Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

garcharor

garcharor

Er gwaetha'r ffaith ein bod yn elynion, a mi'n garcharor ac yntau'n warcheidwad, roedd ei grefydd newydd, ei Gristnogaeth, yn golygu parodrwydd i fentro'i fywyd dros ei gyd-ddyn, pwy bynnag ydoedd.

Stori wahanol oedd ei brofiadau erchyll yn garcharor yn y dwyrain pell yn ystod y rhyfel yn erbyn Japan.

Mae'n well i Nipon a gymerwyd yn garcharor gael ei ladd yn hytrach na dychwelyd i'w wlad." Ar ôl meddwl am foment mentrais innau ateb, "Bydd yna groeso i'r carcharorion Prydeinig i gyd pan ânt adref." Yr oedd yn amlwg oddi wrth ei wedd nad oedd yr ateb hwn yn ei blesio'n fawr.