
Cafodd y cyhoedd gyfle i weld cynnwys CD-Rom newydd Sam Tân am y tro cyntaf pan gafodd ei dangos ym mhabell Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar Faes yr Eisteddfod.
Mo gafodd y llywodraeth ei chondemnio am y modd y cafodd y dipiau OP eu gwahardd flwyddyn yn ôl.
Bu farw Dafydd Lloyd yn fuan wedi iddynt symud i'r Tŷ Capel, ond fe gafodd ei weddw a'i ferch aros ymlaen.
Gêm gyfartal, 1 - 1, gafodd Gwlad Pwyl yn erbyn Yr Alban mewn gêm gyfeillgar yn Begosh.
Yn Arnom yr oedd honno ond fe gafodd llawer o hogia o Nom hefyd waith yno i helpu'r Romans, drwy i gynghorwyr Nom dorri eu rheolau eu hunain.
Rhaid i ni oedi i ystyried y ddogfen eithriadol hon, a cheisio dyfalu'r effaith a gafodd ar ei chynulleidfa wreiddiol.
Y mae cynllun Sir Conwy yn un o ddim ond pump gafodd eu cymeradwyo gan y Cynulliad.
"Mae gwaith Robin Llywelyn, ynghyd â'r derbyniad a gafodd ei waith, yn fan cychwyn dihafal ar gyfer dadansoddi'r berthynas gymhleth rhwng awdur, darllenydd a chymdeithas yng nghyd-destun diwylliant llenyddol cyfoes y Gymraeg," eglura.
'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).