Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gallant

gallant

Rhaid gwahaniaethu hefyd rhwng cenedlaetholdeb, imperialaeth o thotalitariaeth, er cydnabod y gallant oll weithiau gyd- fodoli yn yr un wlad.

Ac o achos hyn a rhesymau eraill, yr ydym mewn llawer lle wedi cadw'r ymadroddion Hebraeg, er y gallant daro braidd yn chwithig yng nghlustiau y rheini nad ydynt wedi ymarfer yn dda â hwy ac ymddigrifo hefyd yn ymadroddion persain yr Ysgrythurau Sanctaidd.

Arddulliau dysgu a sut y gallant ddylanwadu ar effeithiolrwydd datblygiad dwyieithrwydd.

Gan mae dyma'r cynghorau sydd agosaf at y bobl a'r cymunedau, mewn sawl ystyr, gallant baratoi awgrymiadau ar sut i ddiogelu ac i hyrwyddo iaith Gymraeg ar y lefel mwyaf sylfaenol e.e.

Mae'n syndod gynifer o bobl yn yr eglwysi sy'n ceisio darganfod ar ba gyn lleied o grefydd y gallant fyw.

Tybiant heddiw y gallant wneud a fynnant, ac ni all yr Ysgolion ddisgyblu.

Maent yn defnyddio goleuni'r haul i wneud eu bwyd ffoto- synthesis yw'r enw ar y broses hon a thyfu tuag at yr haul y mae planhigion, fel y gallant gael cymaint o oleuni ag sydd modd.

A phroblem i mi yw dychmygu pa fodd y gallant ysgwario eu cred a hanes y byd; ac am hynny hefyd yr ydwyf yn credu bod pob ymgais i addysgu'r bobl yn gam pwysig ar y briffordd sy'n arwain at iechydwriaeth yr hil ddynol.

Nid yw hynny'n rhywbeth y gallant ei fesur na'i bwyso, ni ellir ei droi'n ddiriaeth na'i werthu, ac felly nid yw'n werth dim.

Mae'n syndod pa mor niferus yw'r rhai sy'n tybio y gallant berthyn i eglwys ar eu telerau eu hunain a chredu beth a fynnont, heb ystyried beth yw gofynion Iesu Grist.

Bydd disgyblion yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau ac at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd; byddant yn fwyfwy abl i drefnu eu deunydd, i ysgrifennu'n gywir, i reoli sillafu a llawysgrifen; amlygant afael briodol ar Gymraeg a Saesneg safonol a gallant adnabod a defnyddio amrediad cynyddol o arddulliau a chyweiriau iaith; byddant yn adolygu ac yn ailddrafftio'u hysgrifennu gan ei gyflwyno'n briodol.

Arfer cynghorau sir Cymru yw gwrthod cydweithredu â'i gilydd heb eu gorfodi, a gwrthod hyd y gallant bob cais i newid eu cyfansoddiad a'u trefn.

Bydd disgyblion yn darllen amrediad eang o destunau llenyddol, anllenyddol a thestunau'r cyfryngau; gallant ddarllen yn gywir, yn rhwydd a chyda mynegiant priodol; bydd ganddynt ddealltwriaeth eglur o'r hyn y maent yn ei ddarllen ac yn ei weld, a gallant ymateb ar lafar ac yn ysgrifenedig i destunau o gymhlethdod cynyddol.

Maent yn hyderus wrth fynd i'r afael ag amrediad o destunau o gymhlethdod cynyddol a gallant ddeall ystyron ymhlyg yn ogystal â'r arwynebol a'r amlwg.

Ategu gwaith awdurdodau tai trwy ddarparu cartrefi o safon i bobl leol sydd ar incwm isel ar gost y gallant ei fforddio, boed ar rent neu ar gyfer prynwyr tro cyntaf, ynghyd ag ateb angen pobl sydd ag anghenion arbennig gan geisio gwneud hynny o fewn stoc bresennol yr ardal, yn y dull mwyaf effeithiol, efo gwasanaeth sydd yn atebol i'r defnyddwyr a'r cymunedau lleol gan rannu'r adnoddau'n deg rhwng gwlad a thref.

Oddi yma gallant ddisgyn i'r lefel wreiddiol drwy ollwng goleuni.

Am ddim a wyddom, gallant fod wedi hen ddiffodd.

Cenedl Enwau a'r ffyrdd y gallant effeithio ar gywirdeb.

Gallant ddiolch fod Cristngion mor ddifeind ou cred a'u crefydd hwy.

Bobl yn licio byw ar bethau y cymydog os gallant.

Cofiwch, prif nod gwaith allweddol yw galluogi defnyddwyr y gwasanaeth fel y gallant gael y cyfle i ymgymryd a thasgau gwaith allweddol.

Gallant wneud hyn ar safle'r ffilmio trwy edrych ar y dilyniant cyntaf a dynnwyd ganddynt.

Yn gynyddol, gallant fyfyrio'n annibynnol ar yr hyn a ysgrifennwyd ganddynt.

Sut y gallant ddygymod ag amgylchiadau sy'n ei gwneud hi'n angenrheidiol i'w llenorion eu lladd eu hunain?

Mae'n amlwg nad oes gan y sawl sy'n gyfrifol am eu hysgrifennu ddealltwriaeth na chydymdeimlad a Chymru na'r iaith Gymraeg ac mewn dogfen mor bwysig i ddyfodol ein gwlad gallant brofi'n ddamniol.

Os digwydd un ddamwain, yna cred y cwmni%au awyr y gallant ddisgwyl dwy arall i'w dilyn.

Fel yr awgryma'r enw, a'r un Saesneg, gallant sboncian gyda'u coesau ol cryfion.

* bod rhaid gwerthfawrogi'r cyfraniad mae'r rhieni wedi ei wneud ac y gallant barhau i'w wneud, i addysg eu plentyn.