Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

garedigrwydd

garedigrwydd

Yr oedd ei garedigrwydd naturiol yn esgor ar gymwynasgarwch a chyfeillgarwch.

O'r Alban yr oeddwn i wedi dod i Rydychen, ac yr oedd pobl y gogledd wedi gofalu amdanaf Pe buasai raid i mi fel llawer Cymro arall, ddibynnu ar garedigrwydd fy nghyd Cymry wedi dod i Rydychen am gyfeillach a chyfarwyddyd,buaswn mor unig â hen frân gloff ar yr adlodd.

Nid gofyn am garedigrwydd yr ydym ond am hawl a berthyn i bob cenedl.

O leiaf os yw ein diwylliant yn cael ei ladd, caiff ei ladd gan garedigrwydd.

Ond nid pawb a gymeradwyai'r drefn hon o bregethu teithiol, oblegid rhoddai gyfle i rai cymeriadau digon brith ac annheilwng i fanteisio ar garedigrwydd yr eglwysi, a daeth amryw o 'wŷr y gwithe allan o waith yn crwydro'r wlad i bregethu' yn destunau gwawd a dirmyg.

Flynyddoedd lawer wedyn, yr oedd ein cefnder yn cofio am garedigrwydd Anti.

Cofiaf rai blynyddoedd yn ol, mewn cinio ym Mangor, wrando ar y gŵr gwadd sef Richard Lloyd, cyn Organydd Eglwys Gadeiriol Henffordd ac yn ddiweddarach Durham, sydd yn awr wedi ymddeol ac yn byw ym Mhentraeth, Mon, yn cofio ei wyliau pan yn fachgen yn Llangairfechan ac yn mynd i un o ddatganiadau Ffrancon a hefyd yn cofio ei garedigrwydd drwy ganiatau iddo ymarfer ar organ wych Eglwys Crist.

'Nôl yn Ouromieh, daeth pwysigyn lleol ar y bws a rhoi darn o siocled yr un i ni 'fel iawndâl am yr holl flerwch.' Dyna'r unig arwydd o garedigrwydd a gawsom gan ein meistri.

(Cyf.)l' 'Nid anghofiaf ei garedigrwydd i mi yn y blynyddoedd cynnar.

Mae yn ddiolchgar byth i'r dyn yma am ei garedigrwydd, oedd yn anfon y mab a'r trap yn barod bob tro i'w chyfarfod at yr afon.

Cafodd rhai o'r Tseineaid y tu allan i'r gwersyll ganiatâd i anfon ychydig o fwyd a ffrwythau i ffrindiau y tu mewn, ac ymhlith y rhai a dderbyniai ambell ffafr o'r fath roedd swyddog o'r enw Capten Lewis, a oedd yn enedigol o Gwrt-y-Betws, Sgiwen, ac nid anghofiaf byth ei garedigrwydd tuag ataf yn rhannu â mi o'i ychydig prin.

Fel gweddill ei deulu agos, cyrhaeddodd Mark Gwmderi yn 1993 ac er fod gweddill y gymuned yn ei gasáu ceisiodd Hywel Llewelyn weld y gorau yn Mark ond talodd Mark ei garedigrwydd yn ôl drwy losgi car Hywel a dwyn ei draethawd ymchwil.