Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gafwyd

gafwyd

amcanion y gweithgarwch, a nodi at blant o ba oedran a gallu y cyfeirir ef nodiadau ar y drefn a ddefnyddiwyd a sylwadau ar anawsterau tebygol wrth ymdrin â'r plant a'u deallusrwydd trefniant a dosbarthiad y cyfarpar sampl o ganlyniadau a gafwyd wedi eu trin yn fathemategol briodol cyflwyniad o luniau, graffiau, sylwadau, etc.

Os oedd y dorf yn ffyrnig, yna ffars a gafwyd yn y Cyngor ei hun wrth i'r cynghorwyr weiddi ar draws ei gilydd ac i'r offer cyfieithu anghyfarwydd gael ei ddefnyddio am y tro cyntaf fe ymddengys.

(Nid dyma'r sylwadau mwyaf difrifol ynglŷn â'r Gymraeg a gafwyd gan offeiriadaeth yr ardal, ond trafodir hynny'n fanylach yn nes ymlaen.) Os cafodd y Parchedig John Griffith, Aberdâr, y teitl 'enllibiwr ei wlad' gan y Parchedig D.

Fe gafwyd adlais o'r hen Gastell Nedd ddoe, y pum blaen yn rhagori yn yr agweddau tynn ac yn cyfrannu tipyn yn y chwarae rhydd.

O ganlyniad i archwiliad a wnaed gan arbenigwyr ar ran y Cyfundeb a'r adroddiad a gafwyd am ddiffygion yr adeilad, yn ogystal â'r ffaith fod rhif yr aelodaeth erbyn hyn wedi'i haneru i'r hyn a fu yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth ddwys i'r priodoldeb o gwtogi ar faint y capel.

Protest arall a gafwyd ym mis Gorffennaf oedd yr un yn erbyn yr arwerthwyr Bob Parry.

Dyna pam y mae Menem wedi rhyddhau'r rhan fwyaf o'r milwyr a gafwyd yn euog ar ôl y 'rhyfel brwnt' yn erbyn y bobl yn ystod dyddiau'r juntas.

Ac ar lefel fwy elfennol yr oedd pawb yn awyddus i fwynhau, neu ail-fwynhau yn ôl eu hoedran, bleserau a moethau a gafwyd cyn y rhyfel.

Ddydd Llun bydd Pwyllgor Gwaith Cyngor Sir Ynys Môn yn trafod mater yr oedd Mr Jones yn credu oedd wedi dod i ben bedair blynedd yn ôl pan gafwyd yr adolygiad o enwau lleoedd ar yr Ynys.

Ac ystyried natur dybiannol y cwestiwn, nid yw'n syndod efallai fod tuedd i'r atebion a gafwyd groesddweud ei gilydd; ac nid oes modd felly ddod i unrhyw gasgliad pendant ar sail yr astudiaethau hyn.

(cysuro fy hun ydw i rwan!!) Yr ymateb cyflawnaf a gafwyd yn ddiweddar oedd hwnnw i hanes yr hen long HMS Conway.

Yn y pnawn roedd Meic Stevens yn perfformio ac er iddo fo ddweud ei fod wedi cerdded bob cam o Gaerdydd heb fy ffon yr oedd ei berfformiad yn gwbl bleserus - do, fe gafwyd y clasuron Dournanez a Môr o Gariad, ai lais rywfodd yn gweddu i awyrgylch yr Wyl.

'Roedd Mary ei chwaer wedi priodi ac yn byw ym Mhenrhyn Terrace ac yno yn naturiol yr aed gyntaf i holi.Siwrnai sethug a gafwyd.

tybed a fydd yr ysbryd prydeinllyd a gafwyd gan chwaraewyr cymru yn ennill y dydd ar draul medr dechnegol fel a welwyd gan y tîm o'r cyfandir?

Nid dechrau o'r dechrau yr şm o hyd wrth ddatblygu'r grefft o ddysgu ail-iaith, ond manteisio ar yr enillion a gafwyd wrth astudio didachteg iaith ac ieithyddiaeth gymwysedig yn broffesiynol.

Er iddi fod yn arferol i roi cilwg yn ol ar ddechrau blwyddyn newydd, tydw i ddim am godi'r felan coli arnoch wrth restru'r problemau a gafwyd o fewn y diwydiant yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.

Fe gafwyd adroddiad ar genedlaetholdeb yr Iwcraen neu ar Chernobyl, ffynhonnell ymbelydredd defaid gogledd Cymru.

pan gafwyd ymateb calonogol iawn.

Yr hyn sydd o bwys i ni yw fod swm y cynnyrch a gafwyd ganddynt yn brawf eglur o'u ffydd mewn llenyddiaeth.

Pan gafwyd gwerthiant da i dâp o sesiynau ac EP gan Tynal Tywyll, grŵp a oedd wedi ymddangos ar label yr Anrhefn ac wedi rhyddau senglau ar eu liwt eu hunain, roedd y tri myfyriwr yn gweld dyfodol i'r cwmni ar ôl dyddiau coleg.

Dadansoddiad oer, gwyddonol bron, o bechod a gafwyd yn honno, heb awgrym o foesoli ar ei chyfyl o gwbl.

Er gofid, cytunwyd nad oedd modd yn y byd i'r Cynulliad rwystro'r gyflafan a gafwyd yn nhermau swyddi.

dyna'r holl fân streiciau a gafwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dyma awdl arall sydd yn dangos y newidiadau cymdeithasol ac economaidd a gafwyd o fewn hanner can mlynedd.

I gloi'r gyfres cafwyd dadl, In Place of Wales, a drafododd y newidiadau chwyldroadol a gafwyd yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd o 1985 hyd heddiw gan edrych ar y rhagolygon i'r dyfodol.

Mewn cyfarfod cyhoeddus drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwesty'r Angel Caerdydd nos Fawrth Mai 16eg - cyfarfod i lansio deiseb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith Newydd, deddf a fyddai yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg - fe gafwyd cefnogaeth gref gan Elin Jones, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg, a Christine Humphreys ar ran y Rhyddfrydwyr Democrataidd.

Pan gafwyd hyd i lot o lo a haearn ac ati mewn rhannau o Urmyc fe ddaeth yna filoedd o bobl ddieithr i mewn ac fe stopiwyd siarad Urmyceg cyn hir yn y lleoedd hynny achos iaith pobol dlawd oedd hi.

Dilyniant o gerddi gwefreiddiol a gafwyd gan Dafydd Rowlands.

Ychydig iawn, iawn o lyfrau Cymraeg a gafwyd ar ffiseg, cosmoleg ac astroffiseg a seryddiaeth, a dyna'r sefyllfa heddiw hefyd, gwaetha modd.

A, haleliwia, dyna'n union a gafwyd yn Siarad ar eu Cyfer, drama gyda nifer o negeseuon, ond nid pregeth.

Mae mwy nag erioed o gynyrchiadau teledu Saesneg wedi derbyn cyfran uwch o'r gynulleidfa nag a gafwyd i raglenni rhwydwaith a ddarlledwyd ar yr un pryd.

Er bod testun fel hwn yn rhoi cyfle i'r beirdd gyfeirio at y Rhyfel, awdl yn yr hen ddull a gafwyd gan aelod o'r hen do, J. T. Job, heb gyfeirio o gwbwl at y lladdfa.

Dyma'r gyntaf o'r gyfres o awdlau marwnad a gafwyd yn yr wythdegau.

Ychwanegodd iddo gael ei syfrdanu gan yr ymateb i hysbyseb a roddodd mewn papur lleol a'i fod yn hapus iawn gyda faint ddaeth i'r cyfarfod cyntaf yn Ionawr a'r ymateb anhygoel a gafwyd ar gyfer noson Gwyl Dewi.

Mae'r newidiadau wedi rhoi awyrgylch ysgafnach a hapusach i'r clwb, ac rydym yn gobeithio bydd y llwyddiant a gafwyd yn y gorffennol yn parhau.

Nid oes dim yn y darlun a ddyry ef o Ferndale ar gychwyn yr ugeinfed ganrif sy'n groes i'r darlun cyffredinol a gafwyd gan Lingen yn 1847.

A phwy a gafwyd i agor lle syn mynd i hybu talent ein gwlad?

Fe ddichon ei fod ef, fel William Salesbury o'i flaen, wedi ymddiddori yn y llenyddiaeth grefyddol Gymraeg (cyfieithiadau gan mwyaf o'r Lladin) a gafwyd yn sgîl deffroad y drydedd ganrif ar ddeg (gw.

Allan o'r drafodaeth hon fe gafwyd awgrym ar sut i ail-drefnu'r Gymdeithas er mwyn i ni allu gweithredu yn fwy effeithiol yn yr ymgyrch dros ddeddf iaith.

Yr ateb a gafwyd oedd na fyddai hyn yn ymarferol a honnwyd nad oedd y Saesneg yn swyddogol chwaith.

Ond mae arnaf ofn mai sgwrs digon disylwedd a gafwyd, gan nad oedd gennyf lawer o ddiddordeb mewn barddoniaeth na llenyddiaeth yr adeg honno.

Yr ymweliad brenhinol o bwys gafwyd yn Aberystwyth ddiwethaf oedd yn 1969 pan ddaeth ddaeth Charles i'r Brifysgol lle gwnaeth ymdrech llai na llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.

I mi, fe gafwyd llwyddiannau pendant o gwmpas Rhodri Morgan yn nhermau'r berthynas sy'n bodoli rhwng cymunedau ffydd a'r Cynulliad.

Gan fod fy nghar i'n digwydd bod yn ymyl, fe gafwyd perswâd arno i fynd i mewn i hwnnw i gysgodi.

Doedd Luned ddim yn fodlon dod i'r seremoni, ond roedd pawb yn deall hynny, ac fe gafwyd Sais oedd wedi symud i bentre Blaen-pant i wneud hynny, achos wedi'r cyfan, ma' rhaid ichi gal bobol go iawn i neud pethe fel hyn.

Fe brynwyd whilberi wrth y dwsin yn Texas ac fe gafwyd hyd i ffenestri ceir yn Seattle.

Yn Nhwrci a Rwsia yr oedd y werin bron yn gyfan gwbl anllythrennog; dim ond ychydig o ysgolion mynachaidd a gafwyd, ac ysgolion Koranaidd lle dysgai'r plant ddarllen y Koran heb ei ddeall.

Ar y llwyfan, fe gafwyd rhes o areithiau sychion a datganiadau cerddorol yn llawn gallu technegol ond yn brin o angerdd.

Ond glaw a gafwyd, cenllif a barodd i'r ddau garlamu'n ôl i'r pentref a Dilys yn colli sawdl ei hesgid wrth faglu ar y ffordd garegog.

Y mae'r sylwadau manwl a gafwyd sef ....

Y mae'n eithaf tebyg mai i'r oes honno y perthyn rhai o'r offer cerrig a gafwyd yn y sir.

Aeth yn ddiwedd Mai ar y tatw yn cael eu plannu ac yn syth ar ol hynny aeth yn sych, yn wir yr haf sychaf a gafwyd y ganrif hon.

Y math yna o bwyslais ar yr ysbrydol alegoriol sydd wrth wreiddyn y broblem o'r dehongliadau o Wenlyn a gafwyd hyd yn hyn, megis rhai yr Athro Dewi Z.

Syniad arall a gafwyd oedd "homologous structures" - nid oedd adlewyrchiad nag adgynhyrchiad yn digwydd rhwng y broses uwch- ffurfiannol a realiti'r sylfaen economaidd, ond yr oedd y strwythurau yn 'cyfateb' i'w gilydd, a gellid canfod y gyfatebiaeth hon trwy ddadansoddi.

Adeiladwyd hwn ar dir a gafwyd gan Owen Roberts, Ty'n Pant, a phregethwyd ar ei agoriad gan y Parchedigion Thomas Charles a Ffowc Evans.

Y ddarlith fwyaf arwyddocaol gafwyd yn hanes yr iaith Gymraeg.

a'r funud y rhoddodd Carol y ffôn i lawr, fe aeth hi'n ffrae, y ffrae waethaf a gafwyd rhyngddynt erioed.

Llosgi cyrff y meirw y byddai pobl yr oes hon, a chladdu eu lludw mewn llestri pridd, fel hwnnw a gafwyd ym Mhen-llwyn ac a ddangosir yn y darlun.

Y mae'r wybodaeth ar y dudalen yma am achlysur pan gafwyd llifogydd.

hyd yn hyn nid enynnodd y fath begynu beirniadol ag a gafwyd gyda nofel robin llywelyn.

Fe gafwyd adroddiadau o Sweden i geisio asesu damcaniaeth Phil Williams, gwyddonydd rhyngwladol ac aelod blaenllaw o Blaid Cymru, fod tref anghysbell yno yn elwa mwy dan bolisi rhanbarthol Sweden nag yr oedd ei dref enedigol, Bargoed, yn ei wneud dan bolisi rhanbarthol gwledydd Prydain.

I gloir gyfres cafwyd dadl, In Place of Wales, a drafododd y newidiadau chwyldroadol a gafwyd yng Nghymru yn ystod y 15 mlynedd o 1985 hyd heddiw gan edrych ar y rhagolygon i'r dyfodol.

Fel yr âi newidiadau cymdeithasol yn eu blaen mor gyflym nes peri anhrefn cymdeithasol gwaeth na dim byd a gafwyd, yr oedd rhaid i'r Fictoriaid wybod beth oedd yn mynd ymlaen.

Y mae'r ateb i'w ganfod yn yr hyfforddiant a gafwyd yn y clybiau yn ystod y gaeaf.

Ond pan gafwyd organ yn y capel, a honno'n rhuo yn nhwll ei glust, digiodd yn bwt wrth 'y ddelw fawr Deiana' fel y galwai ef hi, ac aeth am yr eglwys.

Yn sicr yr oedd distryw yr Ail Ryfel Byd yn fwy cyffredinol ac eithafol nag a gafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf - yn enwedig ym myd cyfalaf sefydlog, hynny yw, adeiladau a pheiriannau.

Mewn un ystyr, mae gobaith y bydd y senedd newydd hon yn iachach na dim a gafwyd yn y degawdau diwethaf.

Yn wir, mae hi'n debycach i'r hyn a gafwyd ar sengl ddiwethaf Big Leaves, Fine.

Eto mae'n deg i mi gyfeirio at y ddadl fod pob un o'r wyth sydd wedi dal y swydd o Ysgrifennydd Cymru wedi llwyddo i sicrhau i Gymru siar o'r gwariant cyhoeddus ac hefyd o'r diwydiannau newydd sy'n uwch na'r hyn a gafwyd gan ranbarthau Lloegr.

Un cysur, o leiaf, oedd nad oedd o fewn Cymru yr un sefyllfa gynddrwg â'r 'baganiaeth' a gafwyd gan Henry Moseley yn ne swydd Stafford, na chwaith y '...'