Gorchmynnodd y gard ni i ddidoli'r defnyddiau oedd yn yr hen domen: rhoi haearn ar un ochr y coed ar yr ochr arall, hen deiars ceir wedyn, a pharhau i'w gwahanu felly.
Yn anffodus nid eglurwyd hyn i'r gard Koreaidd, ac wedi methu cael dim ond un ffiol o'r cyffur ar y farchnad ddu, fe'i chwistrellodd ei hun â chynnwys honno.
Gan nad oedd ein gard ddim yno, annoethineb ar ein rhan fuasai rhedeg oddi yno; fe'n cyhuddid o geisio dianc, a phe gofynnid inni egluro pam yr oeddem yn rhedeg buasai'n ddiwedd y byd arnom: nid oedd gennym mo'r syniad lleiaf sut i gyfieithu, "Mae 'na butain yn yr iard," i Siapanaeg.
Eisteddai'r hen ddynes yn syth fel gard yn ei gwely gan hoelio'i llygaid arna i, Os oedd hi'n marw, nid heno y digwyddai hynny, doedd dim sicrach.