`Cael ysgwyd llaw â 'nghefnder yn ei gegin ei hun'; sgrifennu am arferion byw yr Americanwyr cyffredin; `cael cyfle hefyd i ysgwyd llaw â rhai o'i ddynion cyhoeddus'; rhoi blas o wleidyddiaeth a pholisi; `gweled hefyd rai o olion y galanasdra ofnadwy diweddar'; fel newyddiadurwr o'r iawn ryw, cyfleu rhywfaint o gyffro'r funud.
I ganol yr olion yma o ddinistr ac ymrafael y cyrhaeddodd John Griffiths, gyda'r bwriad, fel yr esboniodd yn ei lith cynta' o ddangos `olion y galanasdra ofnadwy diweddar - olion y trychineb y mae y wlad newydd ddyfod drwyddo - Gweled rhai o gleision y dyrnodiau - o doriadau a chreithiau yr ymdrechfa aruthrol sydd yn bresennol newydd ddyfod i derfyniad.