Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gariad

gariad

Cynorthwya ni i dderbyn dy gynnig, ein Tad, fel y cawn ni etifeddu'r bywyd tragwyddol yr wyt ti'n ei gynnig i ni, a llawenhau yn dy gwmni a'th gariad yn y bywyd hwn.

Cadwai nhw mewn bocs pren gyda'i drysorau eraill: darlun brown a melyn o'i gariad cyntaf, y llythyrau a anfonodd ati a'i hances lês.

'Hawlio rhyddid cydwybod a rhyddid i bregethu'r efengyl oddi ar gariad ati - dyna ei waith mawr'.

Mae'n aros yn ei fawredd, yn ei ogoniant, yn ei amynedd, yn ei gyfiawnder ac yn ei gariad.

Nid oedd fawr o gariad at y meistri diwydiannol yn eu plith .

Mor syfrdanol yw dy gariad, Arglwydd ein Duw!

Daeth yr lesu'n agos iawn ataf, mor agos nes i'm calon doddi o gariad ato.

Aeth un ohonynt â'i gariad oddi arno, morwyn fach a garai ond yr ofnai siarad â hi.

Dau gariad, meddyliodd Joni.

Yn gynnil, gynnil yr awgrymir atyniad y ddau gariad at ei gilydd, fel pan ddywed Sarah Jones; 'Roedd eich aeliau chi fel taran ond ar unwaith dyma chi'n anwesu wyneb y gaseg.

I'r sawl sydd yn gallu cyfuno sylwadaeth fywiog a diwylliant eang ac sydd yn cael ei ysgogi gan gariad at ei fro, y mae ei filltir sgwar yn destun diddordeb di-ben-draw.

Yn y pnawn roedd Meic Stevens yn perfformio ac er iddo fo ddweud ei fod wedi cerdded bob cam o Gaerdydd heb fy ffon yr oedd ei berfformiad yn gwbl bleserus - do, fe gafwyd y clasuron Dournanez a Môr o Gariad, ai lais rywfodd yn gweddu i awyrgylch yr Wyl.

Edrychau'r ddau gariad i fyw llygaid ei gilydd, ac yn araf...

Mae acw wydd, o oedran ansicr, wedi dwad acw o'r Fferam - Huw Huws wedi cael ei daro'n sydyn gan ffit o gariad brawdol, ac fel rhoddwr y wledd mae o'n un o'r gwahoddedigion.

Yn ei gywydd 'Galw ar Ddwynwen' dymuna Dafydd ap Gwilym anfon y santes yn llatai, sef negesydd-serch, at ei gariad Morfudd.

Pwnc ar gyfer cyfrol arall - ddifyr a diddorol rwy'n siwr - fyddai sut i ddod o hyd i gariad a chyrraedd y cyflwr o ddyweddio lle mae'r llyfryn hwn yn cychwyn.

Nofel am ferch sy'n gwirioni ar gariad cyntaf.

Mae hi'n barod iawn i'ch sicrhau, fel y mwyafrif o actorion, mai y theatr ydy ei gwir gariad.

Mae gan bob un gariad tuag at gerddoriaeth a brwdfrydedd dros ganu.

Effeithir popeth gan y pwyslais newydd ar 'enaid': mae'r profiadau a barodd i'r bardd arddel Iesu fel dyn wedi troi'n foddion iddo ei goleddu bellach fel ymgorfforiad o Gariad ac fel esiampl i'w efelychu.

Fe ddywedai gwybodusion y llys wrthych na fu'rioed fawr o gariad rhwng y Brenin Affos ac Ynot.

Roedd gan beilot gariad--stewarde/ s fach annwyl - ac roedd hi'n byw mewn fflat oedd ganddo yn Llundain.

Braint oedd mynd o Dyddewi, cartref nawddsant Cymru, i Landdewi, lle yn ôl traddodiad y cyflawnodd Dewi Sant lawer o wyrthiau yn y chweched ganrif, i gyhoeddi i gynulleidfa o dros wyth gant o bobl fod yr Arglwydd Iesu Grist yn dal i iacha/ u trwy rym ei Eglwys a hynny am ei fod Ef yn ddigyfnewid yn Ei gariad, - "yr un ddoe, heddiw ac yn dragywydd." Ar ôl y cyfarfod dywedodd amryw fod y syniad o'r lesu yn iacha/ u yn yr ugeinfed ganrif yn un hollol newydd iddynt.

Cynhyrchwyd hanes pwerus o gariad anghyfreithlon yn erbyn cefndir o gymuned glos, The Passion, ar ran BBC Cymru gan First Choice gyda Gina McKee (wyneb cyfarwydd o Our Friends in the North). Cafwyd edmygaeth gyffredinol i'r cynhyrchiad cymhellol hwn.

Mewn dinas sy'n llawn trais a pherygl, yr unig ddihangfa yw diod a chyffuriau a'r gobaith am gysur cyfeillgarwch neu gariad.

Dechreuodd Derek deimlo'n unig ac aeth Karen, oedd bellach yn gweithio yn y garej, ati i chwilio am gariad i Derek.

Gwyddwn nad oedd unrhyw brofiad a allai fy ngwahanu i oddi wrth gariad Crist.

Daliai nad Penri oedd Marprelate ac mai 'ei gariad at Gymru wnaeth iddo gondemnio'r esgobion'.

'Dwed di, pwy ydi dy gariad di?'

Ond yn ei achos ef, ac yn fy achos innau, arweiniodd ar gariad tuag at y mynyddoedd, tuag at Gymru, a thuag at yr anweledig gor sy'n canu i arloeswyr a phererinion.

Mae'n wynebu croesffordd yn ei fywyd, ei gydwybod yn dechrau ei boeni ynglŷn â digonedd ei deulu, ond yn bwysicach fyth mae wedi syrffedu ar y syniad o fyw fel gwr bonheddig, ac mae ei gariad at Lisabeth yn prysur oeri.

Dolur a achosir gan fath arall o gariad sy'n gwneud i Lewis Glyn Cothi alw ar Ddwynwen cariad tad tuag at fab a fu farw'n ifanc (gweler erthygl Dr Dafydd Johnston yn y rhifyn hwn - Gol.):

Syllodd ei mam arni heb gariad.

Awgrymodd y dylai Fred wybod bod gan Mary gariad arall - rhywun o Gaerllion - a'i bod yn bwriadu cwrdd ag ef am un o'r gloch y prynhawn hwnnw, a'i fod ef (Ali) wedi rhoi decpunt iddi yn ei phoced a'i chynghori i fynd i ffwrdd i ystyried y peth.

Prin fod ei reswm yn argyhoeddi'r gweithwyr eraill yn y ffatri, sy'n penderfynu fod ganddo naill ai broblemau gyda'i gariad neu ddyledion.

Ei gariad et ei genedl a ysgogai'r Athro W J Gruffydd ei beirniadu mor llym ar brydiau, ac un o'r peryglon mwyaf i'r iaith yn ei dyb ef oedd agwedd ragrithiol rhai o'i gyd-genedl ati.

Fu ganddi hi erioed 'gariad' fel y bu gan y rhan fwyaf ohonom ni yn ein tro; ac fe glywais un o'r hogiau'n dweud rywdro, pan oedd rhywun yn ei herian.

Felly, a bod yn onest nid o gariad at yr iaith y dechreuais i ddysgu, ond o reidrwydd mewn ffordd, rhyw deimlad o fod yn Gymro yn gallu siarad a phobl.

Ond o'i gariad y mae'r Gwaredwr yn caniatâu i bawb sy'n credu ynddo EF ac yn rhinwedd i waith achubol, lechu o dan fantell ei gyfiawnder Ef.

Y mae'n wir na pheidiodd Duw â gweithredu o fewn i fyd natur, mewn tyfiant a chynhaeaf a holl arwyddion eraill ei gariad.

Ildiai'r carcharorion i bob trythyllwch ac ymhalogi, hunan-gariad, Onaniaeth a phechodau annaturiol y cnawd.

Gan mai 'cariadon' oedd y gair pwysicaf yn fy ngeirfa erbyn hyn, dechreuais feddwl tybed a fu ganddi gariad erioed.

Ond peidiwch â'i goelio'n llythrennol, mwy nag y coeliech fardd yn dagreuo hiraeth am ei gariad dan yr ywen.

Fe'm llyncwyd i fyny Mewn syndod i gyd, Wrth feddwl am angau Iachawdwr y byd; Trysorau o gariad, Trysorau o ras, Na fedr angylion Eu mesur hwy maes.

Fel hyn yn unig yr argyhoeddir fod bardd yn adnabod y byd yn ei gymhlethdod cordeddog, ac y geill greu rhywbeth sy'n feicrocosm o'r byd, yn cynnwys ei elfennau gwrthgyferbyniol, ei gariad a'i gas, ei hyfrydwch a'i aflendid, ei fwynder a'i dristwch, ei eni a'i farw.

Parhau wnaeth trafferthion carwriaethol Hywel wrth i'w gyn-gariad Rachel Price ddod i weithio i Gwmderi ond aeth pethau o ddrwg i waeth pan symudodd Nia Matthews i Ysgol y Mynach.

Syrth mewn cariad ag ysgolfeistr o Almaenwr, ond gwrthyd ei briodi, 'gan ddewis yn hytrach ddioddef.' Yn nrama Lewis nid cenedl yw'r gwahanfur rhwng y ddau gariad ond amrywiad diddorol ar ddosbarth cymdeithasol.

Ceir swyn serch arall sy'n dweud y gall bachgen ifanc ennill cariad merch wrth roi darn o wm cnoi iddi ar ôl iddo ddweud cyfrinach ei gariad wrth y gwm.

O Dad, anfon donnau dy ras a'th gariad aton ni'r bore yma.

Yr oedd ei gariad at Gymru'n cael ei fywioca/ u trwy'r blynyddoedd gan ei wybodaeth fanwl o'r gwaddol llenyddol.

Dywed ei fod yn dioddef o glefyd serch a honna fod ei fywyd yn ddiwerth heb ei gariad.

'Byddet ti ddim wedi dweud hynna ddeuddeng mis yn ôl, rhag ofn iddi roi clowten i ti am ddweud y fath beth am ei hannwyl gariad.' 'Dw i ddim yn deall beth welodd hi ynot ti erioed.'

Ac od o beth oedd canu geiriau fel 'Dyma gariad fel y moroedd' pan oedd gweddill y gynulleidfa luosog yn canu mewn iaith na ddeallwn mo'r un sillaf ohoni.

Braidd yn anffodus oedd hi efallai bod y cyntaf i ymaflyd yn y faner honno'n ddyn o egwyddorion cryfion, yn rhywun na fedrai weld bod rhai o'r pethau a adroddwyd yn y llyfrau a ddysgodd iddo sut i fyw, am gariad brawd at frawd ac at elynion yn tueddu i golli'u grym mewn awr o gyfyngder cenedlaethol'.

Gŵr cyffredin, gonest, dewr - gyda'r gallu anghyffredin wrth adrodd ei hanes trist i wneud inni sylweddoli fod gobaith i ddynoliaeth, nid drwy gasineb, ond drwy Gariad.

Anghofia swyddogaeth tad ac fe fag y ddwy ferch a enir iddo yn lle mab, yn ddi-gariad.

'Mae'r gêm hon wedi bod yn dda i mi', meddai, 'a theimlaf ei bod hi'n ddyletswydd arnaf i roi rhywbeth yn ôl iddi.' Ei gariad at y gêm a'i rhwydodd i rengoedd dethol dyfarnwyr Pencampwriaeth y Siroedd, gan ddilyn esiampl y ddau Gymro chwedlonol, Dai ac Emrys Davies.

Yn ail dymunai gael bod yn nawdd santes cariadon ac yn drydydd fod heb gariad ei hun byth eto.

"Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, A Ddaeth Ato Ef." Torrodd Cyllell ei gariad mwyaf cu drwy chwyd fy chwerwedd, a rhedodd allan grawn drewllyd.

Mynnodd rhai ysgolheigion fod awduron y Cyfandir wedi benthyca traddodiadau Celtaidd wrth gyfansoddi eu rhamantau am y ddau gariad, gan gymharu'r rhamantau hynny nid yn unig â'r deunydd prin yn y Gymraeg ond hefyd â chwedlau tebyg yn yr Wyddeleg.' Ar y llaw arall, mae dyddiad ansicr Ystorya Trystan yn ei ffurfiau presennol yn codi cwestiynau ynglŷn â phosibilrwydd dylanwad Ffrangeg ar ddatblygiad chwedl Trystan ac Esyllt yng Nghymru.

Digwyddiadau fel sylweddoli fod dy gariad di yn caru rhywun arall ac ar waethaf pob peth, ei fod yn mynd i' d'adael di am y person hwnnw." "Marc, bydd yn rhesymol..." "Rhesymol yw derbyn wedyn fod yn rhaid cael halen ar y briw - mai dy ffrind gorau di yw'r ferch arall yn y darlun." "Wrth gwrs, os oes angen beio unrhyw un, rwy i'n fwy euog na neb.

Yr un modd ei gariad Chloe (Alice Evans) syn digwydd bod yn swyddog prawf Cruella.

'Gofalwn ninau am gadw ei enw, a chof am ei lafurus gariad hunanaberthol ar ran ei anwyl Gymru yn wyrddlas tra bo gwanwyn yn gwisgo Mai â gwrddlesni [sic].

Darllenais gyda chymysgedd o ryfeddod ac edmygedd am hen gariad Paddy Ashdown yn dweud yr wythnos diwethaf i'r ddau ohonyn nhw garu mewn naw eiliad a hanner.

Ymateb Schneider oedd dadlau mai annigonol oedd hyn a datganodd, a'i dafod yn ei foch, nid yn unig ei barodrwydd i ufuddhau i'r gweinidog addysg Eduard Pestel ond hefyd ei gariad tuag ato.

Yn ogystal â bod yn gysylltiedig â marwolaeth Isabel Peake, mae o hefyd yn cael ei amau o lofruddio dwy wraig arall - gan gynnwys ei gariad.

Betsey Lewis oedd ei gariad cyntaf, 'a'i dawn i garu yn ddiarebol'.

Ar ôl i'r brawd Richard Owen godi i fyny fe ganwyd 'Dyma gariad fel y moroedd', ac wedi dyblu a threblu ar hwnnw fe daeth John Roberts Blaenau i weddio, ac yr oedd y brawd hwnnw y noson honno fel y mae hyd heddiw, yn hynod o afaelgar, ac yr oedd yn gweddi%o â'i lais uchel bod sôn am ddiwygiad yn y Sowth, ac fe ddywedodd lawer gwaith: