Maent yn ei agor hefo cyllell, ac yn ei ail danio, ac i fyny'r rhaff â hwy, cyn gynted ag y gallent, a dyrna glec a thwrw mawr gan y cerrig yn rhowlio i lawr wyneb y graig.
Wedi cyrraedd diogelwch y mur wrth gefn y ffynnon gwnaethant yn siŵr eu bod yn gwybod ym mhle'r oedd y tyllau yn y muriau fel y gallent wylio drwyddynt.
Byddent yn cael eu cynllunio nid i ddangos lefel o allu (er y gallent wneud hynny'n ddamweiniol) ond i ddisgrifio cyfres o dasgau a gyflawnwyd yn foddhaol.
Efallai i'r ymerodron hyn gredu y gallent orchfygu angau trwy godi cofadeiladau anferth iddynt eu hunain, a fyddai'n para wedi iddynt hwy orffen eu dyddiau ar y ddaear.
Ond prin y gallent hwy, hyd yn oed, gystadlu o ran harddwch â'r eglwysi cadeiriol, yr hen eglwysi clas (megis Llanbadarn Fawr) ac ambell eglwys blwyf, heb sôn am abatai a phriordai'r gwŷr wrth grefydd- casgliad nodedig o adeiladau gwych dros ben.
Priodol yw cofio fod pwysau mawr ar Thomas Charles a'i debyg i brofi y gallent gadw trefn ar eu dilynwyr.
Pawb yn ddistaw, rŵan.' Wrth edrych dros eu hysgwyddau gallent weld coed y winllan yn cyrraedd bron atynt ac roedd yn gysur gwybod y gallent ddiflannu yn bur sydyn i dywyllwch y coed pe byddai angen.
Yr oedd gwrandawyr yn aml iawn yn crwydro o gapel i gapel ac o enwad i enwad yn ôl eu mympwy a gallent yn hawdd ymddangos yn ystadegau amryw eglwysi.
Awgrymodd Mr Puw mai'r man cychwyn fyddai cael gafael ar dystysgrifau marwolaeth, priodas, ac efallai geni, y ddau a hefyd gallent archwilio cofrestri plwyf a chyfrifiad yn yr archifdy.
'O'u cuddfan, gallent, wrth edrych heibio i'r gornel, gadw golwg ar y llwybr yn weddol hawdd.
Estynnodd ddwy gadair yn nes at y tân fel y gallent eistedd gyda'i gilydd Roedd hi'n mynd i fod yn noswyl hir iawn.
Gallent gynnal eu hysgolion eglwysig eu hunain.
Dangosodd wyth Llanelli y gallent hwythau hefyd hyrddio'n effeithiol ar ôl sgrym, ac ennill ryc, a defnyddio'r meddiant pan ddaeth Luc Evans i mewn i roi pas wych i Andrew Morgan, yr asgellwr de, a chwaraeodd yn lle Ieuan Evans anafus.
Cadwai'r cŵn mor agos ato ag y gallent gan wthio'u pennau yn ei erbyn fel pe byddent yn ei helpu i fynd yn ei flaen.
Roedden nhw'n gyfarwydd bellach a thriciau gofaint Brycheiniog, sef dianc a chuddio gan fynd a chymaint o'u hoffer gwerthfawr ag y gallent gyda hwy.
O'r fan honno, gallent weld i bellterau cul y castell oedd wedi'i rannu'n dair rhan.
Pan oedd personiaid, ar gyflogau isel, yn gofalu am blwyfi eang, mynyddig, yn aml am lawer o blwyfi, sut y gallent weithredu fel athrawon llwyddiannus yn ogystal?
Y rheswm pennaf am hyn yw fod yr actorion a'r cynhyrchwyr yn ymroddedig ac wedi mynnu meistroli, orau y gallent, grefft a disgyblaeth y llwyfan.
Gallent weld bryniau isel yn y pellter ond doedd dim arwydd o fywyd yn unman, ar wahân i hebog yn cylchu'r awyr ymhell uwch eu pennau.
O leia, roedd mwy o gomisiynau'n dod i'w rhan erbyn hyn nag y gallent obeithio eu cyflenwi, byth er pan fu newyddiadurwyr 'Tŷ a Gardd' o Gaerdydd yn tynnu lluniau o Lety'r Bugail ar gyfer tudalennau'r cylchgrawn dethol hwnnw.
Yn amlwg, gallent weld y pedwar march am fod effaith y llwch yn dechrau gwanhau.
Fe fyddai eraill yn ceisio annog y Cwrdiaid i drefnu rhyw fath o gyfundrefn lywodraethol ymysg ei gilydd, fel y gallent yn y pen draw ddisodli'r byddinoedd rhyngwladol.
Cymry'n bennaf oedd yn yr ail garfan a dyna felly oedd iaith y grŵp hwnnw, gyda'r ychydig Saeson yn eu mysg yn straffaglu i'w siarad orau y gallent.
Ac adroddwyd wrthyf i'r mulod ddysgu yn fuan i redeg i gefn y trên wedi iddynt gael eu datgysylltu ar y pen blaen, fel y gallent esgyn i'r llwyfan.
Gallent ddadlau nad oeddent yn gallu meistroli amodau creulon y gors.
Mae'n debyg fod y dawnswyr yn cynilo'u ceiniogau prin er mwyn prynu nwyddau y gallent eu cludo adref gyda hwy.
Cwmni dynion fel Cela Trams a Dik Siw, a'u bryd ar wneud arian mor ddidrafferth ac mor gyflym ag y gallent; dynion na allent ddioddef wnionyn o fewn milltir iddynt.