Ychydig o frwdfrydedd er i'r beirniaid ganmol ymdrechion Nia Parry, Glannau Tegid a Derfel Roberts, Sarnau.
Gwelodd rhai yn dda ganmol brwdfrydedd yr HC, a arweiniodd at chwilfrydedd cyffredinol o fewn yr ysgol.
Ond er nad oes gen i ddim i'w ddweud wrtho, ac er nad oes gen i ddawn canu, 'ro'n i'n uwch fy nghloch na neb wrth ganmol rhin y 'dþr, dþr, dþr' yn festri Keriwsalem yn y Blaenau bob nos Sadwrn.
Mae'r pwyslais ar werth cadarnhaol cenedlaetholdeb cydweithredol a chreadigol yn un i'w ganmol.
Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.
Daeth Mr Jones, y Person, yno i'w weld, a thystiai nad oedd gan yr Yswain Griffith well ceffyl yn ei ystablau, ac aeth yn syth i'r Plas i ganmol anifail Harri.
Byddai'n mynd dipyn yn grac wedyn pe digwyddai rhywun ganmol yn ei glyw y gân 'Cofio'.
Daeth i gof Mali yr achlysur pan welodd Dilys yn dda i ganmol siwt goch a wisgai Mali gan ddweud ei bod yn rhoi lliw iddi; amheuai Mali mai awgrym oedd hynny fod ei chroen yn ddiliw heb gymorth y siwt.
Efallai y byddai wedi bod yn well i'r sgrifenwyr rygbi eraill hefyd fod wedi oedi a phwyllo cyn rhuthro mor gyflym i ganmol ar sail tystiolaeth digon bregus.
Nid beirniadu emyn, ond ei ganmol, oedd dweud ei fod yn ddefnyddiol.
Y mae i'w ganmol am herio'r esboniad arwynebol hwn.
Mi ffoniodd Syr Alex Ferguson o hefyd i ganmol y syniad o gael sesiwn ymarfer yn hytrach na chael gemau cyfeillgar ac i ymddiheurio na fydd Ryan Giggs yn La Manga.
Rhaid i mi ganmol tactegau Mark Hughes - y pump yn y cefn, pedwar yn y canol a Hartson yn arwain - a'r tîm hyfforddi o gwmpas Hughes.
Caiff croeso'r abad ei ganmol drachefn gan Lewis Glyn Cothi yn y cywydd marwnad a ganodd iddo: bu Margam yn ysbyty a Rhufain i Gymru oll odsano medd y bardd, 'A'n pab fu Wiliam Abad'.
Rhaid imi ganmol trefniadaeth luniaethol fy mhriod, yn ei holl agweddau.
Yr oedd yn ymladdwr wrth reddf er na fu gwrolach heddychwr erioed; câi fwynhad wrth ganmol daioni dynion, eithr gwae y rheiny a fanteisiai ar y gwan ac a ormesai'r lleiafrifoedd.
Nid condemnio Heledd yn gyffredinol 'rydw i - er nad ydw i'n credu yn y confensiwn o ganmol y meirw pan fo hynny ar draul y rhai byw.
Bellach mae pawb yn Rwsia yn awyddus iawn i gyfarch Mrs Thatcher wrth ei henw iawn, ac am ganmol yr hyn y mae hi, yn eu tyb hwy, wedi ei gyflawni.