Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gapten

gapten

Cymrodd hi chwarter awr arall i Gymru sgorio eto - Alan Bateman yn torri drwy amddiffyn America a rhyddhau ei gapten Mark Taylor i groesi.

Mynd yno, ac er nad oedd neb yn ein disgwyl nac yn gwybod dim oll amdanom, cawsom gyngor gan gapten i osod ein pabell gyda hwy, fel petaem yn ddau westai yn cael eu croesawu gan wr ty caredig, na wyddai am eu bodolaeth cyn hynny, i fwrw noson dan ei gronglwyd.

Ar ôl gorffen dadlwytho aethant i Newcastle i lwytho glo ac yno ymddiswyddodd y Capten ond bu mor garedig â chymeradwyo'r Mêt i'r cwmni fel dyn da i gymryd ei le ac felly dyrchafwyd Mr Hughes yn Gapten yn fuan iawn ar ei yrfa gan afael yn y cyfle â'i ddwy law.

'Roedd e'n gapten yn erbyn y Barbariaid ond yn cael ei anfon i'r cell callio am ymladd gyda Charles Riechelmann.

Mae cyn-gapten Morgannwg, Alan Jones, yn Sri Lanka a wedi bod yn dilyn y gyfres.

'Roedd Thomas Williams, Olgra yn gapten ar long o'r enw Maritime a phan fyddai'r llong mewn porthladd ym Mhrydain arferai Mrs Williams a'r ddwy ferch fach, Eluned a May, ymuno ag ef a byddai Mam yn cael mynd efo nhw.

Roedd cyn-gapten a chyn-hyffordd Cymru, Clive Rowlands, yn rhoi ei sylwadau ar y gêm ar BBC Radio Cymru.

Arholi'r sawl a fynnai basio'n gapten neu fet yn Lerpwl oedd gwaith Towson, ac yr oedd gando ddiddordeb mewn datblygu astudiaeth wyddonol o fordwyo.

Dywedodd hynny ar ôl i gyn-gapten De Affrica, Hanse Cronje, honnu iddo gyflwyno Azzaradin i fwci.

Mae cyn-gapten a chlo Cymru, Gareth Llewellyn wedi ail-ymuno â Chastell Nedd o'r Harlequins.

Mae capten Clwb Criced Morgannwg, Steve James, wedi cadarnhau mai Adrian Dale fydd ei is-gapten y tymor nesaf.

Beirniadwyd y tîm hyfforddi am ddewis Stephens yn gapten.

Fe fyddai'n ddigon hapus yn dod i Forgannwg, yn enwedig ar ôl chwarae gyda'i gapten Waqar Younis, fu'n chwarae i'r sir bedair blynedd yn ôl.

Mae cyn-gapten tîm criced India, Mohammed Azzaradin, wedi gwadu fod ganddo unrhyw gysylltiad â threfnu canlyniadau gemau criced.

Bydd Neil Cowie, is-gapten tîm Rygbi Cynghrair Cymru ddim ar gael ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd.

Roedd angen un rhediad oddi ar y belen olaf ond bowliodd Adrian Dale gapten yr ymwelwyr, Neil Smith, gyda'r belen honno.

Mae e'n whariwr arbennig ac o ystyried bod e'n gapten y Tîm A roedd hynna yn sioc.

"Cei yrru neges ar y radio i longau eraill i ddweud am yr helynt," atebodd ei gapten.

Mae Steve James, sy'n agor y batio i dîm criced Morgannwg, wedi ei ddewis yn gapten y clwb.

Roedd yn gricedwr brwd, a bu'n gapten tim criced y Cwmni a chwaraeai yng Nghyngrair Criced y De.

Roedd disgwyliadau mawr am y gêm hon ac fe gawson ni gêm oedd yn adlewyrchiad perffaith o'r gystadleuaeth, meddai cyn-gapten a golwr Cymru, Dai Davies.

Unwaith eto does dim lle i fewnwr a chapten Penybont, Huw Harries, sydd hefyd wedi bod yn gapten Tîm A Cymru dros y tymor, yng ngharfan rygbi Cymru fydd yn mynd ar daith i Japan yr haf yma.

Mae Bwrdd Criced De Affrica wedi cyhoeddi na fydd y batiwr agoriadol Herschelle Gibbs yn y garfan ar gyfer y daith i Sri Lanka fis nesa ar ôl i Gibbs gyfaddef ei fod o wedi derbyn cynnig o $15,000 gan ei gapten Hansi Cronje i sgorio llai nag ugain o rediadau mewn gem undydd yn India.

Williams, y cawr o ail-rengwr a fu'n gapten ar Gymru ac yn chware i'r Llewod, a Howard 'Ash' Davies, cyn rengwr-blaen y Clwb a fu'n gyfrifol am ddatblygiad Delme Thomas pan oedd Howard yn athro arno yng Nghaerfyrddin.