Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thŷ uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed.
Gwelsom gannoedd o weithiau, yn ystod y pedair blynedd, ddarluniad ohonynt yn y newyddiaduron, ond dyma'r peth ei hun!
Nos Sadwrn, Rhagfyr 23 ar S4C dangosir Nadolig y Paith. Rhaglen gan Teliesyn yn dangos sut y daeth aelodau gwahanol gorau gannoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ynghyd i ganu offeren go arbennig.
Dyma'r cyfnod pan gollodd Cymru gannoedd o'i phobl ieuainc ddisgleiriaf, y bechgyn a'r genethod a ddaeth allan o'n colegau a'n prifysgolion, ac a orfodwyd i fynd dros y ffin i Loegr i chwilio am swyddi am nad oedd gwaith ar eu cyfer yng Nghymru.
Fe fu cyfraniad y llu hyfforddwyr ledled y Sir ar hyd y blynyddoedd yn amhrisiadwy ac nid gormodedd yw dweud i gannoedd lawer o ieuenctid Meirionnydd elwa'n fawr ar yr hyfforddiant a gawsant er dod yn Amaethwyr a Gwladwyr Da.
Yn ugeiniau'r ganrif hon sylweddolwyd bod ein haul ar gyrion ein galaeth, y llwybr llaethog, ac yn un o gannoedd o filiynau o sêr a oedd yn troi o gwmpas ei ganol.
Fe fu'r ddau waith hyn yn gyfrwng i roi cyflogaeth i gannoedd o lowyr hyd dridegau'r ganrif bresennol heb i lawer o ddrwg ddigwydd.
Cenedl fach iawn wledig oedd Cymru, yn meddu ar ychydig o gannoedd o filoedd o boblogaeth yn unig, heb brifddinas debyg i Gaeredin neu Rennes a feddai ar seneddau y pryd hynny, neu Ddulyn a gâi senedd am gyfnod yn y ganrif nesaf.
Fe'i cefnogwyd gan gannoedd o gynghorau lleol a chan lu mawr o fudiadau, cyrff crefyddol, undebau llafur a chymdeithasau o bob math.
Yr oedd argyhoeddiad cadarn Thomas Charles ynglyn â defnyddio'r Gymraeg yn mynd i ddylanwadu ar gannoedd o filoedd o bobl yn ystod y ganrif.
"Y mae cannoed ar gannoedd o filwyr Prydain ar y traethau yn Dunkirk.
Mae yna hefyd gannoedd o bobol sy'n cael eu haflonyddu gan ysbrydion ac mae yna filiynau sy'n mynd drwy fywyd heb weld na chael unrhyw gyfathrach ag ysbryd na bwgan.
Arfordir rhyfeddol o brydferth - rhes o gilfachau'n ymwthio i ystlys y tir sych, a'r ffordd yn ymdroelli gannoedd o droedfeddi uwchlaw iddynt.
Goleuwyd canhwyllau mawer ymhob pen i'r stafell, ac wrth eu golau, gwelodd Rowland silffoedd o lyfrau yn ymestyn o un pen i'r llall, cannoedd ar gannoedd ohonynt.
Fe fu'r ddau waith hyn yn gyfrwng i roi cyflogaeth i gannoedd o lowyr hyd dri-degau'r ganrif bresennol heb i lawer o ddrwg ddigwydd.
Mi fuo yno am flynyddoedd, y pwll tar, a phan oedd hi'n boeth, roedd yna gannoedd o swigod ar ei wynab o, ac mi fyddan ni'n eu clecian nhw hefo piga drain." "Ffendiodd rhywun pwy wnaeth?" "Naddo.
Prynais yno hefyd rai o lyfrau Mordaf Pierce a gwþr llengar eraill o sir Aberteifi; cefais yno gannoedd o lyfrau yn ymwneud â sir Feirionydd o gasgliad Edward Griffith y llyfrbryf, Dolgellau, ac yno, yn ddiweddar, deuthum ar draws set gyflawn o gopi%au o'r "Undebwr" papur Tori%aidd a gyhoeddid yn sir Aberteifi adeg helynt Iwerddon.
Dim byd newydd - rydw i wedi gweld yr hen furddun gannoedd o weithia'.
Anferth o gerrig ithfaen yn sefyll ar eu cyllyll yn y ddaear yw'r rhain, wedi eu gosod yno drwy ymdrech ugeiniau neu gannoedd o lafurwyr, mae'n debyg.
Ni ddylid gadael i ddynion a merched farw yn yr anialwch, nac i gannoedd o filoedd o ddynion, merched a phlant diniwed gael eu lladd a'u niweidio.
Weithiau, dau neu dri gyda'i gilydd, ond mewn un man arbennig Karnag, yn ne Llydaw þ mae rhesi ar resi ohonyn nhw, cannoedd ar gannoedd o bob maint a llun.
Yng nghwmni%oedd y New Model Army lle ymdroai Hadwyr a Phalwyr a Phleidwyr y Bumed Frenhiniaeth, fel yn yr eglwysi cynnull a wrandawai ar bregethwyr a raddiodd gan mwyaf ym Mhrifysgol Llyfr Daniel a Phrifysgol Llyfr y Datguddiad, fel yng nghelloedd myfyrdod Arise Evans a John Archer a Peter Sherry a Gerald Winstanley a channoedd ar gannoedd o chwyldroadwyr duwiol ac annuwiol eraill, gan gynnwys Morgan Llwyd o Wynedd, ffynnai syniadau fel mwyar duon Medi.
Er nad oedd y lle ond ychydig gannoedd o lathenni allan o'i ffordd, roedd y gyrrwr yn dymuno mwy o arian gennym.
Mewn trefn wir gyd-genedlaethol ni rennid y byd rhwng ychydig o wladwriaethau ymerodrol a militaraidd; fe'i seilid ar gannoedd o gymdeithasau cenedlaethol a ildiai eu sofraniaeth i drefn fyd-eang.
Roedden nhw mor agos a gwyddai'n iawn fod yr ychydig gannoedd o filwyr y Senedd a oedd yn y castell yn dyheu am ei weld ef a'i fyddin.
Sylweddolodd ei fod gannoedd o filltiroedd o Ogledd Cymru ac yn nwylo pobl ddrwg.
Yno, dim ond rhyw set ffilm o fynydd a wahanai ogledd a de, ac eisoes ynghanol y bore ysgubai afalansau cyson gannoedd o drodfeddi i lawr y pared gogleddol at lasier Porchabella.
Yma cystadleuaeth rhwng ddau darw Brahmin anferth yw'r adloniant i gannoedd o bobol leol o bob oed gan gynnwys y merched (er eu bod hwy yn aros yn y ceir allan o olwg pawb).