Ond ymhlith y rhai a anfonwyd i gasglu'r deunydd roedd yna un proffwyd peryglus o anwybodus.
Mae nifer ohonynt wedi eu cadw yn y ddalfa ers 3 mlynedd yn aros i'r heddlu a'r barnwr Laurence Le Vert, sydd â'i harbenigedd ym maes y frwydr yn erbyn ETA, gasglu tystiolaeth.
Hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg telesgopau plygu oedd y mwyaf poblogaidd, sef telesgopau sy'n defnyddio lensau i gasglu a phlygu'r golau a chwyddo'r ddelwedd.
Nid llyfr i gasglu llofnodau mohono, i'w gludo i eisteddfod a sioe a sasiwn.
Nid oes lle i amau na fu'r Dirprwywyr yn dra-diwyd wrth gasglu manylion perthnasol.
Yna os ewch chi o gwmpas trwyn y Mwmbwls i lawr i fae Bracelet gallwch gasglu esiamplau o ffosil gwymon môr sy'n edrych yn debyg i ddarnau deg ceiniog crwn ar y creigiau ger gorsaf gwyliwr y glannau.
Daeth newid ar y drefn o gasglu wedi iddynt sylweddoli pa mor anfoddhaol oedd yr wybodaeth lafar, ac yn wir, pa mor amhosibl oedd teithio i bob twll a chornel.
Aeth y bugail a'r cŵn ati'n orffwyll i gasglu'r defaid yngh d.
Paratowch ymlaen llaw ar gyfer y cyfarfod hwn drwy gasglu cymaint o wybodaeth ag y gellwch am weithrediadau'r cwmni.
Yn yr ail act cawn nifer o olygfeydd gwrthgyferbyniol, un o olygfa o'r eglwyswyr yn cynllwynio sut i gasglu camdystiolaeth ac yn gwledda gyda'r ysbi%wyr ar ddechrau'u taith; golygfa arall o Bentre'r Bobol lle mae arweinwyr Ymneilltuaeth yn ymgasglu i weld beth sydd yn digwydd, ac yma y cawn Lywelyn y Bardd yn ffroeni bradwriaeth, a'r Annibynnwr, Davies, yn cymharu'r hyn sydd yn digwydd â hen Frad y Cyllyll Hirion, ac yna ambell olygfa ddoniol lle mae'r ysbi%wyr yn holi plant yr Ysgol Sul ac yn eu baglu â'u cwestiynau, gan geisio tystiolaeth i'w gwneud yn ymddangosiadol dwp, ond lle mae'r plant yn tybio bod yr ysbi%wyr yn rhai twpach.
Ond bachodd am ei ffon a'r ci ac i ffwrdd ag ef gyda'r cymydog i gasglu'r defaid.
Mae rhannau ohono wedi eu haredig a'r cynhaeaf wedi ei gasglu.
'I ba beth y gwnaed y Cymry?' , meddai'n guchiog rhyw dro, 'I durio y ddaear i'r Sais, a'i arbed ef rhag gweithio.' Loes calon iddo ef oedd gweld cynifer o Saeson yn ymgyfoethogi ar draul y Cymry, yn ysbeilio crombil y ddaear o 'frasder oesoedd' ac yn 'ddiwyd gasglu i'w llogellau gynnyrch trysorau ein gwlad'.
Ond os cynhyrfwyd y protestwyr gan sylwadau'r offeiriaid lleol, gwelent hefyd fod y Dirprwywyr ar fai oherwydd cu dull o gasglu tystiolaeth a'r modd yr aethant ati i weithredu cyfarwyddiadau'r Llywodraeth.
Ond cofiwch chi, petai rhywun yn mynd ati i gasglu'r holl gyhoeddiadau sy'n ymwneud ag anifeiliaid yng Nghymru, fe fyddai ganddo lyfrgell go fawr ymhen dim o amser!
Teimlent eu bod wedi tarfu digon ar no erbyn hyn ac yntau'n amlwg yn ddyn prysur felly dechreuodd Llio gasglu ei phethau at ei gilydd a diolch iddo am ei help.
Diolch i gyfarwyddwyr a staff y canolfannau am eu cyd-weithrediad yn y gwaith o gasglu'r wybodaeth.
Tyfodd y wladwriaeth yn arswydus mewn grym, gan gasglu mwy a mwy o awdurdod i ddwylo clymblaid yn y canol.
Hwy a aeth o gwmpas yr ysgolion dyddiol yn y tair sir, a'u holiaduron yn barod yn eu dwylo, gan gasglu atebion yn uniongyrchol gan yr athrawon a'r '...' .
Os gallwn dderbyn ei air, o'i gof y cyfansoddodd ei bregeth brint, wrth gasglu ynghyd ei feddyliau 'sathredig', chwedl yntau.
Rhaid inni gasglu oddi wrth hyn y gall fod gan y ddau esgob ryw ran yn llywio cwrs ei fywyd addysgol.
Dymunwn ddiolch a dymuno yn dda i weithiwr Aberconwy sydd wedi ymddeol ar ol rhoi gwasanaeth gwerthfawr trwy gasglu sbwriel o amgylch yr ardal.
Gan mai Ystorya Trystan yw'r unig destun naratif sydd gennym am Drystan ac Esyllt, a gan fod posibilrwydd fod yr englynion yn rhai hynafol, bu'n demtasiwn i rai chwilio ynddi am debygrwydd i'r chwedlau Ffrangeg, gan gasglu fod Golwg Hafddydd, er enghraifft, yn cyfateb i Brengain, morwyn Esyllt yn y traddodiad Ffrangeg (er gwaethaf yr enw gwahanol), a bod taith y cariadon i Goed Celydon yn cyfateb i hanes Tristan ac Iseut yn ffoi i Fforest Morrois.
Cerddodd gorymdaith fawr o aelodau'r Gymdeithas o Faes yr Eisteddfod yn Llangefni at y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd gan gasglu 20,000 o enwau ar Ddeiseb ar y ffordd.
Yno 'roedd ymwelwyr fel gwenyn yn potio o gwmpas y dŵr, yn addasu'r camerâu'n ffwndrus i gasglu atgofion am yr ewyn gwyn yn disgyn ddawnsio'n swnllyd i'r ffrewyll.
Ceir penodau ffeithol pur lle mae'r pwyslais amlwg ar ddeall yr hanes ac ar gasglu a chywain gwybodaeth.
'Roedd yr arolwg peilot yn gyfle da i ragweld os oedd holiaduron yn fodd effeithiol o gasglu gwybodaeth am yr angen lleol am dai.
Tra bo'i rieni yn casglu llen a llafar plant dechreuodd Robert Opie, yn fachgen ifanc, gasglu papurau losin a siocled, potiau iogwrt, a bocsys bwyd brecwast.
The Century Speaks oedd project mwyaf uchelgeisiol y flwyddyn, wrth i gynhyrchwyr deithio i bob cwr o Gymru i gasglu tystiolaethau cannoedd o bobl gyffredin o naw mlwydd oed i gant oed.
Rydyn ni'n dysgu trwy gasglu'r negeseuon gwan, nid dim ond negeseuon y goleuni y gallwn ei weld, ond hefyd allyriadau eraill megis uwchfioled, pelydrau-X, golau isgoch a thonnau radio.
Pan oeddwn yn wyth a naw oed awn o gylch Nant-y-moel gyda cherdyn i gasglu at y genhadaeth dramor.
Gwyddai Ieuan Gwynedd fod nifer o offeiriaid eglwysig yn cribo i lawes Lingen, Symons a Johnson, ac er ei fod yn fawr ei ofid yn sgil marwolaeth ei wraig a'i fab, aeth ati i gasglu ystadegau ynglŷn ag enwadau crefyddol yr ardaloedd glofaol.
Nid yn unig y mae senedd y wlad honno wedi penderfynu yn ddemocrataidd nad yw hi eisiau i Tyson ddod yno i ymladd ond y mae gweinyddiad y wlad yn cytuno a'r papurau newydd yno yn groch yn erbyn yr ymweliad oherwydd mai barn trwch y boblogaeth, hyd y gallwn gasglu, yw na ddylai gael dod yno.
Mae'r cyfleusterau gan yr amaethwr erbyn hyn i gasglu ei borthiant o silwair, yn rhydd neu'n fyrnau mawr, heb brin orfod dod oddi ar glustog gyfforddus ei dractor.
Fel arfer byddai Bethan yn aros ar ôl i lyfu'r hen Dwm Tew ond y bore hwn roedd ar ei thraed ac allan trwy'r drws cyn i Guto gasglu ei lyfrau at ei gilydd.
Ceir ynddo'r hanes am godi William Phylip, pan orchfygodd Cromwell lu'r Brenhinwyr, yn ben trethwr i gasglu arian i fyddin Cromwell mewn un rhan o Ardudwy.
Yn ystod Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol bydd eisiau llawer o help ar stondinau'r Gymdeithas i gasglu'r enwau ar y ddeiseb.
Gwnaeth Dafydd Jones, Dremddu gymwynas â'r ardal trwy gasglu a chrynhoi hen benillion, arferion a llên gwerin y fro mewn traethawd swmpus.
Oherwydd llwyddiant yr arolwg peilot, y nod yn awr oedd cynnal arolwg drwy Ddwyfor gyfan i gasglu gwybodaeth lawn a chynhwysfawr am yr angen lleol am dai.
Ffwrdd a mi wedyn am y siop sgio i gasglu sgis a pholion.
'Roedd llafur yn ddigon rhad hefyd i gasglu eu carthion a'u taflu neu eu defnyddio mewn rhan o'r ardd.
Er iddo gasglu a chyhoeddi gweithiau llu mawr o lenorion, nid oedd ganddo'r chwaeth i dderbyn a gwrthod fel Morris-Jones.
Gellwch gasglu'r alabaster sydd wedi syrthio o'r clogwyn ar y traeth.
Mae'r glaw yn pistyllio i lawr wrth i ni fynd yn y car i gasglu Siwsan Diek, Adam a Natalie.
Mae hi hefyd yn astudio natur gwaelod y môr drwy gasglu samplau o waddod yn barod i'w ddadansoddi gan y gwyddonwyr ar ôl dychwelyd i'r labordai ym Mhorthaethwy.
Ychydig a wyddai'r diniweitiaid oedd yn crwydro'r wlad ar gefn beic i gasglu enwau ar ddeiseb i wrthwynebu rhoi adeiladau gwersyll y Llynges ym Mhenychain i 'Byclins' ar ol y rhyfel fod cytundeb yn bod cyn eu codi erioed rhwng Billy, a barchusodd i Syr William, a'r 'admirality', mai eiddo Butlin fyddai Penychain ar ol y rhyfel.
Erbyn hyn fe wyddom iddo gasglu a phentyrru 8.6 miliwn o bunnau.
Yn gyntaf y mae'n diweddaru'r drafodaeth ar Morgan Llwyd gan gasglu at ei gilydd yr amrywiol farnau sydd wedi eu mynegi hyd yma am natur ac arwyddocâd ei waith.
Un ffarmwr, Oliver Walston, wedi agor cronfa o dan y teitl 'Send a Tonne to Africa', i gasglu miliwn o bunnau i ymladd y newyn cynyddol sy'n y Trydydd Byd.
Ar y llaw arall, mae'r ychydig nwyddau sy'n llwyddo i gyrraedd y siopau yn diflannu ar unwaith am fod gwerth y rwbl yn disgyn o ddydd i ddydd gan beri i bawb frysio i gasglu eiddo yn hytrach na hel arian.
Daeth ef i lawr i'r ddaear ac apelio am weithwyr i fynd o amgylch i gasglu enwau, a chasglu arian.
Bu i'r dŵr gasglu a chrynhoi hyd y gwastadeddau yn rhan ogleddol y blaned a ffurfio yr hyn a adwaenir yn iaith y seryddwyr fel Cefnfor Borealis.
Gan fod ganddi docynnau awyren, a chan ein bod ninnau'n gadael ar y dydd Iau, gwnaethpwyd trefniadau i ni gasglu Siwsan a'r plant o'u cartref yn gynnar yn y bore a'u hebrwng yn ôl i Gymru.
Ni wyddom y nesaf peth i ddim am Lewis Glyn Cothi heblaw'r hyn y gellir ei gasglu o'i gerddi, ond awgryma'i enw mai fforest Glyn Cothi ym mhlwyf Llanybydder yng ngogledd sir Gaerfyrddin oedd ei ardal enedigol.