Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gallesid

gallesid

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Mae'n syn i'r golygydd ddweud 'y gerdd bwysicaf yn y casgliad hwn yw 'Gweddi'r Terfyn' gan nad oes yma ysgrif ar y gerdd honno; gallesid cynnwys ysgrifau DZ Phillips a SL ei hun o'r Tyst.

Gallesid bod wedi darlunio deffroad amgenach na deffroad unigolyddol enaid clwyfus, sef deffroad gwerin i frwydro yn erbyn gormes ac anghyfiawnder.

Hwyrach y gallesid rhoi pwyslais mwy ar bosibiliadau'r dyfodol.

Gallesid meddwl fod tebygrwydd mawr rhwng y ddau yn eu dull o feddwl.

Go brin y gallesid bod wedi tadogi'r araith hon ar Thomas Gee chwaith.