Ffanffer ydyw sy'n gorffen yn ddisymwth, fel y gwnaeth, yn ôl y chwedl, ganrifoedd yn ôl pan laddwyd y trwmpedwr a oedd wrthi'n rhybuddio'r trigolion fod milwyr estron y Tartar gerllaw'r ddinas.
Yno y mae eglwys y plwyf ers yn fore iawn; hon oedd canolfan gweithgareddau'r Festri am ganrifoedd, a gweinyddu'r offeren.
Am ganrifoedd, hawliai'r Eglwys Geltaidd ryw radd o annibyniaeth oddi wrth Eglwys Rufain, a pharhaodd gwahaniaethau rhwng ei defodau hi a rhai'r eglwysi Rhufeinig hyd ddyfodiad y Normaniaid.
Er gwaetha'r holl ganrifoedd o garcharu mae'r ddadl ynglyn â phwrpas carchar yn un sy'n dal i gael ei gwyntyllu.
Mae'n symbol o fywyd tragwyddol am ei bod yn goeden sy'n byw am ganrifoedd gan gysylltu'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.
Ganrifoedd wedi amser Hywel fe'i hystyrid yn drosedd i dorri coeden dderw a deuai dim ond anlwc i'r sawl a wnâi hynny.
Yr oedd i lwyddiant diwydiannol yr Wyddgrug, fel i lwyddiant diwydiannol rhai o drefydd Deheudir Cymru, ei broblemau, a daeth tonnau'r llanw Seisnig cyntaf i effeithio ar y werin Gymreig dros Glawdd Offa, er bod hwnnw wedi ei godi ganrifoedd lawer ynghynt.
Ni ddeuai Prydain i fodolaeth am ganrifoedd, na'r syniad o Brydeindod.
Aethai'r Cymry i Iwerddon am ganrifoedd i geisio lloches a chymorth, ond try Manawydan at Loegr.
Wrth gwrs, 'roedd eglwys hynafol Sant Dyfrig wedi ei gwasgu i gesail y mynydd ganrifoedd cyn hyn, ac yn ddiweddar bu rhywun mor ddifeddwl â gollwng 'sgubor o gapel Annibynwyr yn blwmp ar ganol y rhos yn y man mwyaf diarffordd posib'.
Maen nhw'n dal i'w hysgrifennu hi fel yr oedd ganrifoedd yn ol a rhaid ichi ei sillafu yn iawn a gwneud rhyw dreigliadau ddaeth i fod yn amser y Romans a sgwennu dwy 'n' yn lle un ar yr adegau mwyaf annisgwyl.
Roedd y newyddion hyn yn destun llawe- nydd iawn i naturiaethwyr Sweden oedd yn ymfalchio fod yr anifail yma bellach yn ddiogel y tu fewn i ffiniau eu gwlad - anifial a gafodd ei hela mor ffyrnig gan eu brenhinoedd ac uchelwyr y wlad ganrifoedd lawer yn ol.