Yn y diwedd, er gwaethaf swildod, datgorciwyd fy mhotel benedictine, a llifodd ar hyd ac ar led, y licar yn un ffiz o gwestiynau tebyg i'r rhai oedd wedi fy meddwi ar galeri Capel Seilo.
Tu mewn i'r Rex aeth pethau rhwg y cŵn a'r brain: plant ifainc yn cadw reiat; hen ferched yn lladd amser yn y galeri; y B movie du a gwyn ar y sgrin yn torri.
Dyma gynsail y datblygiadau diweddarach yn y ffilm: try'r gwylwyr goddefol yn y galeri ac yn yr awditoriwm sy'n eistedd yn ol ac yn gwylio pethau'n digwydd iddyn nhw yn weithwyr gweithredol.
Eisteddant yn y galeri yn gweu a smocio a sglaffio creision a cheir un o olygfeydd doniolaf y ffilm pan yw'r dair ohonynt yn joio mas draw wrth i'r grŵp chwarae'n egniol i gyfeiliant goleuo dychmygus Tref a'r ffilm gefndir o griw o ddawnswyr ifainc.