Bellach daeth yn bosibl, diolch i ymchwiliadau'r diweddar Emyr Gwynne Jones, Dr Geraint Bowen a Dr Geraint Gruffydd i wneud amgenach cyfiawnder ag ymdrechion yr ychydig Gatholigion a sylweddolai bwysigrwydd mynegi eu hargyhoeddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Saer oedd Sefnyn a elwid yn 'Pab' yn ogystal am ei fod yn pledio rhyddid i Gatholigion, ac wrth gwrs iddo ef, roedd Gwrtheyrn nid yn unig yn fradwr i achos Gymru, ond yn fradwr i weddillion trefn y Rhufeiniaid yn ynys Prydain.
Dadleuai ymhellach mai bwriad llunwyr yr Erthyglau oedd bodloni Pabyddion yn ogystal â Phrotestaniaid, a'u geirio yn y fath fodd fel ag i gadw cynifer o Gatholigion ag oedd yn bosibl oddi mewn i'r eglwys ddiwygiedig.