Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

galwai

galwai

Becws bach oedd gan fy nhad ym mhentref Aberffraw yn Sir Fôn, ac yno y galwai pawb ar eu ffordd i'w gwaith.

Un o'r ddwy genedl y galwai'r Cymry am eu rhyddid yn y ganrif ddiwethaf oedd y Magyariaid, sef cenedl Kossuth.

Galwai ei thad yn aml a gwelai yn ei wyneb unwaith eto ei dynerwch cynnar.

Wil Gaerwen y galwai William Owen, Ned Tyddyn waun oedd Edward Owen ganddo, a Twm Siopblac oedd Tomos Willias iddo, ac yn y blaen.

Galwai laweroedd i'r fenter; a gwyddom i rywrai ymesgusodi rhag ei ddilyn ac i rywrai ymgynnig ac wedyn tynnu'n ôl - y sefyllfa sydd yn gefndir i rai o ddywediadau 'celyd' Iesu megis 'Gad i'r meirw gladdu eu meirw' (Luc ix.

Yr oedd golwg lewyrchus ar Lundain a'r canolbarth a siroedd de-ddwyrain Lloegr tra oedd y drefedigaeth Gymreig yn llusgo byw dan amrywiaeth o enwau a'i galwai yn bopeth ond yn famwlad cenedl.

Galwai hi Jo arno ef.

Ymhen dim daeth Fred yn gyfaill i'r teulu, a galwai yn y tŷ yn gyson.

Ond pan gafwyd organ yn y capel, a honno'n rhuo yn nhwll ei glust, digiodd yn bwt wrth 'y ddelw fawr Deiana' fel y galwai ef hi, ac aeth am yr eglwys.

Galwai yma yn aml iawn a chan fod Edward yn defnyddio'r baco main arferai weiddi lathenni cyn dod i'r golwg, "Ydi'r hen faw hen faco 'na gen ti?" Llanwai ei getyn ar unwaith a châi flychiad o fatsys i geisio ei thanio gan ddefnyddio iaith nas defnyddid yn yr un Seiat ar ôl pob methiant.