Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gais

gais

Naw i dri ar yr egwyl, a Gareth Edwards wedi cael ei rwystro rhag croesi am gais gan amddiffyn effeithiol rheng ôl Llanelli.

Y bwriad oedd cynnal yr Eisteddfod yn Llangefni, ond bu'n rhaid ei symud i Fangor ar gais y Gweinidog Trafnidiaeth.

Serch hynny, croesodd Kevin James am gais i roi gobaith hwyr i Gastell Nedd.

Mae David Griffiths wedi dadlau bod yr Adroddiadau wedi codi nid yn unig yn ateb i gais Cymro o aelod seneddol dros Coventry, William Williams, ond hefyd o fwriadau tu mewn i'r Llywodraeth ei hun, ac nad oedd Williams yn ddim byd ond offeryn yn eu dwylo.

Ar ei gais, tynnais fy nghrys, plygu'n ddwbl dros ymyl y soffa, ac aros felly yn fy nghwman i ddisgwyl y nodwydd.

Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.

Gosodwyd un o'r testunau ar gais 'Eglwysi Dwyfundodwyr Deheubarth' a oedd yn brin o emynau addas ar y pryd.

Gwrthododd gais y Dylwythen Deg ac ailddechrau'r daith ar ôl y bêl.

Gadawodd y fugeiliaeth ar ôl llai na blwyddyn, a gwnaeth gais am gael ei dderbyn i Eglwys Lloegr.

Gan mai ar gais (neu o leiaf gyda chydsynied) Yr Adran y sefydlwyd rhai canolfannau, ac oherwydd y drefn fod y Swyddfa Gymreig yn cynnig grantiau yn benodol am staffio, mae amwysedd yngln â chyfrifoldebau staffio.

Ac un o'r rhai lleiaf sicr o gadw ei le sgoriodd gais gyntaf Cymru - Dafydd James yn gwthio'i wrthwynebydd o'r naill du cyn rhedeg yn glir ar ôl ychydig dros ddeng munud.

"Os 'ych chi'n nodi ar ffurflen gais eich bod chi'n anabl, yna'n aml mae hi'n mynd yn syth i'r bun heb ystyriaeth pellach," meddai.

Cafodd Caerffili ddau gais - gan David Hawkins a'r asgellwr Geraint Lewis.

Yn gynharach, gwrthododd Llys Goruchaf Florida gais gan dîm cyfreithiol Mr Bush i ddiddymu'r cyfri â llaw yn y dalaith.

Rwan, mae'n bosib, medden nhw, i'r Cynulliad wrthod unrhyw gais i blannu hadau GM yng Nghymru os nad ydyn nhw'n berffaith hapus nad ydy hyn yn mynd i achosi difrod i'r amgylchedd.

Dywedodd wrthyt, ddyn, beth sydd dda a'r hyn a gais yr Arglwydd gennyt: dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru ffyddlondeb, a rhodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.

'Diffyg creu yw'r broblem fwya ond ro'dd hi'n dda gweld ni'n sgori ambell gais ddydd Sadwrn dwetha.

Cwblhewch ffurflen gais ar gyfer lleoliad a'i rhoi i'ch trefnydd lleoliadau athrawon.

Cafodd Rhys Williams ddau gais, a chais yr un i Owain Ashman a'r mewnwr ifanc Ryan Powell.

Yn ail, o ganlyniad ni bu chwaith unrhyw gais politicaidd hyd at yr ugeinfed ganrif i adfer statws yr iaith Gymraeg na chael ei chydnabod mewn unrhyw fodd yn iaith swyddogol na gweinyddol.

Mae'n rhywfaint o syndod nad yw asgellwr dawnus Caerdydd, Craig Morgan, yn cael ffafriaeth ar ôl disglleirio a sgorio dau gais gwych dros ei glwb echdoe.

Ond doedd y cochion ddim wedi cwbwlhau eu gorchest, ac fe fylchodd Roy Bergiers mor effeithiol fel na fedre'r gleision rwystro'r wythwr, Hefin Jenkins, rhag croesi am gais arall, i'w throsi gan Phil, i roi deg pwynt ar hugain ar y sgôrfwrdd--yn erbyn saith pwynt Caerdydd Nid gwneud cam â Chaerdydd yw dweud eu bod nhw wedi rnethu gyda chwe chic at y pyst, wrth iddyn nhw ddefnyddio Gareth Edwards, Leighton Davies a Keith James yn eu hymdrechion.

Hysbyswyd bod yna gais cynllunio am ugain o fythynod ar Stad y Tyddyn ond cytynwyd i'w ohirio tan y cyfarfod nesaf gan fod galw am lawer iawn mwy o fanylion.

Daeth 21 pwynt o droed Brett Davey a sgoriodd Ceri Sweeney, gafodd ei ddewis yn lle Lee Jarvis, ddau gais.

Sgoriodd Paul Williams ac Owain Lloyd gais yr un i Benybont.

Sgoriodd Colin Charvis a Matthew Robinson ddau gais yr un i Abertawe, a daeth cais hefyd i'r cefnwr Kevin Morgan - yn erbyn ei hen glwb.

O flaen torf o dros dair mil, roedd Llanelli'n colli'r gêm o naw pwynt i chwech, a dim ond ychydig funude o'r gêm yn weddill, pan lwyddodd Andy Hill i groesi am gais a droswyd gan Phil Bennett, eiliade yn unig o'r diwedd.

Cais llawn - addasu ac ymestyn modurdy preifat yn sylweddol i greu fflat nain Rheswm: Gohiriwyd ar gais asiant yr ymgeisydd.

Maen union fel petair defnydd o amddiffyn cadarn, o warchod eich llinell gais, yn elfen gwbl newydd.

Awdurdodwyd y Prif Swyddog Cynllunio i roddi hysbysiadau yn y Wasg o unrhyw gais a fydd, yn ei farn ef, o ddiddordeb arbennig i bentref, ardal neu'r Dosbarth (mae hyn yn ychnwanegol i unrhyw geisiadau y bydd yn rhaid eu hysbysebu'n unol â gofynion y Ddeddf - gan yr ymgeisydd neu'r Cyngor).

Ond tra oedd Llanelli yn dal yn y gêm wrth flaene eu bysedd, cafodd y cwbwl ei wyrdroi gan un symudiad cryf gan y blaenwyr, a Tommy David yn arddangos ei fedr a'i gryfder wrth garlamu dros linell gais Castell Nedd i sgori pedwar pwynt.

Ysywaeth, gyda'n bod yn medru cynnig gwasanaeth Canfod Arian (FUNDERFINDER) trwy gyfrwng rhaglen gyfrifiadur golygodd y cynnydd sylweddol yn nifer yr ymholiadau nad oedd yn bosib wedyn i ymateb i gais o fewn tri diwrnod.

'Roedd y perchennog erbyn hyn wedi paratoi costau a oedd yn dangos grant yr uned llawer mwy rhesymol ac y gellid ei gefnogi drwy gais i'r Swyddfa Gymreig.

Nid hawdd yw gwybod pa gwrs i'w gymeradwyo i'r sawl a gais ffermio, gan fod i'r naill ffordd a'r llall ei manteision a'i hanfanteision.

CYFLWYNWYD adroddiad y Swyddog Adeiladau ar gais y tenant am gyfraniad gan y Cyngor tuag at gost difrod a achoswyd i'r carped a phapur ar y wal o ganlyniad i ddŵr redeg i'r tŷ o dan y drws.

Ar gais 'caredigion Y Llenor' y mentrodd Gruffydd ar y gorchwyl.

Cadw'r gêm yn eu hanner nhw a wedyn fe godon ni gyflymdra'r gêm a chael dau gais clou.

Weithiau, y trefnydd ei hun fyddai'r ysgogiad yn yn y lle cyntaf, dro arall cyfarfyddid ar gais aelod o Adran Iaith neu Adran Addysg Prifysgol neu Bolitechnig.

Cwbl nodweddiadol o fyrbwylltra Pedr yw ei gais, yn yr Efengyl yn ôl Mathew: Arglwydd, os tydi yw, gorchymyn i mi ddod atat ar y tonnau, ac iddo, wedi cael caniatâd, ddechrau cerdded ar y tonnau nes iddo edrych ar rym y gwynt yn lle ar ras y Gwaredwr ac o ddechrau suddo, gweiddi: A Arglwydd, achub fi.

Yna, un bore ym mis Rhagfyr, daeth llythyr i'w swyddfa i'w hysbysu y byddai'r Llys Apêl, ar gais yr Ysgrifennydd Cartref, yn rhoi ystyriaeth buan i apêl Lewis.

O'i bas ef rhedodd Scott Gibbs nerth ei draed i'r gornel gan ddangos ei gryfder wrth chwalu'r ddau gais i'w daclo.

deallwyd mai ymateb i gais athrawon yr oedd yr asiantaeth wrth osod y cynllun marcio ochr yn ochr â'r dogau ac mai ymgais oedd hyn i daflu goleuni pellach ar y dogau.

Dyw Arwel ddim wedi gwneud dim byd o'i le, sgoriodd e gais pert a rwyn credu bod ei amddiffyn e wedi bod cystal â Neil Jenkins.

Hyfrydwch arbennig i mi fu cael ufuddhau i gais o'r fath, a mawr werthfawrogaf y gwahoddiad.

Derbyniwyd ar ddiwrnod y Pwyllgor gais cynllunio diwygiedig gan y perchennog.

Ar gais aelodau'r Rhanbarth, yr wyf hefyd yn anfon copi o'r llythyr at y Prif Weinidog.

Asgellwr Ontario, Jamie Collins sgoriodd gais y noson.

Rhediad hir crymaidd o ganol y maes i'r asgell dde gan y maswr bach o Lanelli (a roddodd amser inni gofio am Cliff Morgan a Phil Bennett, a diolch yr un pryd y bydd gennym ni faswr o'r iawn ryw unwaith yn rhagor cyn bo hir), a dau gais, y naill ar ôl camgymeriad dybryd gan Thorburn a James Reynolds, yr asgellwr chwith ifanc, yn eu ceisfa, a'r llall, a'r olaf, pan ddaliodd Simon Davies y bêl o gic gosb Stephens wrth y postyn chwith.

Sgoriodd Gaffie du Toit 16 pwynt i'r Sprinboks gan gynnwys eu hunig gais yn yr ail hanner.

Bron nad oes angen cofnodi i Phil drosi'r gais, gan iddo lwyddo saith gwaith gyda saith cic y prynhawn hwnnw.