Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gaseg

gaseg

Gwyddfid - Llaeth y Gaseg (Lonicera Periclymenum).

Ymhyfrydai mewn llawer o bethau, a bydd amryw yn cofio am y sglein gwbl arbennig ar y brasses ar harnes y gaseg.

Yn gynnil, gynnil yr awgrymir atyniad y ddau gariad at ei gilydd, fel pan ddywed Sarah Jones; 'Roedd eich aeliau chi fel taran ond ar unwaith dyma chi'n anwesu wyneb y gaseg.

Bellach does ond ambell atgof yn aros o ran y ceffyl yng ngweithio't chwareli, a hynny dros ddegawdau lawer, ac hefyd ambell i enw, fel - Llwybr y Gaseg Wen a Llwybr y Ceffylau, - yn eco o'u rhan hanfodol ym mhatrwm y gweithio.

Oherwydd parhad aeron y gelynen, mae'n talu weithiau i'r fronfraith fawr (neu gaseg y ddrycin) eu hamddiffyn rhag adar eraill a'u dogni drwy'r hirlwm.

Pan yn ifanc, ac adre am dro, ymddengys iddo fod yn barod iawn ei gymwynas; yn helpu cymydog i dynnu draenen o droed y fuwch; i fodrwyo'r hwch, neu dorri'r gaseg i mewn.

Rhaid, hyd y gellid, oedd rhoi pâr o bedolau newydd i geffyl neu gaseg cyn eu dangos mewn ffair.

Y gaseg ddrycin sydd ar frig y pentwr, ac ar ei hôl, yn eu tro mae'r socan eira, y fwyalchen, y fronfraith a'r goch-dan-aden.

Daeth hefyd ran o un chwarel i gael ei hadnabod fel 'Dyfn y Ceffyl Gwyn'; tra fod llwybr yn hanes cynnar chwarel arall yn cael ei alw'n 'Llwybr y Gaseg Wen'.