Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gamp

gamp

"Y gamp fwyaf ydi hedfan yn isel, nid yn uchel," meddai peilot arall tra'n bwyta brecwast un diwrnod.

Mae prif thema La Queste a Perlesvaus yn sylfaenol debyg, ac yn sawru o Gristnogaeth asetig: er mai marchogion llys Arthur yw'r gorau yn y byd, mae eu diffygion moesol yn eu rhwystro rhag cyflawni'r gamp uchaf oll a chanfod y Greal; cedwir y fraint arberlnig honno i farchog ysbrydol a moesol berffaith, sef Persifal (cefnder cyfandirol Peredur y traddodiad Cymreig) yn Perlesvaus, a Galaad neu Galaath (sy'n fwy cyfarwydd bellach fel Galahad), arwr newydd sbon a ddyfeisiwyd yn arbennig ar gyfer y dasg yn La Queste.

Y gamp fawr oedd peidio â gollwng y gath o'r cwd.

Gwneud yr olwyn oedd y gamp fawr ac wrth weithio o chwith ar honno y bu'r camgymeriad.

Ychwanegodd mai'r gamp yw cyfuno'r elfennau hynny o lun, llais, gair a stori.

Y gamp ydi creu priodas - undod organig - rhwng y cyfan.

Daeth y Cymry, nad oedd neb yn rhoi unrhyw obaith iddyn nhw, o fewn hanner at greu y sioc fwya mewn unrhyw gamp erioed.

Mewn un mosg yng nghanol Tripoli, buom yn ffilmio rhesi o blant yn ceisio efelychu'r gamp.

Wedi i'r Alban faeddu Lloegr dros y Sul a'u hamddifadu o'r gamp lawn, tybiais mai'r peth Cristnogol i'w wneud fyddai peidio ffonio a gadael i'r briw rygbi iachau'n raddol.

"...sialens i awduron o'u gallu a'u profiad hwy yw dal dros fyth mewn geiriau gamp a rhemp glowyr y Gogledd," meddai.

Ond y mae rhai yn ei rengoedd ei hun hyd yn oed yn dechrau holi faint o gamp oedd hi mewn gwirionedd.

Byddwn yn aml yn mynd gyda'r pysgotwyr ben bore, tua phump o'r gloch fel arfer yn yr haf i ddal mecryll.Dysgais y gamp o ddal pollock a sut i 'redeg rhwydi' a dal sgadan hefyd.

Rydym yma'n talu gwrogaeth i'r talentau aml-ddoniog yng Nghymru, Lloegr a Rwsia a wnaeth y gamp hon yn bosibl.

Y gamp fwyaf, fodd bynnag, yw peidio â rhoi eich traed yn y tail drewllyd sy'n britho'r grisiau cerrig.

Colli ddaru o, ond mae'n siŵr gen i ei fod o'n chwaraewr dan gamp.

(Yn wir, ceisiwyd cyflawni'r un gamp yn ystod gwers symiau ar fore Llun ambell dro!) Clywsom am ei gampau anhygoel yn nofio afonydd, yn dal llama ac yn marchogaeth merlod y paith.

I gyflawni'r gamp yr oedd Mr Wolff wedi hawlio tâl o $71ar ei ffurflen gostau am ddwy ddol vodoo a set o hoelion arch o sefydliad yn dwyn yr enw Dr Zombie's House of Voodoo yn New Orleans.

Does neb, am wn i, wedi amau'i gamp fel nofelydd plant, ond am y nofelydd oedolion - awdur Gŵr Pen y Bryn a Gyda'r Glannau - cymysg iawn fu'r farn.

gamp o ymatal.

Cymru yn ennill y Gamp Lawn am y tro cyntaf.

Yr oedd hynny'n gamp nid bychan, ac yn golygu cael gwared a'r rhagfarnau sydd gan lawer o'r gynulleidfa Gymraeg ynglŷn a'r cyfnod a ddarlunnir.

Mae David Lloyd wedi galw am i Tim Henman gael hyfforddwr newydd - rhywun sydd wedi cyflawnu mwy yn y gamp na David Felgate.

mai'r mynach da oedd yr unig ellyll, yr hwn oedd wedi teimlo rywbeth mwy na serch ysbrydol am ferch brydweddol meistr y tŷ; ac wedi chwareu y gamp uffernol hon i foddloni ei nwydau anllad.

O sbio'n ol, cildwrn tila iawn a gaent am eu gwasanaeth, ond cynhyrchodd y gyfundrefn honno genhedlaeth o wragedd ty a theuluesau dan gamp.

Wrth sôocirc;n am yr orchest ddiweddaraf hon i gynnyrch animeiddiedig S4C, dywedodd Cyfarwyddwr Animeiddio'r sianel, Chris Grace, oedd hefyd yn Gynhyrchydd Gweithredol ar y gyfres, "Mae'r gamp o ennill yr Emmys hyn yn rhoi boddhad dwbl, gan eu bod nhw'n cydnabod y dalent sydd yng Nghymru a swyddogaeth alluogi S4C yn dod â'r cyd-gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac arloesol hwn at ei gilydd.

Dipyn o gamp, yntê?'

Erbyn iddo farw roedd ganddo lawer o gofdnodion pwyllgorau, cofnodion llinach, catalogau a phamffledi eraill yn dilyn hanes y gamp o'r dechrau yn lleol ac yn genedlaethol.

Daeth Randall yn bencampwr Prydain yn y gamp ond roedd Syd yn rhy hen i gael cystadlu ac yntau dros ei ddeugain.

Ond wrth anwybyddu'r cyd-destun gwleidyddol a mynnu bod y gamp o gyrraedd y brig o fewn ein gafael fel y saif pethau ar hyn o bryd, mae'r adroddiad yn ochri, yn anfwriadol efallai, gyda'r status quo.

Diwrnod Tan Gamp - Gruff Roberts (Tud.

Y gamp yw ffurfio'r gair hiraf posibl o'r saith llythyren, ac wrth gwrs mae'n rhaid i'r gair fod yn air iawn a'r sillafu'n berffaith gywir.

Nid paentio colur dwyieithog ar wyneb y Cynulliad ydy'r gamp, ond creu corff cenedlaethol sydd â'i organau a'i berfedd yn gweithio yr un mor effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Rhan o'r gamp oedd rhoi rhannau i oedran eang o blant, a hynny wrth addasu nofel yr oedd John Owen wedi ennill gyda hi yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth ddwy flynedd yn ôl.

Daeth yr alwad yn sgîl ei gamp yn cipio wyth wiced i Forgannwg yn erbyn y tîm o'r Caribî yr wythnos ddiwethaf.

Maen focsiwr addawol iawn a wedi cyd-weithio gyda dau brofiadol a llwyddiannus iawn yn y gamp.

Mae'r ffefryn i ennill y gystadleuaeth, a'r Gamp Lawn, Tiger Woods, bump ergyd y tu ôl, ar ddwy ergyd dan y safon.

Ond yr ydw i yn oedi cyn ei ddisgrifio fel hen law ar y gamp.

Jolly fellow oedd yr Yswain, ac ni theimlai yn wrthwynebol i un o'i denantiaid feddu ceffyl tan gamp tra na fyddai ar ôl efo'i rent.

Ond y maent yn sicr iawn eu trawiad, yn felodaidd ac yn felys, ac yn creu'n llwyddiannus y rhith didwylledd hwnnw sy'n rhan o gamp bardd mawr, hyd ynoed pan na bydd y gân yn brofiad uniongyrchol iddo.