Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ganwyd

ganwyd

Fe'm ganwyd i yn 1968.

Wedi carwriaeth fer priododd y ddau yn 1991 a dwy flynedd yn ddiweddarach ganwyd efeilliaid iddyn nhw - John a Sioned.

Fe'i ganwyd yn Y Garnant a'i fagu yn Gymro Cymraeg.

Ganwyd ef yn Y Rhyl ond y mae ei enw yn un cyfarwydd yn y fro heddiw.

Rhoddi tro drwy fynwentydd y cedyrn a gwympasant - a sefyll ar rai o'r meysydd a'r llanerchi ag ar ydym yn y pedair blynedd a basiodd mor gynefin â'u henwau ag yr ydym ag enwau ein mamau a'n chwiorydd, ar tai y'n ganwyd ynddynt.'

Ganwyd Phil ar ddiwedd y ganrif o'r blaen pan oedd nerthoedd grymus yn dygyfor ar bob llaw, mewn cymdeithas a gwlad a byd, ac ni allent lai na dylanwadu ar drigolion y cyfnod.

Dychwelodd y ddau yn fuan a ganwyd mab, Robat Dilwyn, iddyn nhw yn 1983.

Ganwyd ef ym Mary Street, Caernarfon, a'i addysgu yn Ysgol Sir y dref honno, gan arbenigo mewn Saesneg a Ffrangeg.

Ei wraig, Hannah, oedd y Matron a ganwyd hi yn Hanover yn yr Almaen.

'Roedd Mrs Mac yn benderfynol o gael erthyliad ond llwyddodd Glan i'w pherswadio fel arall ac yn 1994 ganwyd ei thrydydd plentyn, Daniel.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gŵr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

Ganwyd Rebecca a Tamar ym Mangor, a Keren a James David yn Israel.

Nid dyma'r unig gywydd a ganwyd yn canmol y dalaith ei hun.

Ganwyd a magwyd Gwyn Chambers yn Llundain, yn fab i Gymro Cymraeg o Lerpwl a Chymraes o Dywyn, Meirionnydd.

Yna, gyda rhediad amser ganwyd tri o blant iddynt ond cyfansoddiad gwan oedd ganddi a dadfeiliodd yr iechyd yn enbyd a gorfu i'r gwr, yn erbyn ei ewyllys, erfyn am help i gael arbenigwr i'w gweld.

trueni mai gem fel hon oedd hi ac er i chwaraewyr cymru wynebu'r gorllewin pan ganwyd yr anthem genedlaethol ni fydd y tîm yn hedfan tua'r gorllewin i weld wncwl sam yr haf nesaf.

Fe'i ganwyd yn y tridegau yn nhalaith wledig La Rioja, yn fab i fewnfudwyr o Syria.

Ganwyd fy mrawd yn y Cymer, Porth, Cwm Rhondda.

Fe'i ganwyd hi i fod yn foneddiges,ac i fyw mewn plasdy, roedd ei gosgeiddrwydd a'i hurddas yn addasach i'r Hengwrt na nerfusrwydd gwerinol Lowri.

POBOL O BELL Heblaw am y plismon o Fadagascar, y carcharoro o Efrog Newydd a Matron y carchar o Hanover, yr oedd eraill ymhell o fro eu mebyd; dyna i chi Stuart Kirby o Stryd y Castell a anwyd yn y Punjab; Emma Jones, gwraig y cyfrifydd yn Heol Clwyd o Wlad yr Haf; Owen Fox, tincer o Mayo, dyn oedd yn crwydro cryn dipyn mae'n rhaid oherwydd ymhlith ei lu o blant ganwyd Michael ym |Mwlchgwyn, Bridget yn Nefyn, Owen yng |Nghroesoswallt, Rossey ym Mhentrefoelas, Thomas ym Mhenybont Fawr, Kitty ym Mryneglwys a Maggie yn Nhreffynnon.

Ar ôl i'r brawd Richard Owen godi i fyny fe ganwyd 'Dyma gariad fel y moroedd', ac wedi dyblu a threblu ar hwnnw fe daeth John Roberts Blaenau i weddio, ac yr oedd y brawd hwnnw y noson honno fel y mae hyd heddiw, yn hynod o afaelgar, ac yr oedd yn gweddi%o â'i lais uchel bod sôn am ddiwygiad yn y Sowth, ac fe ddywedodd lawer gwaith: