Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gawn

gawn

Fe gawn ni'r ateb i'r ddau gwestiwn yna o fewn yr wythnosau nesa.

Yn ei thrallod gadawsai bopeth yn fy llaw; a phan geisiwn ymgynghori â hi ``Y ti ŵyr ore'', oedd yr unig beth a gawn ganddi.

Felly fe gawn bobl eisiau mabwysiadu egwyddorion Iesu Grist neu gymhwyso ei ddysgeidiaeth at broblemau cyfoes yn y gobaith y gwnaiff hynny eu datrys.

'Sut gawn ni afael yn yr hogyn Fitter, tybed?'

Wrth i mi baratoi'r ddarlith hon yr ymateb a gawn, gan y canol oed yn ogystal a'r hen pan soniwn am y testun, oedd 'Fe gefais siglo llaw ag Elfed' neu 'Fe glywais Elfed yn pregethu sawl tro', a'r son wedyn, bron yn ddi-ffael, am y llais swynol i'w ryfeddu a oedd ganddo.

Fel plentyn 'roeddwn wrth fy modd yng nghwmni nhad, ac i Gerrig Duon yr awn ni efo fo bob cyfle gawn i, mynd ar ffrâm y beic ar draws 'camp Mona'.

Unwaith y bydd yr achos drosodd mi gawn ni adolygu'r sefyllfa.'

Be gawn ni, deudwch?

A gawn ni awgrymu, felly, mai mynach oedd awdur y Pedair Cainc, ac efallai mynach o Lancarfan?

Deued pob un â'i aberth; ac os cawn ni Ysbryd Duw gyda ni i wneud y gwaith, a bod yn un gyda'n gilydd, ni gawn rywbeth mwy na'r can mil - yr Ysbryd hwnnw i ddefnyddio y can mil i weithio.

"Hitiwch befo, fe gawn ni fynd at yr afon fory." "Ac am bicnic ar y mynydd," galwodd Eira.

Mi fydd yr ornest ar lefel ranbarthol ond, maes o law, fe gawn ni wybod faint yn union bleidleisiodd dros ba blaid yn ôl ffiniau San Steffan.

Mi gawn son am yr hen ddyddiau - am yr hen gyfeillion." Yr achlod fawr!

Ys gwn i sut groeso gawn i yng Nghymru petawn yn mynd at reolwr banc a gofyn iddo fy nghynorthwyo i werthu ticedi!

Ymgais - lwyddiannus - i gynhyrchu baled a gawn yma.

Mi gawn ni fynd â'n bwyd efo ni rhyw ddiwrnod yn fuan." "Fydd arni hi ddim eisiau mynd drwy'r coed, gewch chi weld rŵan - fe fydd arni hi ofn bwci-bo neu ryw rwdl felly !

Mae hi'n falch go iawn sti, Ifan, mi ddaw at ei choed yn y munud ac wedyn gawn ni fynd i mewn, paid ti â phoeni dim.

Erbyn y mis nesaf fe gawn fwy o wybodaeth dwi'n meddwl.

Cyn mynd yno gofynnais i'r bancwr a gawn dipyn o "overdraft".

Golwg wahanol ar Gymru'r unfed ganrif ar bymtheg a gawn yn Dyddiadur Mari Gwyn Rhiannon Davies Jones sy'n seiliedig ar fywyd Robert Gwyn y ffoadur Catholig yn oes Elizabeth, ac y mae Bobi Jones yntau'n ymdrin ag argyhoeddiad crefyddol ysol Richard Gwyn y merthyr Catholig yn Gwed Gwyn yn Barn.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

Roedd yn arferiad gan setwyr o chwareli ithfaen symud o le i le pan oedd y fasnach sets wedi arafu ac fe gawn fod amryw yn mynd dros y dwr o Drefor o dro i dro.

Yng ngwir draddodiad roc a rôl fe gawn hanes y grwp yn ymweld a thy un o drigolion gwylltaf Caernarfon ac yn colli eu pennau mewn mwy nag un ystyr , gymaint âu bod yn...colli eu brên a theimlo fel ceffyl pren.

Bendith nid bychan oedd medru cysgu'n dawel trwy un noson, ac yr oeddwn i yn ffodus yn hyn, er nad oedd dim sicrwydd byth wrth noswylio pa fath o noson a gawn.

Teitl llawn Stori Sam yw--"Stori Sam am yr hyn nis gwelodd neb erioed ond ef ei hun", a'r disgrifiad cyntaf o Sam a gawn yn y llyfr yw "Yr oedd yn wahanol iddynt oll" (i weddill y teulu) (t.

'Gawn ni ddarllen yr enseiclopidia, Taid?' meddai.

Ddoe, ddydd Llun, roeddwn i'n dyfalu pa stori a gawn i'r tudalen blaen yr wythnos hon pan gofiais fod arddangosfa o waith plant hynaf Yr Ysgol Gyfun wedi ei threfnu gan Aneirin Rees, yr athro arlunio, a'm bod wedi addo iddo yr ysgrifennwn erthygl am yr arddangosfa i'r Gwyliwr.

Mae'r teitl yn addas dros ben oblegid yn yr adroddiadau a gawn gan Emma Walford o bellafoedd byd mae'r swm o wybodaeth yn depycach i'r hyn y gellir ei gynnwys ar gerdyn post yn hytrach nag mewn arweinlyfr.

Be gawn ni'i alw fo?

Yn Arianrhod a Blodeuwedd fe gawn ddarlun o falchder, creulondeb a chwant sy'n hollol wahanol i Franwen addfwyn, ddewr.

Ond hwyrach mai'r hysbyseb gwaetha un dros roi grym yn nwylo'r werin yw'r portread ci%aidd a gawn o Wil James.

Mi gawn job i'w cadw nhw o dan reolaeth." Mewn un ffordd yr oeddwn yn edrych ymlaen at weld yr ymarfer.

Dyna'r unig arwydd gawn ni ei fod o'n dod.

Sawl tro y ces i fy rhoi yn fy lle wedi i mi wneud sylwadau fel, "Ddim yn meddwl llawer o 'Pobl y Cwm' heno nhad," mi gawn yr atebiad "Pa bryd wyt ti am sgwennu pennod?" Wiw i mi chwaith ddweud fod actor neu actores ddim yn dda, neu mi fyddwn yn cael darlith am gynhyrchu drama deledu o'r top i'r gwaelod.

Yn y stori, Prologema i Ddadansoddiad o ddarn o Sacriaeg Canol, yr hyn a gawn yw dadansoddiad o Sacriaeg Canol - iaith a ddyfeisiwyd gan yr awdur - gan Y Diweddar Athro Emeritws Ceirwy Léwþs Ma.

I orffen y rhaglen fe gawn ni gyfraniad gan unigolyn sydd wedi chwarae mewn nifer o grwpiau dros y blynyddoedd.

Fe gawn olwg ar y rhai mwyaf dymunol ohonyn nhw yn y bennod nesaf, ond rhoi sylw i ategolion cwbl angenrheidiol a wnawn yn y bennod hon.

Yn bendant mae sail i'r peth, pa un ai fydd gêm a buddugoliaeth fel hon yn achosi iddyn nhw newid eu meddyliau ac aros 'mlaen am un tymor arall gawn ni weld.

'Mi gawn ni rybudd ei fod o'n dod !

Fe gawn ni lonydd yn y fan honno.

Brithyll wedi'i ffrio, dyna gawn ni i swper heno.'

Os caniatâ Llys yr Eisteddfod i mi ddyfynnu rhai o'r ceisiadau (ac rwy'n siŵr y gwna þ dim ond i mi foesymgrymu yn y ffordd briodol) yna mi gawn ni sbort am fisoedd yn y Gornel 'ma.

Awn ni ddim o'ma tan gawn ni ddŵad i mewn, cofiwch.

Yr argraff a gawn i oedd eu bod i gyd ymhell dros eu hanner cant a phump oed.

"O fis Medi a Hydref ymlaen," meddai, "mi fydd yna rywbeth inni ddangos ein bod ni wedi gwneud job soled." "Dim ond yn cynnig gawn ni ar wneud canllawiau.

Ychydig gyfle a gawn yng Nghymru heddiw i gael golwg ar wyddau gwirioneddol wyllt.

Yn ystod yr wythnosau nesa', mi gawn weld a ydi gwleidyddiaeth Gymreig yn dechrau ar gyfnod mwy cwerylgar a checrus nag erioed o'r blaen.

Bydd Gwyneth Evans yn ein diddori ar y delyn ac fe gawn ganeuon Saesneg a Chymraeg gan Gôr Acappella o un o'r ysgolion lleol.

Ond a gawn i hafan yno?

Fe'i cyflwynwyd iddo 'yn ysbryd Owain Glyndŵr', ond y cyfan a ddywedodd Mr Michael oedd, 'Gawn ni dipyn o ysbryd heddiw, ia?' cyn dechrau edliw cymaint oedd yn siarad Cymraeg yn y Cynulliad.

Os bydd BAe yn cydymffurfio âr meini prawf, yna mi gawn nhw'r grant.

Yn Skol Louarn Veig Trebern (Herve/ Trebern bach yn mitsio) hanes llai dramatig a gawn, ond â blas llawn cystal arno, lle crisialir atgofion plentyndod yr awdur, wedi eu haddasu ond ychydig ar gyfer cyfrwng llenyddol.

Mae arna'i ofn y cenllysg mawr sy'n bygwth o'r mynydd, dwi'n siŵr ei fod o am ddwad ar fy ngwarthaf mewn dau funud i 'ngholbio fi'n ddu las ac wedyn fy nghladdu fi yng nghanol yr eira, felly plîs Morys, gofyn iddi eto gawn ni fynd i'r tŷ.

O ddyddiau Abraham, trwy'r caethiwed yn yr Aifft a'r Ecsodus oddi yno, yr hyn a gawn yw pobl yn tyfu ac yn datblygu nes dod yn genedl.

Felly, fel gawn Williams yn mynnu (fel Morgan Llwyd o'i flaen) nad digon crefydd pen neu grefydd gwefus.

"Gawn ni ffîd yn tþ ni y flwyddyn nesa% ebe Eurwyn, "swpar dyrnwr go iawn" "Golwg wedi blino arnat ti, Arfon" ebe Glenys gan roi ei llaw oer dros ei law o.

Ond hwyrach mai dychmygu mae Enoc." "Wel, mi gawn weld, toc.

Wel, am hynny, mi gawn weld...

Brechdan yn llawn o Dywod: mae'r pumed rhifyn o'r ffansin Brechdan Tywod newydd ei gyhoeddi ar tro yma fe gawn gyfweliadau gyda Gruff Rhys, Zabrinsky, Llwybr Llaethog a llawer mwy.

Fedra i ddim bod yn sicr, ond fe ddywedodd ei fod am fynd i ddawnsio ac y byddai'n hwyr arno'n cyrraedd.' Mi gawn weld,' a heb rybudd taranodd eilwaith.

Fe gawn glywed nad yw bob amser yn cytuno â'r beirniaid swyddogol.

Wedyn fe gawn y rhai a ddechreuodd eu haddysg yng Nghymru a'i gwblhau mewn gwledydd eraill.

Plîs gawn ni ddwad i wrando ar stori?'

Mae Iesu i'w fawrygu am yr hyn ydyw, nid oherwydd yr hyn a gawn ganddo - adlais o gyhuddiad Iesu ei Hun yn erbyn y dyrfa a'i ceisiai, nid am iddynt weld y gwyrthiau ond am iddynt fwyta o'r bara a chael digon.

Recordiodd y grwp sesiwn acwstig i Gang Bangor rai misoedd yn ôl a chyn bo hir fe gawn ni fwynhau sesiwn stiwdio.

"Ond mi gawn ni wybod beth sy'n digwydd cyn y papurau newydd," oedd gobaith Rolant.

fe fydd rhaid iddi hi fynd nawr i roi lle i chi." "Wel, 'charwn i ddim 'i gwthio hi mas..." Bu'r Cyrnol yn meddwl am dipyn, "Hym," meddai wedyn, "gawn ni weld, gawn ni weld.

Felly gawn ni setlo un neu ddau o bwyntiau.

'Mi gredwn hynny pan gawn ni brawf.'

Wrth ddarllen Ystorya Trystan yr argraff a gawn yw fod yma ddeunydd brodorol, wedi ei gyflwyno mewn mewn cywair ac arddull hollol Gymreig.

'Bydd y lle yn oer,' oedd yr esgus a gawn dros y diffyg brwdfrydedd yma.

Gawn ni neidio eto'n syth?' `Siwr iawn,' meddai John.