Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gainc

gainc

Y Gainc Amheus.

Bod newid cywair mewn cystadleuaeth i'w anghymeradwyo, ac mai camp y datgeinydd yw cynhyrchu'r gyfalaw ynghylch cywair naturiol y gainc ac ynghylch ei lais.

Bod gosodiad unllais bob amser mewn cystadleuaeth i ddiweddu'r unsain neu mewn wythawd â'r gainc.

Bod pob cainc amheus y mynnir ei harfer i'w difreinio, megis y gainc heb doriad pendant i'w rhan gyntaf, a phob cainc y cytunir na ddwg traddodiad y gelfyddyd eirda drosti.

Y Gainc Osod Bod prawf teg i'w gymeradwyo ar bob cainc a arferir heddiw i bwrpas Cerdd Dant, ac yn unol â'r diffiniad traddodiadol ohoni "ei bod yn cynnwys ffigur a rhedfa% a neilltuolion eraill - bydd iddi ddal y prawf hwnnw, neu fethu.

Bod yn rhaid dechrau pennill yng nghynnydd "Rhan Osod" y gainc, a diweddu ar derfyn y rhan honno, ac na ddylai curiad cyntaf y mydr fod ym mar cyntaf unrhyw gainc.

Eithr os digwydd bod pennill dros ben mewn cân neu delyneg, neu ddetholiad o awdl, bod yn rheolaidd i'r datgeiniad a'r telynor gyd-ddeall i ddyblu, neu beidio dyblu un rhan o'r gainc fel y bo'n angenrheidiol.