Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

gefais

gefais

Y Nadolig diwethaf a gefais i yng Nghymru oedd yn 1967.

Dyma'r codwm mwyaf lwcus gefais i erioed!

Wrth i mi baratoi'r ddarlith hon yr ymateb a gawn, gan y canol oed yn ogystal a'r hen pan soniwn am y testun, oedd 'Fe gefais siglo llaw ag Elfed' neu 'Fe glywais Elfed yn pregethu sawl tro', a'r son wedyn, bron yn ddi-ffael, am y llais swynol i'w ryfeddu a oedd ganddo.

Fydd dim iws i chi fynd wedi iddo foddi!' Cychod a chychwyr oedd o'm cwmpas bob dydd, a chwch wedi i 'Nhad ei wneud oedd un o'r teganau cyntaf a gefais.Fel bron bawb o'r dynion lleol, 'roedd gan fy Nhad gwch, a chofiaf yn dda am Elizabeth fy chwaer a minnau yn hwylio efo fo.

Mi gefais ddigon o amser i feddwl dros bethe wrth orwedd fan hyn, ac rwy'n ofni y bydd raid i ni adael yr ynys." "Gadael yr ynys?

Helfa ffodus arall a gefais oedd honno yn llyfrgell Shankland ym Mangor.

Roedd y Siampên yn llifo am ddim drwyr nos ac fel arfer buaswn wedi bod yn fy seithfed nef - ond yn ller bybli sudd oren a gefais i gydol y noson.

Wel, mi gefais i fodd i fyw yr wythnos ddiwethaf.

Pan ail agorwyd gwaith y Gwscwm adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fe gefais i'r cyfle i fynd drwy'r hen waith draw hyd waelod y pwll a gweld mai'r Pillar & Stall oedd y dull o weithio'r glo ganddynt ac i edmygu'n fawr y grefftwaith ar y pwll oedd tua chan troedfedd o ddyfnder a deg troedfedd ar draws.

Fe gefais fy magu ar aelwyd grefyddol, lle na chrybwyllwyd erioed y gair 'ofergoelion', eto wrth edrych yn ôl gwelaf fod fy mhlentyndod yn llawn o ddywediadau ac arferion oedd yn ymylu ar fod yn ofergoelus.

'Mi gefais gyfle i'w chyfarfod pan es i draw ddwy flynedd yn ôl i ddarlledu'r Eisteddfod yn fyw o Batagonia...

Fi'n cofio'r Beatles yn y swyddfa, ac fe gefais i bip arnyn nhw, ond wnes i ddim cwrdd â nhw, oedd hwnna'n siom ar y pryd".

Mi gefais i fy nhynnu yno ddydd Sadwrn ar ôl darllen am y blowsus newydd mae'r cwmni wedi eu darparu ar gyfer y staff.

Ar aelwyd Ty'r Ysgol, Coedybryn, mi gefais y fraint droeon o gael trafod gydag ef, ei farddoniaeth ei hun, a barddoniaeth beirdd eraill.

Pan gefais fynd i ginio misol y Gymdeithas Gymraeg teimlwn fod yna diddordeb mawr yng Nghymru a'i phobol, ond dim ond dau neu dri oedd yn gallu siarad Cymraeg.

Hyd yn oed yma, mae treulio noson yn yr awyr agored, mewn dillad gwlyb, yn gofyn am drwbwl." "Fyddwn i ddim wedi aros allan drwy'r nos." "Roeddech chi'n cysgu pan gefais i hyd ichi..." Tawodd pan ddaeth y gwas â'r coffi a'r ffrwyth iddi.

Yr uchafbwynt i mi, mae'n debyg, oedd y cyfnod rai wythnosau ar ôl y rhyfel pan gefais groesi Twrci i Ogledd Irac i ddilyn tynged y Cwrdiaid.

Ac fe gefais gyfarwyddiadau - manwl; pwy ffordd i'w dilyn allan o Langolwyn, troi i'r chwith wrth eglwys y Santes Fair, a dilyn y ffordd fawr am ryw ddwy filltir, troi oddi ar honno wedyn wrth westy'r Tarw Du, a dilyn y ffordd gulach i fyny'r llechwedd; troi heibio talcen capel Methodus a dilyn ffordd y chwarel garreg galch; yna, ar grib rhiw go serth, ac yng nghanol y wlad yr oedd Trem Arfon.

A'r ateb gefais oedd fod pobl yn aros gartref i edrych ar y rhaglen 'Dechrau Canu' ar y teledu.

Ni allaf sôn am sefydlu Canolfan y De heb gyfeirio at brofiadau arbennig iawn a gefais fy hun wrth ymwneud â'r Weinidogaeth Gyfryngol ac â'r Crist presennol - profiadau sydd wedi cyfoethogi fy mywyd ysbrydol.

Er na chefais adnabod RT Jenkins yn ei berson, mi gefais ryw iawn.

Ar ôl cerddad y stryddoedd nes yr oeddwn i wedi mynd yn soldiwr, mi gefais hyd i siop bys arall.

Roeddwn i'n ofni y byddai'r hen drwbl a gefais yn Lerpwl yn dweud yn f'erbyn hefo anffawd fel hyn, ond dywed y doctor fy mod yn syndod o gryf ac iach, a diolch i fywyd braf awyr-agored yr ynys y mae hynny, yn siwr i chi." Er hynny fe roddodd Dad ochenaid.

Digrifir nhw yng nghofrestr yr ysgol, yn ol y wybodaeth a gefais gan y Prifathro presennol, fel 'Day Scholars', a cherddai'r ddau yn ol ac ymlaen i'r ysgol bob dydd, rhyw bedair a hanner o filltiroedd ar draws gwlad.

Collais yr ateb - ond rwy'n gobeithio ei fod yn un gwell na'r un a gefais i pan ofynnais i'r un cwestiwn pan oeddwn yr un oed a hi.

Darfu hynny wella dim ar ei dempar o, a thra oedd o yn trio tawelu'r ddau yrrwr ac edrach faint o dolciau oedd yn eu cerbydau nhw, mi gefais gyfla i'w gwadnu hi odd'no.

'Mi gefais i dy hanes di gan Emrys, ac yr ydw i'n licio dy olwg di.

A son am wefr a gefais pan aethom unwaith am drip rownd Sir Fon.

Y mae arnaf gywilydd na buaswn wedi ateb ynghynt y llythyr a gefais oddi wrthych dros flwyddyn yn ôl.

Ymhlith y llyfrau a gefais yr oedd dau hen lyfr Cymraeg o'r ail ganrif ar bymtheg nad oedd ddichon acel gafael arnynt.

Yn rhyfedd iawn, roedd y digwyddiad yn fy atgoffa o'r tymor cyntaf a gefais fel disgybl yn Ysgol Llanrwst.

Yr argraff a gefais yn fy Ysgol Haf gyntaf oedd ei bod yn ddealledig y dylai holl sbectrwm gweithgarwch cenedlaethol fynd trwy unig sianel Plaid Cymru, a chredaf i hynny fod yn briodol yn y tridegau a'r pedwardegau pan oedd holl ddyfodol Cymru fel cenedl yn dibynnu ar lwyr ymroddiad dyrnaid bychan o bobl, ac mai felly'n unig y gellid gwneud pryd hynny.

Fe gefais ambell waith dynnu Talfan allan o'i gragen, a'i berswadio i rannu ei boen.

Fe gefais yr argraff fod pawb, gan gynnwys Fidel Castro ei hun, yn diodde'r ddefod yn hytrach na mynegi cariad at yr Undeb Sofietaidd.

Pan ail agorwyd gwaith y Gwscwm adeg y Rhyfel Byd Cyntaf fe gefais i'r cyfle i fynd drwy'r hen waith draw hyd waelod y pwll a gweld mai'r Pillar & Stall oedd y dull o weithio'r glo ganddynt ac i edmygu'n fawr grefftwaith ar y pwll oedd tua chan troedfedd o ddyfnder a deg troedfedd ar draws.

Crynodeb byr yw'r canlynol o'r newyddion a gefais wrth bori trwy ddau bapur newydd yn unig y bore yma: Bavaria - tân wedi'i gynnau'n fwriadol mewn tū a oedd yn gartref i deuluoedd Twrcaidd.

Pan gefais fy hel gan fy ngwr i'r llofft i ddarllen y llyfr (yn debycach i dad yn fy siarsio i wneud fy ngwaith cartref), gwnes hyn ag ebychiad ac yn ddi-fwynhad.

"Tyrd, Sam!" Dilynodd y ddau Aled drwy ddrws y cyntedd, ac mi gefais innau fy hun yn mynd gyda nhw.

Edwards yn ol Mrs Lottie Williams Parry pan gefais sgwrs a hi ynglyn a hanes cerddorol y Stiwt.

Dilynais chi i'r llyfrgell y diwrnod wedyn yn fwriadol i geisio dod i'ch adnabod a chael mwy o wybodaeth gennych, ac fe gefais hefyd!

Fe gefais yr ateb wrth holi lleian oedd yn gweithio yn slymiau San Salvador.

"Sgrifenna ati fel petasai'n ferch i ti% - dyna'r unig orchymyn pendant a gefais ganddo.

'Roedd yn adroddiad maith, ond yr ateb a gefais gan Mr Jones oedd, '...

Serch hynny, at ei gilydd, argraff o dref fudr, brysur, chwyslyd, afler, drofannol a gefais, gyda'r Taj Mahal ac ati ar yr ymylon yn rhywle.

Beth bynnag, yr un draffarth gefais i hefo hwnnw.

Ychydig iawn o gwsg a gefais y noson honno, wedi'r cwbwl, nis gwyddwn oedd Mr Bates hyd yn oed yn Dori!

Mi gefais i brofiad - byr diolch byth - o Uffern bnawn Sadwrn diwethaf.

Lliniarwyd y siom gan y swper ardderchog a'r sgwrs anfarwol a gefais gydag ER Yn ei

Gefais air o gyngor hefyd gan un neu ddau o'r blaenoriaid, a chyngor yn siop Glandulyn gan Mr Samuel avies.

Dim ond awr o gwsg a gefais.