Roedd yr un mor dirion ar ôl i'r ci frathu fy llaw yn garpiau.
Wannwl dad, rwyt ti'n wlyb soc, fachgen, cer i'r cefn i dynnu'r hen garpiau gwlybion yna oddi amdanat mewn dau funud, mi gei di ddigon o dyweli yn y cwpwr cynnes, dyna chdi.
Cyn gollwng y rhaff i'r pydew dyna fo'n taflu hen garpiau a hen fudr fratiau i lawr ac yn dweud wrth Jeremiah am roi'r rheiny o dan 'i geseiliau rhag i'r rhaff 'i frifo fo wrth 'i godi.
Roedd y miri ar ei anterth pan daflwyd y drws yn agored yn sydyn a daeth hen grwydryn garw ei olwg, yn gwisgo rhyw garpiau blêr, i mewn i'r dafarn.