Ar ambell fore Llun gellid gweld tua dwsin o ffermwyr gyda phâr o geffylau yn disgwyl eu pedoli, a gallai rhai fod yno hyd y prynhawn.
Creodd Gwydion geffylau, cŵn a chyfrwyau drwy hud a lledrith er mwyn twyllo Pryderi a dwyn ei foch.
Cadwai'r bobl geffylau a gwartheg, defaid a chŵn, ac arferent drin rhyw ddarn o dir cyfleus yn agos i'r ddinas a chodi ŷd arno.
Cofion gorau, Lludd Cludwyd y llythyr gan negesydd ar geffylau chwim rhwng y ddwy brifddinas.
Mae yna ryw ychydig o geffylau trymach yn cael eu defnyddio ynglŷn â choedwigaeth yn llusgo'r coed wedi i'r rheini gael eu cwympo a'u torri.
Anrhefn trefnus oedd i'r farchnad geffylau: dyn ac anifail blith draphlith.
Anodd oedd cael amser i oedi a phwyso a mesur rhinweddau y gwahanol geffylau.
Credaf mai ein tŷ ni a'r tŷ nesaf i lawr oedd y tai hynaf yn y stryd, a'u cefnau'n wynebu ar ryw fuarth a stabal ar gyfer hanner dwsin o geffylau.
Wrth ddod o'r twll (sef y tan ddaear) un bore ychydig cyn amser cinio, trodd y prif oruchwyliwr i'r stabl ato a gofyn: "Sut fwyd wyt ti'n 'i roi i'r ceffyl ma?" Atebodd hwnnw: "Tebyg i fwyd labrwr." Cymeriad arall oedd Wil Lloyd Penbryn ac ar un adeg yn gweithio hefo dau o'i geffylau yn un o chwareli'r ardal.
Er i reilffordd, - boed honno'n llinell gul neu n llinell letach, - ddod i gludo cynnyrch y chwareli yn y man a dim galw mwy am y ceffyl ynglŷn â hynny o waith, roedd yna lawer o geffylau yn gweithio tu fewn i'r chwareli, yn llusgo wagenni a sledi - yn llwythog neu fel arall - ar y ffyrdd haearn a oedd yn gwau ac yn cyrraedd i bob twll a chongl mewn chwarel.
Enghraifft syml o hyn yw catalogau sioeau amaethyddol, sy'n adlewyrchu newidiadau ym myd amaeth gyda chatalogau cynnar a dosbarthiadau niferus yn orlawn o geffylau gwedd tra bod catalogau diweddarach yn cynnwys mwy o ddosbarthiadau ar gyfer mnerlod bychain i'r plant.
Ond nid mater o wylio ffilmiau'n unig mo'r žyl, dim mwy na bod Ascot yn geffylau i gyd, neu'r Eisteddfod yn adrodd a cherdd dant neu Wimbledon yn ddim byd ond tenis.
Gwaethygodd y broblem pan ruthrodd plismyn ar geffylau at dorf o 300,000 yn Sgwâr Trafalgar.
A waeth heb a malu awyr am brydferthwch cwysi union gwŷdd main yn sgleinio yn yr haul, a siffrwd y gyllell drwy'r dywarchen, a rhugl y cwlltwr drwy'r pridd wrth i wedd o geffylau porthiannus ei dynnu, a'r certmon rhwng y cyrn yn ei ddal ag un troed yn y rhych ac un goes yn fwy na'r llall drwy'r dydd.