Ond drwy gydol y nofel hon cawn ein paratoi'n ofalus gam wrth gam ar gyfer tro%edigaeth ysbrydol Harri.
Heb i Hiraethog fynd heibio i'r cyntaf anodd fyddai ystyried ei chwedl yn nofel o gwbl; ac yn yr ail gam ceir datblygiad rhesymegol o'r technegau a'r deunydd gwrthdrawiadol a welir yn ei lyfrau eraill.
Nid oes raid inni dreulio llawer o amser yn trafod y ddau gam cyntaf.
Byddai gofyn ei drefnu a symud o gam i gam gan roi rhybudd a rhoi amser i gyfnewidiadau.
Fy amcan i yn yr ysgrif hon yw mynd gam ymhellach,a gosod gweithiau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr, nid er mwyn cyffredinoli ynghylch hanfodion neu ragoriaethau y naill na'r llall, ond gan obeithio y daw natur arbennig rhai gweithiau unigol yn amlycach o'r cyferbynnu.
Bellach mae ganddo opsiwn arall a bydd yn penderfynu pa gam i'w gymeryd ar ôl ystyried cynnwys adroddiad y swyddogion.
Mae nifer o'r rhaglenni hyn yn adlewyrchu cryfder BBC Cymru o ran newyddiaduraeth materion cyfoes, ac roedd hyn yn amlwg trwy gydol y flwyddyn gyda chyfraniadau i ddarllediadau ar radio a theledu o ddigwyddiadau megis yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd, a phrif raglenni dogfen ar y teledu megis Place of Safety, am yr ymchwiliad i gam-drin plant yng Ngogledd Cymru, ac In The Red Corner, a ddilynodd gystadleuaeth arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.
Ble bynnag yr âi, ei gam bellach yn fyrrach, ei war wedi crymu, roedd croeso iddo.
Wedi dweud hynny, yn anffodus, daeth amryw o achosion o gam ddefnyddio i'r amlwg.
'Mi ddechreuodd neidio gam yn rhy fuan.'
Mae paratoi adroddiad pwnc ar yr iaith Gymraeg yn golygu nid yn unig gwneud adroddiad ar gyflwr yr iaith ond hefyd paratoi argymhellion ar sut i geisio'i diogelu - ond dylid hefyd mynd gam ymhellach trwy gynnwys argymhellion ar sut i gryfhau'r iaith.
Ac yntau yn ei bedwardegau cynnar, roedd wedi bod yn ddiplomat ac yn filwr gyda'r herc yn ei gam yn brawf o'i ran ym mrwydr y Bay of Pigs.
Roedd y llwybr yn ofnadwy dau gam ymlaen a llithro thri yn ôl.
Da iawn nhw, mae nhw ddigon craff i sylweddoli na fedr tai ddim siarad, ond mae mynd gam ymhellach a sylweddoli fod y bobl sydd yn byw mewn tai yn siarad â'i gilydd y tu hwnt i'r bobl yma.
Chododd e ychwaith mo'i ddwrn na'i lais mewn protest, roedd yn swagrwr bonheddig ac yn ŵr llaith a ddewisoedd, yn gam neu'n gwmws, broffesiwn arbennig o galed.
Symudodd Mathew gam yn nes er mwyn clywed y neges.
Dylent fod wedi cael eu pedoli oriau ynghynt a doedd dim synnwyr iddyn nhw fynd gam ymhellach - fyddai ceffylau cloff yn dda i ddim i neb.
Roedd yna gyffro aruthrol a mae Caerdydd gam yn nes at yr Ail Adran.
Yr eilydd Michael Blackwood rwydodd y drydedd wedi 64 munud, a hynny efo'i gyffyrddiad cynta yn y gêm, a roedd y deiliaid gam yn nes at rownd derfynol arall yn y Cwpan Cenedlaethol.
Os bydd hi'n anodd gan rai dderbyn y 'fratiaith', John Owen, mae'n gam hanfodol yn natblygiad y plant - tafodiaith yw hi ar y ffordd tuag at fabwysiadu'r Gymraeg.
Er cysoni'r defnydd o dermau yn y drafodaeth sy'n dilyn, yn yr adroddiad hwn crynhoir y broses i ddau gam sylfaenol:
A phroblem i mi yw dychmygu pa fodd y gallant ysgwario eu cred a hanes y byd; ac am hynny hefyd yr ydwyf yn credu bod pob ymgais i addysgu'r bobl yn gam pwysig ar y briffordd sy'n arwain at iechydwriaeth yr hil ddynol.
Roedd y drws yn gam ac wedi chwyddo.
Os nad yw'n bosib chwilio'r we yn Gymraeg, mae hynny'n gam â phlant Cymru.
Mae Station Road yn gam dewr i fyd yr opera sebon.
Maen ymddangos yn debyg fod penodiad hyfforddwr Cymru, Graham Henry, yn hyfforddwr Llewod 2001 gam yn nes wedi i brif weithredwr Auckland, Geoff Hipkins, ddweud na fyddai gan y clwb yn Zeland Newydd wrthwynebiad petae Henry yn derbyn y swydd.
plentyn Dafydd ac Ann Williams o'r Ddôl-gam, Cwmllynfell.
Mae tynnu dirwyon o fudd-dal yn gam newydd gan y Wladwriaeth ac yn dangos nad oes gan berson di-waith yr hawl hyd yn oed i wrthod talu dirwy.
Gan nad beth, creadur y gwanwyn yw'r oen, ac arferais gredu, yn gam neu'n gymwys, bod a fynno tarddiad enw'r tymor cyntaf â ffurf lluosog y term 'oen'.
Hedfannai ei gwallt yn gudynnau brith o gylch ei phen, fel petai newydd gael sioc drydan, ac roedd ei chap nos lês wedi ei luchio'n ôl yn gam ar gefn ei phen gan y mwng gwyllt.
Ni chredaf y byddwn yn gwneud unrhyw gam a'r awdur trwy ei ddisgrifio yn fwy o swyddog traddodiadol nag yn un o'r to newydd mwy rhyddfrydol.
Wedyn fe â gam ymhellach.
Ni theimlwn yn obeithiol y bydd y cynllun hwn yn arwyddo unrhyw gynnydd mawr yn yr adnoddau ar gyfer plant o fewn Cymorth i Fenywod yng Nghymru, ond croesawn unrhyw gam newydd sy'n cydnabod anghenion plant yn benodol.
Druan ohono, fe gafodd gam mawr ar ddwylo'r Arglwyddes.
Peth blin fyddai iddo golli Gwgon Gam.
Un cam ymlaen a dau gam yn ôl yw hi'n gyson i addysg feithrin.
Dangosir cadernid cariad Enid nid yn gymaint yn ei geiriau wrth wrthod ymgais Iarll Limwris i ennill ei llaw ond yn fwy fyth yn ei ffydd yn Gereint a hithau wedi dioddef cymaint o gam ganddo, 'a dodi
Mae'r glowr ar hyd y blynyddoedd wedi'i gam-ddarlunio oherwydd rhamant rhamant cenedlaetholwyr, sosialwyr a chrefyddwyr ymhlith eraill.
Os nad yw'n bosib anfon neges pager neu ddefnyddio'r ffôn symudol yn Gymraeg, mae hynny'n gam â'r miloedd ar filoedd o Gymry ifainc sy'n eu defnyddio.
Rhagrith Yr ail wedd ar y duedd yma i 'feddwl yn gam' yw RHAGRITH.
Cymerodd y BBC gam mawr ymlaen yn y flwyddyn ddiwethaf wrth greu BBC Resources Limited fel is-gwmni dan berchenogaeth lawn.
Gwnaethon nhw lai o gam-gymeriadau hefyd.
Rhaid derbyn fod amryw o'r straeon hyn yn ffrwyth dychymyg y CIA yn ystod ymgyrch o gam-wybodaeth yn erbyn Gadaffi.
Ni fyddai'r plant mwyach yn marw o'r dwymyn goch, ni fyddai coesau'n tyfu'n gam oherwydd diffyg y fitamin hwn neu'r llall?
Wrth gwrs, nid oedd dim yn newydd yn y defnydd a wnaed o'r Ymofynnydd i amddiffyn safbwynt pan y'i heriwyd, nac yn ei ryddid i eraill ei ddefnyddio at yr un pwrpas; yn wir, ni allaf feddwl am un enghraifft pan wrthodwyd cyfle teg i ohebydd ddweud ei farn ar dudalennau'r cylchgrawn, boed y farn honno'n gam neu'n gymwys yng ngolwg y mudiad a'r golygydd.
Nid oes amheuaeth nad yw'r duedd i 'feddwl yn gam' yn parhau i'n blino ni fel cenedl heddiw, a bod hynny nid yn unig yn bygwth ffyniant a pharhad yr iaith Gymraeg, ond hefyd yn creu rhwyg ac anghydfod yn ein plith.
Mae popeth drosodd iddi hi,' ebe Sylvia â gwên gam, gan rwbio'i bol chwyddedig.
Dylai deddf iaith newydd fod yn gam tuag at ddod â swyddi i Gymru.
Ac os cewch chi gyfle i ennill Castell trwy aberthu Esgob neu Farchog - manteisiwch ar y cyfle bob amser, gan fod gwneud hynny'n gam pwysig tuag at ennill y gêm.
Ond gallwn fynd gam ymhellach na hyn.
Mi gafodd rhai eu colbio ar gam." "Pwy oeddan nhw felly?" "Mae hi'n gyfrinach aiff hefo fi i'r fynwant.
Yr ail brif gam oedd trefnu'r Ysgol Haf gyntaf.
Y mae'r angen am iawn yn rhagdybio rhyw gam a wnaed rhwng dau, a rhyw ddieithrwch neu elyniaeth wedi tyfu rhyngddynt.
O droi at ffynonellau hanesyddol pur fe geir mai'r ddwy gynharaf sy'n crybwyll Arthur yw'r Annales Cambriae, cronicl o hanes y Cymry, a'r Historia Brittonum, 'Hanes y Brythoniaid', a briodolwyd yn gam neu'n gymwys i un o'r enw Nennius.
Sôn a wna'r Athro am eiriau a lefarwyd ychydig cyn hynny gan y diweddar Dr T Gwynn Jones, sef 'nad yr iaith a sieryd pobl sy'n bwysig ond yr hyn a feddyliant: gofalwch am y meddyliau, ac fe ofala'r iaith amdani ei hun.' Yna, meddai'r Athro, 'os goddefir imi gymhwyso'r geiriau mewn enghraifft, y mae'n well ganddo Sais yng Nghymru sy'n meddwl yn iawn na Chymro sy'n meddwl yn gam.' Hawdd credu i'r geiriau trawiadol hyn gael eu camddeall a'u camesbonio gan lawer y pryd hwnnw ac y byddai'n anodd gan nifer heleath o Gymry heddiw ddeall eu gwir arwyddocâd.
Yn ôl Alun Jones, Cadeirydd y pwyllgor cae a phabell, trafnidiaeth a pharcio, y mae hyn eto yn gam i hwyluso llif y traffig i Glynllifon gan mai ond un fynedfa sydd i'r maes.
'Fel y derwyddon ers talwm,' ychwanegodd, gyda gwên gam.
'Gyda'ch caniatâd caredig chi, eich mawrhydi,' meddai, 'mae un cyhuddiad yn erbyn Anti Meg sy'n waeth na'r un o gam-drin y caneri...'
Mae yna lot o gicio yn y stori hon ac os ydach chi ddim yn licio cicio peidiwch â darllan gam ymhellach.
Os ydi hi'n bosib i fyfyrwyr sicrhau fod eu gwaith coleg yn Saesneg ar y cyfrifiadur yn cael ei gyflwyno heb gamgymeriadau, ond nid yw'n bosib i fyfyrwyr sy'n astudio yn Gymraeg wneud hynny, mae hynny'n gam â'n myfyrwyr.
Yn wyneb yr ymosod a fu ar ymdriniaeth Ffowc Elis â chenedlaetholdeb yn ei lenyddiaeth dyma Derec Llwyd Morgan yn achub ei gam.
Yn gam a menyw ac yn gam ag un o'r 'teithwyr'.
Bedd diwylliant a chamwedd diwydiant: symbolaui byw o gam-lywodraethu a cham-reoli.
Dyma gam newydd i Wasg Gomer - creu dwy fersiwn o'r un stori - un i blant sy'n dysgu Cymraeg a'r llall i blant iaith gyntaf.
Oherwydd arbenigrwydd y flwyddyn, roedd mwy o ddiddordeb o lawer yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru, a'r gobaith oedd y bydden ni'n mynd gam ymhellach na'r tymor cynt, drwy gael y cwpan yn ôl i Barc y Strade.
Cwrw oedd canolbwynt dau gomedi sefyllfa, gyda Trouble Brewing, golwg ysgafn ar y busnes bragu a Pub Globo, a aeth gam ymhellach.
gofyn pobl y ffordd hyn bob dechrau haf hefyd, 'ydych chwi wedi dechrau tynnu tatws', yn union fel y gofynant, 'welsoch chwi wennol' neu 'glywsoch chwi'r gôg>' Sylwaf wrth feirniadu mewn sioeau cynnyrch garddio fod llai na chynt yn cystadlu yn y dosbarth i gasgliad o lysiau a chryn gam ddealltwriaeth hefyd am yr hyn ddisgwylir.
Mae Manchester United gam yn nes at rownd wyth ola Cynghrair y Pencampwyr ar ôl gêm gyfartal, 1 - 1, yn Panathanaikos.
Ond ar ôl mynd yno ac iddi gyrraedd saith o'r gloch, yr oedd pawb yn edrych ar ei gilydd yn hynod o chwilfrydig, gan feddwl tybed beth oedd i fod a beth oedd yn cyfrif am eu bod yn cael eu hunain yn Ysgol Nant ar gam adeg megis.
'Dyw'r adeiladwaith, falle, ddim yn berffaith ond mae'n gam cywir a rwyn gobeithio nawr y bydd safon y gêm yng Nghymru yn codi.
Yr amcan yw y bydd y cytundebau hyn yn cynorthwyo grwpiau o gam i gam drwy'r broses ddatblygu, ac y bydd yn fframwaith i sicrhau perthynas waith gydweithredol a chydradd rhwng y ddau barti.
Ni chofiaf weld y geiriau dadleuol uchod yn eu cyd-destun gwreiddiol, ond, os nad wyf yn camgymryd, yr hyn yr oedd gan Dr T Gwynn Jones yn ei feddwl oedd fod pwnc yr iaith yn un mor llosg nes ysgogi rhai Cymry i feddwl ac i weithredu'n gam, hynny yw, yn anghyson â'r egwyddorion hynny sy'n sylfaen i ffyniant cymdeithas wâr.
Ddaru Anti Nel nabod cwch Uncle Danial ar unwaith - "Pluan Wen" ydi 'i enw o - a dyna lle roedd o wrthi'n dadlwytho pysgod, a'r cap doniol 'na sgynno fo yn gam ar ei ben.
Ochri efo'u Tywysog y byddai pobl Dolwyddelan gan arswydo rhag y Gwylliaid, yr Ymennydd Mawr a'r pry bychan o Gripil, Gwgon Gam.
Teimlwn fod raid achub ei gam, gan fod ambell un wedi beirniadu ei benodiad i'r swydd bwysig honno, ar y sail ei fod yn ddi-Gymraeg.
Fe fyddwn i yn mynd allan i wneud yn sicr na fyddai'n edrych gam ymhellach na fi am ei golwr.
Dyma gam bras o gofio nad oedd Cymraeg yn yr ysgol o gwbl oddieithr yn y cyfnod pan fu Gwyn Daniel yn ceisio'i orau glas i'w Chymreigio.
A phan amcanai gerdded, nid symud yn drefnus o'r naill gam i'r llall a wnâi, ond rhyw fynd hwnt ac yma ar hanner tuth, a hynny gan amlaf ar flaenau'i draed.
Buasai Myrddin Tomos, cyn ei ddwyn i'r carchar, yn y tribiwnaliaid milwrol yn dadlau dros ei bentrefwyr, ac yno y gwelodd gam-drin ei bobl uniaith gan swyddogion Seisnig y Llywodraeth.
Aeth Arthur Compton gam ymhellach yn ei lyfr The Human Meaning of Science: " Gwyddoniaeth a Thechnoleg barodd i ddyn fagu'r nodweddion sy'n ei wahaniaethu oddi wrth yr anifail".
Yr oedd yn rhaid wrth hunan-hyder i allu cymryd y fath gam.
Yr oedd rhai ohonynt yn magu ac yn llawn llaeth a hithau hefyd yn ddiwedd Mai neu ddechrau Mehefin poeth; yr oeddem wedi eu dal ar gam amser.
Ond buan iawn yr oeddent yn mynd gam ymhellach ac yn defnyddio'r iaith ymerodrol fel cyfrwng i danseilio'r diwylliant lleiafrif.
Gall yr union briodweddau sy'n arwain i'r holl broblemau pan ddigwydd damwain, neu pan gam- ddefnyddir defnyddiau ymbelydrol, fod a chymwysiadau buddiol hefyd.
Cafodd Harri Gwynn ei ddiystyru yn rhy hir, ac ar gam.
Daeth tro ar fyd Reg yn 1998 pan y cyfarfu Diane Francis - 'roedd ei merch, Emma, wedi cyhuddo Reg ar gam o ymyrryd gyda hi.
Ond fe fu adegau yn ystod y can mlynedd o amgau cyfreithiol gan ŵyr ariannog, pan wrthwynebai'r werin unrhyw awdurdod a ddygai'r 'comin oddi ar yr ŵydd.' Felly y cyflwynir yma'r Sais Bach ,mewn sawl delwedd, a Jennings fel gŵr a gafodd gam.
Roedd yn arweinydd naturio yn wydn, yn ffydlon ac yn sicr ei gam a'i farn.
Mae hwn yn gam mawr ymlaen i statws yr iaith yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Melltithiodd ei gloffni ac ymdrechu i gyflymu ei gam heb ollwng ei afael ar y cwdyn.