Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gartrefol

gartrefol

Mae'n lân ac yn gartrefol ac roedd yr ysgol yn wych.

Awgryma'r hanesion amdano ei fod yn gartrefol ddigon ymhlith dynion yng ngweithdy'r teiliwr neu yn y dafarn, ond ei fod yn cadw merched hyd braich trwy feithrin fa‡ade o gwrteisi cellweirus neu trwy eu hanwybyddu.

Yr oedd yr un mor gartrefol yn Seremoni%au Graddau Er Anrhydedd y Brifysgol ag ydoedd ar ystlys cae rygbi Bethesda ac yn y stand yn Anfield.

Pryddest gartrefol, werinol hynod o ddarllenadwy yn null Cynan yn y Gymraeg a John Masefield yn Saesneg.

Roedd yna rhyw awydd yno i i symud o Manafon oherwydd doeddwn i ddim yn gartrefol ymhlith y Sais Gymry.

Y mae gwacter bythol yma megis pan gipier dyn o'i hynt gartrefol...Caeais y drws gan wybod na chawn ymwared o Seren byth.

Un o beryglon bywyd yw meddwl, gyda'n holl addysg, ein bod yn gartrefol yn y byd hwn.

"Ystyr cyfrifoldeb yn y fan hyn," meddai, "yw awdurdod, a'r hyn a olyga awdurdod i ni yma heddiw yw senedd gartrefol.

Er mwyn cael cydweithrediad ac ymateb gennym ni, y gynulleidfa, rhaid oedd i gari uniaethu â ni, ein gwneud yn gartrefol a'n cael i'w dderbyn fel cyfaill yn hytrach nag actor/comediwr y sgrîn.

'Fi'n ofnadw' o gartrefol.

Bu bron imi a dweud y gallwn deimlon gartrefol yno - ond gwell peidio.

Yr oedd yn feistr ar yr eglureb gartrefol a'r frawddeg gofiadwy.

Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.

Hoffwn ei arddull gartrefol, ac aeth i drafferth i ysgrifennu nodiadau ar bapur i mi.

Teimlai Vera'n agosach ato ef nag y gwnâi at eraill y gweithiau iddynt; roedd hi'n gartrefol ac yn gysurus yn ei gwmni, ac er nad oedd hi'n un i hel clecs, roedd Edward Morgan wastad yn barod am sgwrs ac ni fyddai, fel y rhan fwyaf o'i chyflogwyr, yn siarad byth a beunydd am ei hunan.

Un gwahaniaeth oedd fod yn rhaid i mi symud i'r Waendir o Manafon i deimlo'n gartrefol.

Llamai'r carcharor gan lawenydd am ei fod yn cael dyfod i'w hen gell gartrefol, a neidiai fel hydd.

Byddai'n well gan Mr Reagan ruthro adref i'r Tŷ Gwyn er mwyn siarad yn gartrefol ar deledu'r Unol Daleithiau gyda chynulleidfa anweledig oedd ddim yn ateb yn ôl.

Byddai Santa a Siani Corn yn teimlon gartrefol iawn yn ein ty ni am y pythefnos nesa.

Mae'n rhaid cael theatr gartrefol, groesawgar i'w gwneud hi'n fwy tebygol i ddenu cynulleidfa Gymraeg, ac mae'n rhaid cael strwythr priodol i farchnata cynnyrch penodol.

Fy safonau i oedd haelioni a rhadlonrwydd a storigarwch, mae'n siwr, ac er fy mod yn mwynhau gweld pobl ddieithr ac yn weddol gartrefol yn eu plith nid oeddwn ddim gwahanol i blant eraill fel na allai ambell 'chwechyn' ac wyneb siriol a stori fy ennill.

Cymdeithasai'n gartrefol â'r tadau cynnar a gwyddai'n iawn beth oedd arwyddocâd y dadleuon astrus hynny yn y bedwaredd a'r bumed ganrif a luniodd yr athrawiaethau uniongred am berthynas Personau dwyfol y Drindod â'i gilydd.