Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

geffyl

geffyl

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Y fath sbort a gâi y mân ysbigod bonheddig wrth wrando ar Ernest yn adrodd hanes anffawd Harri y Wernddu a'i geffyl di- ail!

Cynorthwywyd ef i ddod allan o'r ffos gan Ernest a'r bonheddwr ieuanc, ac wedi iddo ddod ato'i hun cafodd fod ei geffyl gwerthfawr wedi torri ei goes, ac ebe Ernest: `Wel, wel, mae'r cwbl drosodd efo fo; gadewch i ni ei roi allan o'i boen,' a chan dynnu ei gyllell allan, torrodd y brif wythi%en yn ei wddf, a gwaedodd yr anifail yn fuan i farwolaeth.

O fis Mis hyd fis Awst-Medi, amhosibl oedd mynd ond ar geffyl neu drol ychen.

Ar y funud honno, syrthiodd un o'r dynion oddi ar ei geffyl a bu farw; ond trwy law Samson daeth yn fyw drachefn.

Dywedodd y mab rywbeth wedyn yng nghlust ei dad, ac ebe'r Yswain: `Dyma ti, Harri, 'rydan ni'n mynd i dreio codi llwynog ddydd Llun; roi di fenthyg dy geffyl i Ernest am y diwrnod?'

A oedd yr hen geffyl yn medru cyfrif i chwech wrth glywed 'clic' y wagenni fel y tynhaent yn gynffon y tu ôl iddo?

Wedyn, pan wnaed ffyrdd o ryw fath fel y gellid mynd â throliau a wagenni i'r chwareli, rhaid oedd wrth geffyl rhwng y llorpiau ar gyfer symud rheini wedyn.

Arwisgo Tywysog Cymru yng Nghernarfon a Lloyd George yn geffyl blaen.

Roedd yna geffyl yr un mor 'gall' yn gweithio yn Chwarel Foty a Bowydd - neu Chwarel Lord ar lafar.

Dyma stori gyfoes, sydd yn ddibynnol ar nodweddion cyfoes i w chynnal - hynny yw, modur a ffawdheglu er bod fersiynau cynnar o'r stori hon ar fathau eraill o drafnidiaeth megis ceffyl a throl, neu geffyl yn unig.

Roedd yn geffyl nobl ac addas at y gwaith.

Mae gwaith fel hyn dipyn yn newydd i chi, ond yr ydw i wedi hen arfer â fo.' Wedi dweud hyn, symudodd Ernest i siarad â rhyw sbrigyn o fonheddwr, a dywedodd yn rhy isel i Harri allu ei glywed: `Mi wna i i'r d l ene dorri corn ei wddw neu gorn gwddw ei geffyl cyn canol dydd.' Canodd y corn, ac ymaith â'r cŵn, a'r marchogion yn eu dilyn.

Y math o geffyl a welir fynychaf erbyn hyn yw ar gyfer ei farchogaeth.

Oedd dad yn "chap" ar gefn ei geffyl ac felly yr ai i'n goedwig ar y mynydd i edrych hynt yr anifeiliaid.

Yna rwyt yn troi pen dy geffyl i ddilyn yr afon, ac ar ôl milltir neu ddwy gweli'r rhyd a'r ffordd sy'n arwain o'r afon i Glan Gors.

Yn wir daeth aml i hen geffyl mor gyfarwydd â gweithio yn y chwarel ag unrhyw un o'r dynion a oedd ynddi.

Ni wnaeth Horton sylw pellach ond ar ol ysbaid, cododd ei ben a gyrrodd ei geffyl nol a blaen ar hyd yr heol.

Tywynnodd ar ei feddwl ei fod wedi syrthio i bwll a gloddiwyd iddo gan Ernest, fod mab yr Yswain, gyda gwên deg a gwenwyn dani, wedi ei hud-ddenu gyda'r bwriad iddo anafu ei geffyl.

Yr oedd yn geffyl mor ardderchog, a chithe yn dŵad am y tro cynta' hefyd.

Peth anlwcus arall yw dymuno'n dda i geffyl neu joci cyn dechrau ras.

Ysbardunai Harri ei geffyl i ddilyn Ernest, a chyn pen yr awr yr oedd wedi blino yn enbyd, a da fuasai ganddo gael gorwedd i lawr yn rhywle, a chafodd gyfleustra yn bur fuan.

Gwyddent yn iawn beth oedd ystyr y corn yn canu i ddweud fod diwrnod gwaith ar ben, ac mae cof o hyd am geffyl a weithiai yn Chwareli'r Oakeley, pan ollyngid ef o'r tresi ar ganiad y corn, yn mynd ar hyd rhan o'r chwarel a thrwy y Lefal Galad, yna dilyn Llwybr y Ceffylau oedd yn mynd dros geg y Twnnel Mawr, i lawr i'r ffordd fawr ac i'w stabl yn y Rhiw ac at y minsiar heb neb wrth ei ben i'r dywys.

Digwyddodd pan oernadodd y cŵn fod ffos lydan a lleidiog i'w chroesi, ac ebe Ernest wrth Harri, oblegid hwy oedd y ddau flaenaf: `Yrŵan amdani, Harri, rhaid i chi gymryd y lêd; neidiwch cyn belled ag y medrwch, achos y mae'r ffos yn llydan.' Plannodd Harri ei ysbardunau yn ei geffyl bywiog, a neidiodd ddwylath pellach nag oedd eisiau iddo, a chwympodd i'r llawr gan daflu Harri i'r ffos.

Rwyt yn troi dy geffyl ar ei ôl a chyn iddo ddianc rwyt yn neidio arno a'i dynnu i'r llawr.

Yn aml, bydd pobl yn dilyn rhyw deimlad anelwig, rhyw 'hunch' wrth fetio ar geffyl.

Gyda'i geffyl a chart bu'n cario sacheidiau o flawd a nwyddau eraill a derbyn tal amdanynt, trwy'r dydd.

Yng ngwledydd y Trydydd Byd mae'r cyferbyniad rhwng cyfoeth gwledydd y Gorllewin a thlodi'r De yn taro'r llygad dro ar ôl tro a pharhau o hyd y mae'r rhyfeddod o weld tystiolaeth ein ffordd wastraffus ni o fyw - can o Coke neu gar Mercedes wrth ochr pwmp dŵr cyntefig neu geffyl a chart.

Yn y diwydiant llechi roedd y 'pedwar carnolyn' yno o'r cychwyn cyntaf un, yn ful ac yn ferlyn, yn asyn ac yn geffyl.

Ac yno oeddan ni'n cael mynd i gyd pan yn blant yn y cerbyd mawr yn cael ei dynnu gan ddau geffyl.

Yn niwedd y pedwar-degau prynodd ffermwr Bryscyni, Capel Uchaf, Clynnog, geffyl a oedd wedi arfer gweithio yn Chwarel Dorothea, Dyffryn Nantlle, ar gyfer y cynhaeaf gwair.

Rhaid, hyd y gellid, oedd rhoi pâr o bedolau newydd i geffyl neu gaseg cyn eu dangos mewn ffair.

Sail y ddadl yw y gellir disgwyl gwell cyfraniad y tu ôl i'r llenni gan berson a fydd yn barod i lafurio'n dawel a diflino heb uchelgais i fod yn geffyl blaen.

Arferai Hugh Owen Talgwyn Isaf gario "visitors" o Lerpwl, Manceinion a Chaer yn ei "waggonett" dau geffyl o Stesion Pentraeth i'r Traeth Coch am ychydig sylltau, a'r un modd o'r Benllech gan fod tua hanner milltir i'r pentre pryd hynny, ond sydd erbyn hyn yn dref reit dda.

Y tro y cafodd ei chipio gan sipsiwn, y tro y rhwystrodd geffyl gwyllt drwy gydio yn un o'r afwynau a chael ei llusgo am hanner milltir - roeddem yn eu credu fel efengyl.

"Mae'n rhaid i mi beidio â'i gollwng," meddyliodd, gan barhau i gael ei lusgo drwy'r tonnau a chan gofio'r tro hwnnw y syrthiodd oddi ar ei geffyl ers talwm a chael ei dynnu ar hyd y ddaear gydag un droed yn sownd yn y warthol.

Am ei geffyl y meddyliai Harri ddydd a nos, ac aeth sôn amdano drwy'r gymdogaeth.

Mewn rhan arbennig o Chwareli'r Oakeley roedd yna un ohonynt wrth ei waith hefo'i geffyl pan lithrodd hwnnw a syrthio ar ei liniau rhwng y bariau am ryw reswm neu'i gilydd.

Mae dy geffyl yn hanner carlamu ar draws y wlad a chyrhaeddi Afon Cynnach ymhen dim.

Un diwrnod penderfynwyd gosod dau geffyl i dynnu'r brêc fawr i Gaernarfon am y tro cyntaf.

Mae'n anlwcus iawn i fetio ar geffyl sydd wedi newid ei enw.

Nid yw'n hollol eglur pa un ai cludwr dynol neu geffyl sydd ym meddwl awdur y Pedair Cainc ond, fel Branwen, mae'n rhaid i Riannon ddioddef darostyngiad mawr.

Galwodd ar ei mab hynaf, a chlywodd ei lais wrth iddo drafod ei geffyl newydd.

Ond, rywfodd neu'i gilydd, roedd yr hen geffyl yn deall yn iawn, a gwrthodai symud hyd nes cael 'ond chwech' y tu ôl iddo.