Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganfed

ganfed

'Mae o'n dweud y bydd y milgi yn fuddsoddiad da, yn siwr o dalu amdano'i hun ar ei ganfed.'

Mae llafur yn talu ar ei ganfed.

Bydd hyn yn talu ar ei ganfed yn enwedig os llwyddir i ddileu'n llwyr bob darn o wreiddiau'r chwyn lluosflwydd.

Buasai wedi talu ar ei ganfed i wario arian i'w symud yn y lle cyntaf.

Mae'r busnes newydd mewnforio rhew o Rwsia'n talu ar ei ganfed, felly diolch yn fawr ichi'r un fath ond mi sticia'i at hwnnw os byw ac iach.

Datblygodd y ddameg hon eto gan ragweld rhywrai yn ei feirniadu, a 'thaflu'r ffefryn i'r pydew am iddo fentro rhoi côt gostus yn ôl iddo, eithr, 'pwy a ŵyr, fe all y "Joseff" hwn rywbryd dalu'n ôl ar ei ganfed pan fo dlawd arnom'.

Parhânt hyd heddiw i gefnogi'r polisi o wario miloedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn ar arfau rhyfel i gynnal bri Prydain tra'n mynnu na ellir fforddio'r ganfed ran i amddiffyn iaith a diwylliant Cymru.