Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganodd

ganodd

Ond, fe ganodd y ffôn i gyflwyno'r awgrym bod Lloegr wedi cael cam arall.

Roedd yn dal i ferwi pan ganodd y gloch ganol bore.

Ar ddiwrnod cneifio yn Llannerchirfon ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf fe ganodd Selby Price, bardd gwlad hynod ffraeth o'r fro, fel hyn i'r gyllell y cafodd ei benthyg gan Nedi Pen-dre, Tregaron:

Ateg i'r dybiaeth yw fod yn y Llyfr Coch gyfres o drioedd yn rhestru casbethau 'Gwilim Hir, saer Hopkyn ap Thomas.' Y beirdd a ganodd i Hopcyn ydoedd Dafydd y Coed, Ieuan llwyd fab y Gargam, Llywelyn Goch ap Meurug Hen, Madog Dwygraig a Meurug fab Iorwerth.

Gorffennodd ei raglen gyda'r un gân allan o Verdi ag a ganodd Nigel Smith fel ei gân olaf ar y noson gyntaf.

Pan ganodd ef ei gynghor dedwydd - "Siaradwch y ddwy% - oni ragflaenodd y symudiad sydd ar droed i wneud plant Cymru yn Saeson heb iddynt beidio bod yn Gymry?

Hêd y gwcw, gwna un siwrne, Hêd ymhell i'r dwyrain dir, Dal ar linell haul y bore, Ar dy aden dal yn hir; Gerllaw Tigris, er mor anodd, Dyro gân o gôl y gwynt, Yn yr anial, yno tawodd Un a ganodd lawer gynt.

Ceir cyflwyniad nodedig i ganu'r Cywyddwyr fel y cyfryw ym Morgannwg yn y cywydd a ganodd Gruffudd Llwyd i'w hannerch.

Ceir disgrifiad o fywyd y fynachlog yn y cywydd a ganodd ei gar Rhisiart ap Rhys i'r abad Dafydd, a chanmolir yr haelioni ganddo yntau yn ei foliant.

Dyna'n sicr yw pwnc y bardd a ganodd 'Calanmai'.

Enwir Lewis Tomas, abad olaf Margam cyn y dadwaddoliad, mewn cywydd a ganodd Lewys morgannwg dros Lewis Gwyn o Drefesgob i ofyn gwartheg gan wŷr o'r dalaith, llawer ohonynt yn perthyn i deuluoedd blaenllaw.

Caiff croeso'r abad ei ganmol drachefn gan Lewis Glyn Cothi yn y cywydd marwnad a ganodd iddo: bu Margam yn ysbyty a Rhufain i Gymru oll odsano medd y bardd, 'A'n pab fu Wiliam Abad'.

Ond ymddengys mai'r gerdd gynharaf sydd gennym i un o noddwyr y sir yw'r awdl farwnad a ganodd Casnodyn ei hun i Fadog Fychan o'r Goetref, yn Llangynwyd.

Rhythais ar grib ogledd-ddwyreiniol ddu, hirfain, ddidrugaredd Piz averstancla a chofio llinellau olaf y gerdd a ganodd Armon Planta o Sent, uwchlaw Scuol, ar ol ei dringo gydai fab: I lawr yn y cwm a chytgord yn anodd oni fyddwn ni'n troi at hyn mewn atgof (in algordanzas) Bardd, dringwr, hanesydd, radical, athro ac ymladdwr dros ei iaith oedd Armon Planta.

Gyda'r amlygiad gorau o'r modd yr ymserchai'r abad hwn yn y beirdd yw'r cywydd a ganodd Iorwerth Fynglwyd i ddiolch iddo am rodd o win a dderbyniasai ganddo pan oedd yn glaf.

Fe ganodd Ivor Thomas "Yr Hen Gerddor" nes gwefreiddio y dorf enfawr.