Mae Mr Garel-Jones bellach yn Weinidog Gwladol yn nhîm Douglas Hurd yn y Swyddfa Dramor ac yn dderbyniol gan bawb.
'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).
Fel aelod o dîm y Swyddfa Dramor, mae Mr Garel-Jones yn ei chanol hi eto y tu ôl i'r llenni.
O fewn blwyddyn 'roedd Mr Garel Jones wedi symud i borfeydd brasach' os llai saliwbriaidd, yn Watford.
'Doedd Mr Garel-Jones ddim yn y penawdau flwyddyn yn ôl, ond yn ôl y rhai sy'n gwybod 'roedd ei rôl yng nghwymp Mrs Thatcher yn allweddol.
Dyna un o ganlyniadau gwaith Mr Garel-Jones flwyddyn yn ôl.