Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gawsom

gawsom

Rhag ofn i chwi feddwl mai rhyw greaduriaid seriws iawn oeddem, dyma stori neu ddwy sy'n f'atgoffa o'r hwyl a'r mwyniant a gawsom yn ein hymwneud â'n gilydd ac â'r darlithwyr.

Mewn gwirionedd, dyma'r peth agosaf a gawsom erioed at gyfundrefn addysg genedlaethol Gymraeg.

Fe gawsom ni ein magu i gredu fod dagrau'n arddangos gwendid ac i deimlo cywilydd o ymollwng yng ngþydd eraill.

Yr hyn a gawsom i swper y noson gyntaf oedd tafellau o goes porc wedi eu rhostio, gyda thatws, pys a chawlifflwr, i ddewis y lleiaf lletchwith o'r tair ymdrech yn y Geiriadur Termau.

Am flynyddoedd gwrthododd y Brifysgol roi eu tîm cyntaf allan yn ein herbyn gan ddweud nad oeddem yn deilwng o'r fath anrhydedd, ond un flwyddyn fe gawsom gêm yn erbyn eu tîm cyntaf, ac er iddi fod yn gêm galed, cafodd y Brifysgol gweir.

Brechdana' caws oedd gynnon ni'n tri, ac mi oedd Mrs Robaits wedi gneud rhai jam ac mi gawsom ni dipyn o'r rheini hefyd, a thamaid o'r deisan gymysg.

Gogoneddwn dy ras am y bendithion lawer a gawsom trwy waith ein heglwysi.

Yn ystod y gaeaf oer diwethaf gawsom ni oedd hi, ac yn ystod rhyw bythefnos neilltuol o oer, roeddwn i, ac amryw byd o rai eraill gallwn feddwl, wedi dod o hyd i gornel gynnes mewn tafarn diraen ynghanol y ddinas lle ceid bob amser cinio danllwyth o dân ar lawr.

Ac mi gawsom ni hyd i'r gath wedi'i chrogi ar gangen y goeden afalau yn yr ardd.

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

Fe gawsom ein dal am ddyddiau ar Enlli oherwydd y Storm a'r GWYNT.

Mae gennyf gôf plentyn o fynd ar y trên bach i'r Mwmbwls o Abertawe yn Ystod un o'r hafau poeth tragwyddol yna a gawsom i gyd fel plant, gan dreulio'r diwrnod i gyd ar fy hyd yn turio rhwng y creigiau am drysor.

Nos Sadwrn fe gawsom Hwyrnos draddodiadol.

Roedd yr ymateb a gawsom yn dda iawn - yn uwch na'r disgwyl.

'Nôl yn Ouromieh, daeth pwysigyn lleol ar y bws a rhoi darn o siocled yr un i ni 'fel iawndâl am yr holl flerwch.' Dyna'r unig arwydd o garedigrwydd a gawsom gan ein meistri.

'Mi gawsom ni ddwy gwpan bach a oedd yn perthyn i'w thaid a'i nain, a oedd hefyd yn byw yma, yn rhodd ganddi pan symudom ni i mewn,' meddai Judith.

Am wythnosau, mi gawsom ni un storm ar ôl y llall.

Chwe wy wedi ei ffrio hefo pryfed a dim arall oedd y brecwast gawsom yng nghanol yr anialwch y bore hwnnw.

Ymhen pythefnos, fe gawsom ni ffilmio'r un llun - a'r adeilad ei hun - o bob ongl y gallech chi'i ddychmygu.

Fe gawsom wledd gan Agenda Nos Sadwrn gan brofi a blasu yr awyrgylch yn bur effeithiol.

Wedi bwlch mor hir, credaf mai doeth ar ôl hirlwm felly yw bwrw golwg yn ôl dros y misoedd a'u digwyddiadau anghyffredin yn bennaf oherwydd y tywydd anhymorol gawsom yn hytrach na chyfyngu i un pwnc.

Cwmni Dr Helen Roberts, Y Felinheli, a gawsom ym mis Chwefror, ac yn ei ffordd naturiol aeth â ni yn ôl genedlaethau i ddisgrifio'r afiechydon a fodolai, gan olrhain y cynnydd a fu dros y blynyddoedd i'w trechu.

Y mae'r ddwy wledd a gawsom gan Gwmni Ieuenctid Mon yn aros yn fyw iawn yn y cof.

Mi gawsom i gyd hefyd brawf ffitrwydd, a'n dosbarthu o ran oedran.

Dechrau ar gwrs arall- darlith oedd ar waith yr Adran, rhyw gawl aildwym o'r hyn a gawsom ym Matlock llynedd gydag ychydig o liw neu flas tramor wedi'i roi ynddo i'w wneud yn fwy llyncadwy.

Credwn ei fod yn bwysig mai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n rhoi arweiniad ar y mater pwysig hwn - syniad a gafodd ei ategu'n glir yn yr ymateb syfrdanol (dros gyfnod byr o amser) a gawsom i'r ddeiseb.