Dros fwrw'r Sul, Tachwedd 12-14, mae S4C Rhyngwladol yn trefnu penwythnos arbennig yng Nghaerdydd, pan gaiff gwylwyr gyfle i gwrdd â rhai o sêr y sianel.
Os nad wyf yn camgymryd fe fydd dyfodol Gruffudd eto yn y fantol ac fe gaiff ei ergydio fel ceiliog gwynt rhwng y Tywysog a Dafydd yr hanner Norman o Lys Aber." Erbyn hyn 'roedd y sbi%wr yn awyddus i gychwyn i'w daith.
Ond gallai hynny fod yn wrthgynhyrchiol gan ei fod yn cwtogi ar y cyfleon a gaiff plentyn i ddarllen i bwrpas a thrwy hynny, ddatblygu ei ddarllen ei hun ymhellach.
Bydd amrediad y gweithgareddau'n gul a detholiad cyfyngedig yn unig o destunau hawdd a gaiff y disgyblion.
Mae'r cyfanwsm o ffrwythau a gaiff eu bwyta yn isel yn ol safonau rhyngwladol.
Dyry ecoleg a bioleg môr wybodaeth inni am y 'matrics biolegol' sy'n diogelu y llongddrylliad, am gynnwys yr haen galed organig a'r effaith a gaiff creaduriaid y môr ar safle.
Croesawodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhoeddiad heddiw o'r 'Cynllun Gweithredu Addysg a Hyfforddiant i Gymru' gan Peter Hain, a gaiff ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol fel cam positif tuag at adeiladu System Addysg i Gymru.
Yna, mewn llais tawel, a gwên hiraethus ar ei hwyneb dywedodd yr hen wreigan: "Ugain mlynedd yn ôl i heno, fe laddwyd fy merch ar y ffordd ble y gwelsoch chi hi heno, a phob blwyddyn ers hynny, ar y noson arbennig hon y mae rhyw yrrwr caredigyn dod â hi adref, - diolch i chi - fe gaiff dawelwch am flwyddyn arall rwan." Gadawodd y dyn y tū wedi ei ysgwyd i'w sodlau gan yr hyn a welodd ac a glywodd.'
``Druan oedd Miss Hughes!'' ``Beth a wnaiff Miss Hughes yn awr?' ' ``Wel, mi fydd Miss Hughes, druan, yn unig ar ôl colli ei brawd.' ' ``Pwy gaiff Miss Hughes i edrych ar ôl y business?
'Mi gaiff Lleucu yfed hwn.' Na chaiff.
Mae'r Cyngor wedi penodi pwyllgor i'w gynghori ar Addysg, gaiff ei adnabod fel Cyngor Darlledu Addysgol Cymru.
Dengys ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gymreig y tir y mae'n bosibl ei ennill wrth gynyddu nifer y disgyblion a gaiff y cyfle i dderbyn eu haddysg yn y Gymraeg.
"Deunydd" Copi o'r Gwaith wedi ei gynhyrchu ar naill ai brint taflunio positif neu ar gaset fideo o safon darlledu neu unrhyw fformat arall a gaiff ei bennu ym Mhennau'r Cytundeb hwn.
Gallwch gofrestru eich tîm drwy ein ffonio ar 74983, neu drwy ein e-bostio i'r cyfeiriad gang@bbc.co.uk - a chofiwch y cynta i'r felin gaiff falu.
Yna, sylweddolodd yr ymchwilwyr nad afiechyd yn effeithio ar un dosbarth arbennig o'r boblogaeth yw AIDS, ond afiechyd a all effeithio ar unrhyw un a gaiff ei heintio â gwaed neu hylifau corfforol heintiedig eraill.
Gall dogn uchel o belydriad niweidio, a lladd, celleoedd, a chan fod canran sylweddol o'r radio-iodin yn ymgasglu yn y thyroid, celloedd y thyroid a gaiff eu heffeithio fwyaf gan y pelydrau.
"Bu+m chwant rhoi'r gorau i'r gegin gawl a drefnwn yn y fan hon ond mae fy ngweithwyr yn dweud wrthyf mai'r cawl a'r bara sy'n cael eu rhannu gan y Genhadaeth yw'r unig fwyd a gaiff rhai o'r trueiniaid yno." Ar ôl iddi hi gyrraedd, yr hyn a welodd Pamela oedd anferth o ddyn a barf drwchus ganddo yn dringo i'r llwyfan i bregethu.
Pan gaiff Cymru a'r Alban safle cenedlaethol cyflawn bydd y wladwriaeth Brydeinig yn darfod amdani.
Daw y penhwyaden gaiff ei fachu ym misoedd yr haf i'r rhwyd fel rhyw sach gwlyb - dim cwffio na llawer o wrthwynebiad yn perthyn iddo.
Mae ymdeimlad o gefn gwlad i'r ardal ac mi gaiff yr ymwelydd flas ar fywyd sydd heb newid ers canrifoedd - yn enwedig ar bnawn Gwener - heblaw, yng ngwres yr haf - gyda chystadleuaeth ymladd teirw.
Gorau po fwyaf o arferion da'r Cyngor hwnnw gaiff eu trawsblannu i'r Cynulliad.
'Wel, Wel,' meddai Ioan, 'mae'n well i ti fynd yn ôl; wn i ddim be ddaw ohonom.' 'Mae y Meistr wedi gorchymyn i mi fynd i Fethsaida,' meddai Pedr, 'fe gaiff bow y llong fod ar Bethsaida.' Wrth gymhwyso'r neges i ddibenion ymgyrch y Drysorfa Genhadol, meddai'r Parch.
Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio â phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan.
Yna, mae'n rhoi haenen o bridd i wahanu ei fab a'r plentyn nesaf a gaiff ei gladdu yn yr un bedd.
Gan nad Sais mohono, mi gaiff aros yma gyda ni a defnyddio'r tŷ.
Emrys Ifans ydi 'i enw fo, ac mae o'n byw yn Cae Gwyn, ac os oes ar rywun eisio gwybod chwaneg yn ei gych o, mi gaiff ofyn i mi.
Rydym yn chwilio am 16 o dimau ar cyntaf i'r felin gaiff falu.
Fe gafodd ei dwy nofel flaenorol, Fory Ddaw ac Adlais, groeso brwd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ac yn bendant fe gaiff y nofel hon yr un croeso.
Erbyn hyn anifeiliaid gaiff loches mewn rhai o'r hen gartrefi, fel Tai Fry a Llechwedd Llyfn, ac amheuwn a ŵyr un o drigolion yr ardal heddiw union safle y cartrefi a adwaenid gynt fel, Tyn-y-Maes, Ty'n-y-gornel, Ty'n-yr-ardd, a Bryn Bras.
"Fe gaiff pawb ei gymryd o'n ei dro i gysgu yn y gwely ar y llawr," gorchmynnodd eu mam cyn iddynt fynd i gadw, "mae'r tŷ yma mor llawn - dyma'r unig ffordd y medrwn ni i gyd gysgu." "Yn llawn o Domosiaid!" chwarddodd Elen.
Tra bo Plaid Cymru mewn penbleth nid yn unig pwy a gaiff i'w harwain ond sut y caiff ei harwain y mae ei chefnder yn yr Alban yn paratoi i ddathlu.
Fe gaiff Juice gyfle i dorri'i syched ar Ffordd Farrar unwaith eto.
Gellir cael darnau brasach ar gyfer cetyn ac rydym hyd yn oed yn gwerthu Twist sef y darnau o baco a gaiff eu naddu a'u torri gyda chyllell gan yr ysmygwr." O ystyried nad yw Eirlys Williams yn smocio ei hun mae'n gryn awdurdod ar gyfrinachau'r mwg.
Diddorol gweld pa effaith a gaiff gwasanaeth a fydd ar y cychwyn yn cael ei ddarlledu ar loeren yn unig.
Bydd gwylwyr teledu gwybod yn dda am rym y dyfyniad uniongyrchol pan gaiff hwnnw un ai ei gyfeirio yn syth i'r camera gan gyflwynydd medrus fel David Attenborough neu ei fynegi trwy gyfrwng holwr profiadol.
Rydyn ni'n gobeithio falle y bydd Bangor yn gwneud ffafr â ni drwy guro Caerfyrddin pan gaiff y gêm honno ei chwarae - pwy a wyr! Mae cwpwl o anafiade 'da ni a ni'n mynd i'r gêm heno heb ddau neu dri o chwaraewyr.
'Chydig yn eithafol ella?' 'Mi gaiff 'y niod i â chroeso.
Yn sgîl y celfi cyfarwydd hynny yn ei gartref - y mangyl, yr harmoniym, bwrdd y gegin ac amryw bethau eraill - deuai rhyw atgof neu'i gilydd am y gorffennol i'w feddwl, a thrwy gydol y cynhyrchiad fe'n tywyswyd yn ôl ac ymlaen mewn amser wrth i'r eitemau hyn roi cyfle iddo ail-fyw profiadau ei blentyndod a'i ieuenctid - profiadau cyffredin ac oesol y gall pob un ohonom uniaethu â nhw ond a gaiff eu gwisgo yng nghyfnod y chwareli gan T.
Testun yr astudiaeth hon yw'r cyfnod diweddar mewn barddoniaeth Gymraeg, a'r beirdd a gaiff y sylw mwyaf ynddi yw T Gwynn Jones, D Gwenallt Jones a Saunder Lewis.
Newid eich arferion bwyta Mae gwneud newidiadau mewn arferion bwyta, er mwyn cwtogi ar fraster a siwgr yn eich diet a chynyddu ffibr gaiff ei fwyta, yn bwysig er mwyn cynnal iechyd da.
Y prydau trwm llawn caloriau a gaiff eu bwyta yn hwyr yn y nos yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o roi pwysau ychwanegol ar eich corff, nid y bwyd y byddwch yn ei fwyta i frecwast, yn arbennig os byddwch yn dewis frawnfwydydd neu dost.
Ond nid y gorffennol yn unig a gaiff sylw Gerwyn Williams.