Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

galluoedd

galluoedd

Ar Galfaria gorchfygodd y Gwaredwr y galluoedd erchyll sy'n herio ei awdurdod a'i frenhiniaeth,

Nid oedd yn chwennych y daith drwy'r gwyll i'r fferm chwaith, ond tasg i'w chyflawni yn y nos ydoedd, y nos oedd yr amser i herio galluoedd y tywyllwch.

Ac eto, o gofio ymateb trigolion un pentref yn ddiweddar, mae'n ymddangos fod rhai pobl o hyd yn rhyw led-gysylltu'r ysgub â galluoedd goruwchnaturiol.

Ond fydda hi ddim yn addas i Hil y Meistri lafurio pan mae hiliau israddol, gyda'r galluoedd angenrheidiol, ar gael.'

Dylai arolygwyr gofnodi'r gymhariaeth gyda'r cyfartaledd cenedlaethol ond dylent hefyd ganolbwyntio'n arbennig ar asesu cyrhaeddiad y disgyblion ag AAA mewn perthynas â'u galluoedd.

Argyhoeddwyd ef fwyfwy bob dydd fod yr ymdrech yn erbyn galluoedd y drwg.

Gwnaed hynny cyn setlo'n derfynol beth fyddai galluoedd y Senedd arfaethedig.

Y gymysgedd hon o arddulliau dysgu sydd yn rhoi'r cyfle gorau i ddisgyblion ddatblygu eu galluoedd ieithyddol a'u dealltwriaeth bynciol yn gyfochrog gan fod pwrpas real i'r ddeubeth mewn sefyllfa o'r fath.

Ei nod pennaf yw osgoi pob drwg, ac yn arbennig y galluoedd drygionus sydd y tu hwnt i'w ddirnadaeth - osgoi'r drwg ac ymgyrraedd at y da a phrofi llawenydd a bodlonrwydd.

Cymedrol iawn oedd ei galluoedd; os na fedrai cenedl fyw'n llawn hebddi, o leiaf gallai fyw.

Sicrhawyd Esgob Tyddewi y gallai'r dyddiau penodedig o weddi%o fod yn fendithiol, ac er mwyn i'r Eglwys gyflawni ei dyletswydd ym mlynyddoedd y Rhyfel yr oedd yn ofynnol iddi fod yn gwbl argyhoeddedig fod y frwydr yn un yn erbyn galluoedd y tywyllwch.

Efallai fod perfformiad disgyblion ag AAA yn gymharol isel o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol ond eto gall eu cyrhaeddiad fod yn uchel mewn perthynas â'u galluoedd gan adlewyrchu rhagoriaeth mewn perthynas â'r hyn y gellir yn rhesymol ei ddisgwyl ganddynt.