Ar ôl gorffen dadlwytho aethant i Newcastle i lwytho glo ac yno ymddiswyddodd y Capten ond bu mor garedig â chymeradwyo'r Mêt i'r cwmni fel dyn da i gymryd ei le ac felly dyrchafwyd Mr Hughes yn Gapten yn fuan iawn ar ei yrfa gan afael yn y cyfle â'i ddwy law.
Ifan Ralltgoch, oedd mor blaen ei dafod a hunanwrthrychol, ond mor garedig mewn cymdeithas ag ydi lwc wrth y lwcus.
Dim ond dweud yn garedig, yn feddal, a bron yn oddefgar, "'wyt ti'n cael hwyl 'y ngwas i?".
Bu'r gaeaf yn garedig wrthynt gan ganiata/ u i fwy nag arfer ohonynt fyw.
Mi fuo' nhad yn hynod o garedig efo plant y fro y pryd hynny (a wedyn o ran hynny).
Chwaer garedig ac anwylaf Ronie a modryb ffeind David, Ann, Joana a Margy a hen fodryb gariadus Sarah.
Ac wrth edrych yn ôl, 'rydw i'n sylweddoli heddiw pa mor garedig oedd o.
"Samon ydi'n henw ni ar Roberts," meddai, "am ei fod o'n dwad o Nant Bach, lle da am samons." Roedd rhywbeth yn nhôn ei lais yn dweud wrthyf na theimlai'n garedig at yr athro, a soniais am y gurfa a gawsai'r bore hwnnw.
Tyfodd Marie i fod yn fyfyrwraig o Nyrs, yn eneth garedig a theimladwy oedd yn ennyn parch a chyfeillgarwch ble bynnag y gweithiai.
"Rhaid i chi ddianc drwy un o'r ffenestri heno," sibrydodd y nyrs garedig wrth Douglas Bader pan gafodd gyfle.
Creadur cymedrol heb fod yn rhy garedig nac yn or-greulon ond un anodd ei fesur a'i bwyso.
Roedd yr onnen hefyd yn goeden sanctaidd, yn garedig wrth bobl, yn eu gwella a'u gwarchod rhag rhaib gwrachod, os cedwid peth o'r pren a'r dail yn y tŷ.
Rhaid i ti gyfaddef iddi geisio ein brifo ni ym mhob ffordd bosib: ninnau'n ceisio bod yn garedig wrthi, yn ei gwahodd hi yma, yn mynd a hi allan am fwyd, yn ceisio ymddwyn yn war ymhob ffordd, a dangos fod modd i dderbyn y pethau hyn ond ymddwyn yn synhwyrol.
Cyn hir, cafodd waith a chyfle i adael cartref y ferch garedig.
Fel yr wyf wedi disgrifio mewn pennod flaenorol, yr oedd Miss Hughes wedi bod yn hynod garedig ataf, hyd yn oed pan oeddwn yn fachgen drwg direidus, ac yr oedd fy nyled iddi yn fawr.
"Dyma ti'r coesau yn ôl, ond cofia dy fod wedi addo," meddai'n garedig.
'Os caf i awgrymu yn garedig, mi fyddai troi Anti Meg yn ganeri yn gosb gymwys iawn.'
Roedd un peth yn gyffredin i'r ddau frenin fodd bynnag, sef eu bod yn garedig tu hwnt ac ored eu pobl yn meddwl y byd ohonyn nhw.
Efallai ei fod wedi derbyn y dyrniad yna fel cosb garedig am suddo'r rafft.
Beth bynnag, yn ôl a gofiaf, pan fu rhaid iddo ddangos y 'cerdyn' hollbwysig yn y diwedd, fe ddywedwyd yn garedig wrtho fod Pantycabal wedi bod yn gyfan gwbl yn yr iawn, er ychydig yn ddihiwmor o bosib, a'i fod ef, Waldo, wedi troseddu wrth beidio â dangos y cerdyn, ond y câi ef ei esgusodi'n llwyr pe bai ef yn sgrifennu ychydig o'r hanes ar gân i'r Pembrokeshire Police Gazette; ac yno, onid wyf yn camgymryd, yr ymddangosodd y gerdd am y tro cyntaf.
Mi fydd yn ôl ar yr ynys ymhen ryw wythnos i chi." Teimlai'r tri yn hapus iawn tra'n eistedd yn ystafell nyrs garedig.
Mae yna ddigon i bawb yma." Er ei fod yn swnio'n hael ac yn garedig, nid oedd golwg rhy hapus ar wyneb y tafarnwr.
Roedd y tir yn garedig, y terasau'n daclus ac roedd muriau cadarn yn gwarchod y trigolion.
Gwenodd Willie'n garedig arno a diolch drachefn.
Diolch i Richard a Morwenna am eu llongyfarchiadau ac am anfon rhodd garedig i'r Awrydd i glensio'r cyfarchion.
Fe ddaeth Huw yn ei ôl, diolchwyd i'r nyrs garedig a oedd wedi rhoi croeso mor gynnes a newydd mor dda iddynt am Dad.
Diolchwn i Mrs Beti Emmerton am ei rhodd garedig, yr ydym yn gwerthfawrogi ei haelioni yn fawr iawn.
Maen bryd i rywun yng Nghymru godi ychydig o stwr ac awgrymun garedig i'r Archifau Cenedlaethol ym Mharis mai rheitiach peth i'r ddogfen ddiddorol a hanesyddol hon gael aros yng Nghymru ai diogelun barchus - nid ei chadw mewn amlen frown.
Ond ni fu'r tywydd yn garedig wrtho bob tro chwaith.
Naint a hen nain garedig.
Fe fydd chwith garw heb ei chroeso a'i gwen garedig.
Gosodid y rhain yn rhes ar wal ystafell goffi staff y faelfa, a galw am sawl sylw - rhai'n garedig a rhai'n bigog.
A hyd heddiw mae gen i barch i'w goffadwriaeth o am iddo fod mor garedig wrth greadur bach ar ddechrau'r daith.