Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

garddwyr

garddwyr

Daeth i'm meddwl eleni mai'r garddwyr mwyaf llwyddiannus yw'r rheini a all addasu eu syniadau ar gyfer yr hyn ganiatâ'r tywydd iddynt ei wneud yn hytrach na dilyn dyddiaduron garddio a rhaglenni'r cyfryngau.

A lleidr y perthi yn ei gap du a'i wasgod sgarlad, cythraul mewn croen yn ôl y garddwyr ond wiw ei ddifa.

Disgwylia'r garddwyr brwd yn eiddgar ym Mai am ddyfodiad yr haf gyda gwaith y gwanwyn, i raddau helaeth, wedi ei gwblhau.

Fe gofia y rhai ohonom fu'n gweithio mewn gerddi plasau yn gynnar yn ein galwedigaeth fel garddwyr, mai deilbridd (leaf mould) ddefnyddiem mewn composts i'r un pwrpas.

Erbyn hyn roedd garddwyr N'Og yn medru tyfu cystal wynwyn a'r Garddwr Brenhinol, ac felly roedd gerddi'r Palas wedi mynd yn ol at dyfu dim ond blodau a ffrwythau gan adael y wynwyn i'r gerddi preifat a'r Lotments.