Yng nghanol y plât hwn mae asgwrn bychan yn syth i fyny; un a elwir yn Lladin yn crista gallii sef crib y ceiliog.
Yr hyn a'm synnodd oedd i'r Dr Jamieson alw'r asgwrn bychan hwnnw yn 'helm y Galiad' a hynny o bosib ar y sail iddo fod wedi darllen fel y gelwid ein cyndadau ni - a oedd i'w cael ym mhobman yn y Gogledd - gan y Rhufeiniaid yn Gallii.