Soniodd Syr Thomas Parry-Williams wrthyf un tro i gasgliad cyfoethog anghyffredin o lyfrau prin gyrraedd siop Galloway.
Ond pan ddaeth Galloway ei hun i'r siop tua hanner awr wedi naw a chlywed fy mod yn y llofft carlamodd i fyny'r ysgol ynghynt nag y gwneuthum i hyd yn oed.
Daeth ychwanegiadau gwerthfawr ar adran llên gwerin fy llyfrgell gyda'r cyfrolau a sicrheais yn siop Galloway o gasgliad mawr William Davies y cigydd, Talybont.
Un da am gatalogau o gywreinion betheuach a llyfrynnach prin oedd Goronwy Williams, ac ni bu neb gwell am faragen na Galloway.