Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gawsant

gawsant

Fe fu cyfraniad y llu hyfforddwyr ledled y Sir ar hyd y blynyddoedd yn amhrisiadwy ac nid gormodedd yw dweud i gannoedd lawer o ieuenctid Meirionnydd elwa'n fawr ar yr hyfforddiant a gawsant er dod yn Amaethwyr a Gwladwyr Da.

Cododd hyn awydd ar y trigolion i agor yr arch, ac fe gawsant bod corff Ann Parry yn berffaith ddilwgr.

Pan ddaeth tymor y 'Dolig i'w derfyn y llynedd fe gawsant wared ohona' i o'r ysgol a 'dydw i'n ama' dim nad oedd yr ocheneidia' rhyddhad i'w clywed bryd hynny yn atseinio'n uchel hyd goridora' byd addysg.

Nid oes mo'r gofod yma i grynhoi ei sylwadau ynghyd â'r ymateb a gawsant.

Cymharol ychydig o sylw beirniadol a gawsant hwy.

Diolchwyd i'r is-bwyllgor gan y Llywydd am eu gwaith yn ystod y flwyddyn lwyddiannus a gawsant.

Gellir gwneud hynny'n hwylus i'n pwrpas ni trwy edrych ar y math addysg a gawsant hwy cyn cymryd at eu gwaith fel athrawon a gellir edrych ar y math cyrsiau a baratoid ganddynt ar gyfer eu myfyrwyr.

Ond gwae y ffermwyr hynny, oblegid bargen sâl a gawsant.