'Trachwant,' meddwn i wrthyf fy hun yn hunan-gyfiawn, gan wybod fod yn gas gen i siopau, ac eithrio siopau llyfrau.
Mae'n gwybod gormod,' Edrychodd Mwsi yn gas ar y bachgen.
Roedd yn gas ganddo wneud hyn.
Mi fydda i'n sleifio heibio'i gawell o am fod yn gas gen i ei weld o'n edrych i lawr ei hen drwyn hir main arna'i efo'r llygaid melyn lloerig yna.
Mae Derfel i raddau'n dilyn barn y Dirprwywyr Addysg yn y Llyfrau Gleision am gyflwr Cymru; er enghraifft, eu cyhuddiad nad oedd neb o bwys erioed wedi codi o rengoedd gwerin Cymru, ac nad oedd unrhyw lenyddiaeth o werth yn y Gymraeg, ac i raddau y mae'n pastynu pethau a oedd yn gas ganddo ef yn bersonol, megis beirniadaethau eisteddfodol neu awen glogyrnaidd y beirdd Cymraeg.
Ni theimlodd fyth mor gas tuag at y Doctor ar ôl y freuddwyd ryfedd honno.
Dileodd y rhain lawer iawn o ddiflastod beunyddiol y gorchwylion cyffredin - golchi, glanhau, gwresogi, smwddio, coginio, cadw bwyd, ac i mi eillio, oedd yn gas beth gen i a fy nhad, gyda'r asarn hen ffasiwn.
Ei gas beth a fyddai cael ei erlid o'i dŷ ei hun, 'run fath a Dafydd Gruffudd, gan ryw geilioges o ddynes yn cwyno ei fod o dan ei thraed hi o fore gwyn tan nos.
Nid wyf yn gwadu na byddai cyfnod o gas ac erlid a chynnen yn hytrach na'r cariad heddychol sydd mor amlwg ym mywyd politicaidd Cymru heddiw.
Ond y mae'n hi'n broblem sy'n gallu bod yn un gas iawn hefyd, yn enwedig os oes yna bobl ddiarth yn aros yma.
gas gen i feddwl am neud.
"Mae'n gas gen i'r holl sôn 'ma am ryfel, Beti.
Mae'r mudiad yn ysgogi a cheisio hybu datblygiadau fel peiriannau bio-gas, ffynhonnau dŵr-glan, ac ati, mewn modd sydd am eu gwneud yn effeithiol yn y pentrefi diarffordd.
Na, sa'i moyn bod yn rhy gas am Dad a Mam, ond wir i chi - rw'i'n methu deall sut maen nhw'n dal i fyw 'da'i gilydd i fod yn hollol onest.
Sut bynnag, 'roedd yn gas ganddi iddo ei chyffwrdd.
Gwilym Owen (colofn gas Golwg) yn dweud mai ymgyrchwyr y Sianel oedd pobl mwyaf siomedig diwedd y degawd.
'Os na chawsoch chi eich ethol gan y gweithwyr, na'ch enwebu gan undeb llafur, yna mae'n gas gen i eich siomi, ond nid gweithiwr-reolwr ydach chi.
Braidd yn gas, meddai yn dawel, ond daliai ymlaen.
Yr oedd yn gas gen i ei adael o, ond 'lwgai o ddim o hynny i fore Llun.
Yr oedd yn gas ganddo blant, a byddai yn dod i achwyn wrth yr ysgolfeistr yn aml am naill beth a'r llall.
Mae eu blodau yn dlws iawn, ond y pigau yn gas.
Roedd yn gas gennym yr holl fusnes.
Na, doedd hynny ddim yn hollol wir: roedd yn gas ganddo ei chlywed yn cwyno.
Mae'n gas gen i godi yn y bore, yn enwedig ar fore Llun gwlyb, ganol gaea'.
'O'r gore, rhaid i ni nawr fynd ymlaen â'n gwaith!' Rhoddodd Jini bwyslais ar y gair, ac aeth rhyw echryd drwof wrth weld yr olwg gas, ddialgar yn ei llygaid hi - a hefyd yn llygaid Mini a Martha Arabela.
Fel hyn yn unig yr argyhoeddir fod bardd yn adnabod y byd yn ei gymhlethdod cordeddog, ac y geill greu rhywbeth sy'n feicrocosm o'r byd, yn cynnwys ei elfennau gwrthgyferbyniol, ei gariad a'i gas, ei hyfrydwch a'i aflendid, ei fwynder a'i dristwch, ei eni a'i farw.
Ac mae'n gas gen i hynny; fe allaf gael pregeth mewn capel.
Y gyntaf ydi pobl fach gas a elwir y Coraniaid.
'Chdi sy'n sbi%ena arnan ni, ia?' meddai'n gas wrth Meic.
Yn y Nodiadau, yn arbennig, y deuwn wyneb yn wyneb a'r dyn, WJ Gruffydd: ei argyhoeddiadau, ei bryderon, ei freuddwydion, ei gas-bethau, ei hoff- bethau hefyd, ei oddefgarwch, ei ddiffyg amynedd, ei droadau barn sydyn a'i safbwyntiau annisgwyl.
Yn ôl y protestwyr yr oedd yn ddiwrnod cenedlaethol peidio â gwenu a hwythau, yn gwneud ymdrech lew i edrych yn flin ac yn gâs.
Mi fu+m yn gwisgo cap ond 'roedd yn gas gen i hetiau.
Rhoddodd olwg gas, galed ar ei wyneb, a'i hoffi.
Fel gweddill ei deulu agos, cyrhaeddodd Mark Gwmderi yn 1993 ac er fod gweddill y gymuned yn ei gasáu ceisiodd Hywel Llewelyn weld y gorau yn Mark ond talodd Mark ei garedigrwydd yn ôl drwy losgi car Hywel a dwyn ei draethawd ymchwil.
Cyn hir aeth yn helynt rhwng Ynot Benn a'i wraig, a gwyddai pawb mai ar Ynot roedd y bai am fod yn gas ganddo wynwyn.