Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

geg

geg

Wedi iddo gyrraedd stesion Blackpool, teimlai ei geg yn grimp.

'Mae gynnon ni drwyddedi,' mentrodd Alun, ei geg yn sych gan ofn.

Felly y bu am yr hanner awr nesaf, y straeon yn byrlymu o'i geg un ar ôl y llall.

Fe â'r firws i mewn trwy'r geg a'r gwddf, ac wedyn mae'n cynyddu yn y corff mewn celloedd arbennig am ddeng niwrnod cyn ail-gyrraedd y gwaed ac achosi pothelli ar y croen a thu fewn y gwddf.

Yn y ddeunawfed ganrif ehangodd y stâd trwy adeiladu dwy gaer anferth ar ei dir, sef Caer Williamsberg a Chaer Belan ar geg orllewinol Afon Menai ger Dinas Dinlle.

"Ca dy geg!' "I blatfform yr orsaf yn borcen...'

'Roedd yn ddarlun o dristwch; ei gnawd yn oer, ei geg yn glafoeri, a'i lygaid mor bwl ddifywyd â llygad pysgodyn marw.

"Cei." "Arian y giat, neithiwr?" Nodiodd ei ben a rhoi ei fys ar ei geg.

Plyciai'r wên egwan yng nghonglau cysgodlon ei geg.

Owan Jos Ty'n Llech ddwedodd wrtho pan oedd yn dyrnu'n y Fadog 'Cau dy geg, neu cad dy din allan o gyrraedd blaen fy nhroed i'.

'Cau dy geg!' meddai'r broga wrth suddo o'r golwg.

Cau dy geg am funud," meddai hithau.

Roedd ei fys ar ei geg a siarsiai Klon a minnau i ddod gydag ef yn ddistaw.

'Wyt ti wedi cael merch rywdro?' Llyncodd Dei ei boer drachefn er bod ei geg yn sych.

Gwelwch dystiolaeth o nerth y lefiathan wrth gerdded i fyny at geg y cwm, yn bonciau o gerrig, powlenni mawnoglyd rhyngddynt a marian terfynnol o gerrig dwad, graean a phridd o'r tu cefn i'r hwn y crewyd y llyn bas.

Mae'r gwenwyn yn parlysu'r chwarennau ac mae hyn yn gwneud i ewyn lifo o geg y cleifion.

'Mae o wedi dangos y tymor yma bod o'n fodlon rhoi ei arian lle mae ei geg o.

Wedi cymryd yr arian glas - a honno'n sownd yn siswrn ei geg - y bachiad sicraf un!

"Yr argian fawr, trowsus 'nhad!" meddai'r dyn pan welodd Rex yn dychwelyd ato'n cludo rhywbeth yn ei geg.

prifathro ata' i ar y diwedd hefyd a 'nghuro i ar fy nghefn a rhoi pat ar fy mhen i ac er bod taten boeth lond ei geg fe ddywedodd wrtha' i: 'We liked you most awfully but we thought your accent might militate againstyou in this type of establishment.

Mae Joe yn brysur iawn ar yr albym gan mai swn unigryw ei allweddellau sy'n agor y gan yma eto, ac mae Justin hefyd yn amlwg ar yr organ geg.

Yn awr, fab dyn, gwrando ar yr hyn a ddywedaf wrthyt, a phaid â gwrthryfela fel y tylwyth gwrthryfelgar hwn; agor dy geg a bwyta'r hyn yr wyf yn ei roi iti.

Roedd yna fachyn i ddal abwyd er mwyn denu'r gath, ac wrth dynnu yn hwnnw i gael y pysgodyn yn rhydd, roedd gwifren yn gollwng drws i lawr am geg y cawell.

Mi fydd wedi merwino'ch clustiau chi cyn pen dim, agorwch y drws inni rwan ac mi gaeith o'i geg yn glep.

Er mai'r set yw'r peth cyntaf a mwyaf hirhoedlog y byddwn yn ei weld o'r ddrama, a'r peth cyntaf sy'n 'dweud' dim wrthym cyn i'r un cymeriad agor ei geg, anaml y bydd yn cael fawr mwy o sylw na hynny.

Os byddi di eisiau gair o gyngor ar y mater, dos di ato fo.' Pesychodd ddwywaith a sychodd ei geg â chefn ei law cyn mynd ymlaen.

Go brin y byddai ef yn gallu rhoi bara yn ei geg â'i law ei hun eto, hyd yn oed petai'n dod dros yr ergyd.

Safodd Gwyn gan agor ei geg a rhwbio ei lygaid yn flinedig.

Welais i 'rioed ferch â chymaint o "awydd" â'ch Rhian chi.' 'Caea dy geg, y mochyn!' Ymsythodd Dilwyn wrth droi at Gary a chau'i ddyrnau ar ei lin.

Gwyddent yn iawn beth oedd ystyr y corn yn canu i ddweud fod diwrnod gwaith ar ben, ac mae cof o hyd am geffyl a weithiai yn Chwareli'r Oakeley, pan ollyngid ef o'r tresi ar ganiad y corn, yn mynd ar hyd rhan o'r chwarel a thrwy y Lefal Galad, yna dilyn Llwybr y Ceffylau oedd yn mynd dros geg y Twnnel Mawr, i lawr i'r ffordd fawr ac i'w stabl yn y Rhiw ac at y minsiar heb neb wrth ei ben i'r dywys.

'Siarad yn gall, ddyn, neu cau dy geg,' meddai Vatilan, yn codi pen-glin rhwng coesau Gemp ac yn torri cawg Kemper llun dyn llodrau llydan am e ben.

Mi aeth yn wyllt walia a phoer mawr o gwmpas ei geg o.

Pan nad oedd El Presidente'n agor ei geg, fe symudai ei draed yn aflonydd neu edrychai ar ei wats.

Ca dy geg, wnei di?'

Teimlodd y poer yn llifo i'w geg wrth eu henwi.

Ni feiddiai agor ei geg a'r 'sbector heb gymryd sylw o'r peth.

Llwyddodd i gael y bachyn o geg y pysgodyn a rhoddodd y brithyll yn “l yn yr afon.

"Biti na f'asa dy geg di 'nte, Mari!" Gresyn na fuasai gennyf finnau amgenach rheolaeth ar fy nhafod.

"Dyna pam yr oedd tyllau yn eich jersi felly," meddai Louis, "ac yn wlyb gan y poer yn disgyn o geg Rex."

Roedd gwenwyn yn y siocled 'na, ond trwy ryw lwc fe ddiferodd o'th geg wrth i ti ddisgyn, neu fe fyddai ar ben arnat erbyn hyn.

Gwelwn yn fy meddwl y gŵr hwn yn cael platiaid o gig moch ac wy i frecwast a gweld tipyn o doddion o gwmpas ei geg!

Roedd yn gweiddi mewn poen wrth geisio symud, ond gan fod ei gyfaill mewn cyflwr gwell, fe lwyddodd hwnnw i lusgo'i hun yn ôl at geg y ffordd.

Heb anghofio Larry Adler, y cerddor harmonica-geg byd-enwog sydd, mae'n debyg, wedi treulio peth o'i amser yng Nghymru.

"Mi fedri gymryd arnat dy fod yn medru canu mewn côr debyg, dim ond i ti agor dy geg a gadael i'r lleill ganu ..." "Lleill?

Ond cyn iddo fedru ynganu'r un gair arall, lluchiodd Gethin ei hun yn erbyn y lli nes bwrw dþr i geg agored ei ffrind.

'Oef, yndydi Mf Huws.' chwythodd Malcym gymyla mawr o agar o'i geg ar war Ifor.

Owen, a'i arian mân yn bentwr o'i flaen, a thrwch y mwg o'i getyn ac o'i geg yn amrywio yn ôl addewid y dominôs yn ei feddiant ar y pryd.

Mae'r Dylluan Wen yn mynd i hela." Yna diflannodd i'r gwyll a Jean Marcel yn syllu'n geg agored ar ei ôl.

Mae'r tâp newydd ddechrau troi, a'r gwahoddiad-orchymyn hwn ar ddechrau'r cyfweliad yn rhagymadrodd i stori fach am y modd y cymerodd Wil Sam yn erbyn nionod unwaith ac am byth yn hogyn bach, pan stwffiodd ei frawd - yr arlunydd a'r hanesydd celf erbyn hyn, Elis Gwyn - slotsyn i'w geg.

'Roedd Cellan Ddu wedi sleifio allan o geg yr ogof ac yn gwthio'i ffordd yn llechwraidd o lech i lwyn tua Nant Gwynant.

Yn St-Suliac, mae stori mai dant rhyw hen gawr yw un o'r meini hirion yno poerodd y cawr y dant o'i geg gyda'r fath nerth nes iddo blannu i mewn i'r ddaear.

Ond heno, fel Neuadd enwog y Dre', Gorsaf yr Heddlu ar geg New Street ac ambell un o adeilada' nodedig er'ill y Port, 'ei le nid edwyn ddim ohono ef mwy.' Er y gellir dod o hyd i rai o'i weddillion yn nhafarn y Ship hefyd!

"W^n i ddim am faint o amser ddaru mi orwedd," meddai, "ond wedi i mi ddod ataf fy hun, teimlais geg Rex yn gafael yn fy ysgwydd." "Ceisio eich llusgo adref yr oedd o," atebodd Louis.

"Cyrnol Grant," meddai, gan godi'r teclyn at ei glust a'i geg ar unwaith.

Roedd y rhai llygadog yn ame cyd-ddigwyddiad dyfodiad Madog i'r pentre a'r ergyd a gafodd Mrs Morris ar 'i chalon - gan awgrymu i Madog ddod a'r hen wraig wyneb yn wyneb a rhywbeth o'i gorffennol a bod Luned yn 'i briodi fe er mwyn iddo fe gadw'i geg ynghau.

Edrychais arno yn syn, gwenodd gan roi ei fys ar ei geg gan sibrwd, "Karachi%.