Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gartrefi

gartrefi

Y mae hyn yn wir yn enwedig am blant 'cymunedau'r Gymanwlad newydd' yn Lloegr a'r plant o gartrefi Cymraeg yng Nghymru.

Roedd BBC Radio Cymru yn y Cnapan yn Ffostrasol hefyd ac yn Sesiwn Fawr Dolgellau, gan ddod â chynnwrf perfformiadau byw i gartrefi.

Roedd hen dwnnel tanddaearol, gannoedd o droedfeddi islaw, wedi mynd â'i ben iddo a'r tri thŷ uwchben a fu'n gartrefi, efallai, i rai o'r coliars a wnaeth y twnnel, wedi disgyn yn domen flêr o gerrig a fframiau ffenestri, ac yn lle chwarae bendigedig i blentyn wyth oed.

Fel Crwys, gwelai Sarnicol, hefyd, gartrefi'r werin yn gaerau diddanwch a meithrinfeydd mawredd.

Carreg arw o dir Cae Meta, un o hen gartrefi ei deulu, sydd ar ei fedd ac arni y geiriau syml, ond hollol gywir a chymwys, 'Athro, Bardd, Llenor'.

Cadwai Achilles draw o'r frwydr am na châi'r gaethferch groenwen; dug y bugail bradwrus Helen dros y môr gwineuddu i gartrefi Pergamos, a gorfu iddo, am ei weithred, gnoi'r pridd a llychwino ei lywethau godinebus yn y llwch; bwriodd ymerawdwyr ymaith eu teyrnwiail a'u coronau, esgobion eu hesgobaethau a dynion eu clod, eu cyfoeth a'u rhinweddau er mwyn cael syllu ar yr wyneb "a fedrai ddwyn eilwaith yn ôl i'r byd eilun-addoli%.

Bwriad yr arolwg fyddai mesur yr angen yng nghymunedau gwledig a threfol y dosbarth ynghyd â chyflwyno tystiolaeth am y math o angen lleol, boed hynny yn gartrefi ar gyfer yr henoed, pobl ifanc, teuluoedd ar incwm isel a.y.

Aelwydydd ac Ail-gartrefi

Nodwyd fod yna ddigon o eiddo gwag a ellid ei addasu yn gartrefi mewn nifer helaeth o ardaloedd heb fynd ati'n ddi-reolaeth i adeiladu ystadau o dai drud ar gyrion penterfi.

Cefaist bleser wrth ei ddilyn i gartrefi'r mawrion yn Lloegr.

Mae'r llys hwn mor wahanol i gartrefi pobl gyffredin y cyfnod.

gwrthwynebu unrhyw gyllid i gartrefi mawr.

Agweddau disgyblion uwchradd o gartrefi Saesneg eu hiaith tuag at y Gymraeg.

A chan fy mod yn ysgrifennu'r geiriau hyn pan yw'r tanciau'n rhuthro ar draws Croatia a bomiau'n disgyn ar gartrefi, ysbytyau ac eglwysi yn y dalaith honno, ni allaf lai na theimlo pa mor argyfyngus yw'r galw arnom yn Ewrob i gefnu ar ryfel a thrais fel cyfryngau i ddatrys ein problemau.

Me yna gartrefi bach y gwyddon ni amdanyn nhw lle mae hers y trefnydd angladdau i'w weld yn sefyll wrth y drws bron bob gaeaf.

Gwariodd yn helaeth ar wladwriaeth les; un o'r blaenoriaethau oedd dymchwel yr hen gartrefi sinc a chodi tai newydd.

Mae'r rheiny yn eu tro yn cynrychioli llawer o'r plant sydd wedi dod o gartrefi diGymraeg i gael eu haddysg yn yr ysgolion dwyieithog.

Yn y cyfamser 'roedd darlledu sain yn cyrraedd y rhan fwyaf o gartrefi.

Mae nifer ohonyn nhw wedi cael eu camdrin gartref neu'n dod o gartrefi lle mae tor-priodas neu broblemau moesol.

Ers cyflwyno trefn gyllido newydd gwelwyd cynnydd sylweddol yn y nifer o gartrefi a ddarperir yn flynyddol.

Erbyn hyn anifeiliaid gaiff loches mewn rhai o'r hen gartrefi, fel Tai Fry a Llechwedd Llyfn, ac amheuwn a ŵyr un o drigolion yr ardal heddiw union safle y cartrefi a adwaenid gynt fel, Tyn-y-Maes, Ty'n-y-gornel, Ty'n-yr-ardd, a Bryn Bras.

Pe bai rhywun yn cyfieithu llyfrau plant Selina Chonz o'r Romaneg i'r Gymraeg, fel y gwnaed i lawer iaith arall, fe welai'r Cymry gymeriad y tai hyn drostynt ei hunain yn narluniau Alois Carigiet o gartrefi Uorsin a'i ffrindiau.

Ychydig iawn a wyddom am draddodiad llenyddol Morgannwg a Gwent cyn y bedwaredd ganrif ar ddeg; yn wir, gellid dweud am Went na feddai fywyd llenyddol fel y cyfryw yn y canrifoedd dilynol ychwaith, beth bynnag am gyfnodau blaenorol, er bod yno yn adeg y Cywyddwyr lawer iawn o gartrefi nawdd.

Adeiladwyd llawer o gartrefi modern, ac y mae cyfleusterau siopa a hamddena'r dref ymhlith y goreuon ym Mhrydain.

Dangoswyd cryn ddiddordeb mewn ffilm fideo, a gomisiynwyd gan PDAG ac a gynhyrchwyd gan Ganolfan Adnoddau Clwyd, yn olrhain hynt disgyblion, rhai o gartrefi di- Gymraeg, a dderbyniodd eu haddysg trwy'r Gymraeg.