Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gasineb

gasineb

O gasineb tuag at ei wraig ac o ddiffyg cwsg wrth ei hochr collodd Ynot Benn bwysau, gwelwodd ac ymgrebachodd, a heliai ei draed bob dydd i westyau a chlybiau lle cai gwmni a chydymdeimlad.

Does dim byd gwaeth na chariad sy wedi troi'n gasineb, ac fe wyddost ti gymaint roedd hi'n ein casau ni'n dau erbyn y diwedd.

'Roedd yn rhaid i Lisa a Fiona wynebu llawer iawn o gasineb yn y pentre oherwydd eu perthynas hoyw a gadawodd Lisa am gyfnod eto gan ei bod yn methu wynebu'r holl siarad amdani.

Tynnwyd ei gyfeillion a'i gyd-ddisgyblion oddi wrth yr aradr a'r oged, a'u gyrru, fel wyn mudion, o'r meysydd i'r Rhyfel Mawr; gwyr ifainc heb gasineb yn eu calon at yr Almaenwyr.

Gŵr cyffredin, gonest, dewr - gyda'r gallu anghyffredin wrth adrodd ei hanes trist i wneud inni sylweddoli fod gobaith i ddynoliaeth, nid drwy gasineb, ond drwy Gariad.

Yr hyn a'm cynhyrfodd i gyfansoddi y ffug-chwedl a nodwyd ydoedd fy mawr gasineb at yr hen arferiad gyffredin o nosgarwriaeth, ynghyd â deall fod yr unrhyw ar gynnydd mawr, a'r drygau annifeiriol cysylltiedig â hi yn annioddefol mewn llawer man .

Miss Aster a ddangosodd iddo sut i edrych arnaf i: ond gwyddwn yn eithaf da mai i blesio Mam y chwipiodd honno ei difaterwch cynhenid yn gasineb.

Nid oes lle i gasineb y tu fewn i'r Gymdeithas a chredwn mai ar ein hysgwyddau ein hunain y mae'r cyfrifoldeb o gyflawni'r gwaith.